Yn dilyn ei lansio Ddydd Sadwrn 31 Gorffennaf, bydd peilot y gwasanaeth bws newydd T10 TrawsCymru yn rhedeg o Fangor i Corwen gan ddarparu ffordd fwy cynaliadwy o deithio ym Mharc Cenedlaethol Eryri a’r cyffiniau. Enillodd y gweithredwyr bysiau lleol K&P Coaches a Llew Jones y contract i redeg y gwasanaeth newydd hwn.