Skip to main content

Five-year strategy for Transport in Wales

21 Rhag 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cyhoeddi Strategaeth Gorfforaethol bum mlynedd sy’n amlinellu sut y bydd yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus ac yn annog mwy o bobl i deithio’n gynaliadwy.

Mae’r sefydliad dielw, sy’n eiddo’n gyfan gwbl i Lywodraeth Cymru, yn darparu rhaglen drawsnewidiol a fydd yn gwella llwybrau trên, bysiau a theithio llesol.

Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021’ a amlygodd y rôl bwysig sydd gan trafnidiaeth gyhoeddus yn helpu i gyrraedd statws sero-net erbyn 2050.  Mae’r strategaeth newydd hon gan Trafnidiaeth Cymru yn nodi eu cynllun pum mlynedd er mwyn helpu i gyflawni hyn.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

"Yn TrC, rydym yn gweithio i wella trafnidiaeth gyhoeddus ac am weld llai o bobl yn defnyddio'r car a mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn olwynio, cerdded a beicio.  Rydym yn buddsoddi mewn rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol ac yn canolbwyntio ar greu rhwydwaith mwy cydgysylltiedig ar draws pob dull o deithio.

“Fe wyddom bod rhai heriau o’n blaenau wrth i ni wynebu cyfnod o ansicrwydd ariannol a chostau byw cynyddol.  Mae'r rhyfel yn yr Wcrain wedi rhoi pwysau ar gost deunyddiau ac rydym yn dal i ymgyfaryddo o ganlyniad i'r pandemig byd-eang.

“Fodd bynnag, rydym wedi parhau i fod yn ymrwymedig i'n nodau ac mae'r strategaeth newydd hon yn rhoi amlinelliad clir o sut y byddwn yn eu cyflawni.  Gyda threnau newydd sbon a bysiau trydan newydd yn dod i mewn i wasanaeth ar ddechrau 2023, rydym yn parhau i symud ymlaen gyda’n cynlluniau trawsnewidiol.”  

Strategaeth gorfforaethol, 2021-26 | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru) 

Gallwch ddarllen y diweddariad diwethaf gan James Price, ein Prif Weithredwr, yma Strategaeth 5 Mlynedd ar gyfer Trafnidiaeth yng Nghymru (trc.cymru) 

Llwytho i Lawr