Skip to main content

Five Year Strategy for Transport in Wales

21 Rhag 2022

Heddiw yn Trafnidiaeth Cymru (TrC), rydyn ni’n cyhoeddi ein Strategaeth Gorfforaethol.

Yn TrC, rydyn ni’n newid sut mae pobl yn teithio er gwell.  Rydyn ni yma i helpu pobl Cymru i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy.  Rydym am weld llai o bobl yn defnyddio'r car a mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn olwynio, cerdded a beicio.  Mae ein Strategaeth Gorfforaethol, 2021-26 yn manylu ar sut y byddwn yn cyflawni’r trawsnewidiad hwn yn y ffordd y mae pobl yn meddwl am drafnidiaeth.

TfW - James Price 01

Yr argyfwng hinsawdd yw her fwyaf ein hoes.  Mae’n rhaid i’r camau a gymerwn mewn ymateb i’r her honno ein hamddiffyn ni nawr ac yn y dyfodol, ymaeyng Nghymru a thu hwnt.  Fel y nodir yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021, mae gan drafnidiaeth gyhoeddus ran bwysig iawn i’w chwarae o ran cyflawni sero-net erbyn 2050.  Mae angen buddsoddiad sylweddol yn ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus i ysbrydoli pobl i symud oddi wrth defnyddio'r car.  Er bod rhai cyfnodau heriol o’n blaenau, mae’n parhau i fod yn gyfnod cyffrous i drafnidiaeth yng Nghymru.  

Mae ein Strategaeth Gorfforaethol yn amlinellu blaenoriaethau ac amcanion allweddol i herio a gwrthdroi ymddygiadau trafnidiaeth hirsefydlog drwy newid y canfyddiadau o drafnidiaeth gyhoeddus ac ysbrydoli newid yn y modd rydyn ni’n teithio.  Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gyflawni ein rhaglen sylweddol o drawsnewid ar draws trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, gan caniatáu i Gymry heddiw a chenedlaethau yfory fyw mewn cymdeithas ac amgylchedd gwyrddach, glanach a mwy cysylltiedig. 

Mewn amgylchiadau heriol, rydym eisoes wedi cyflawni llawer y gallwn fod yn falch ohono.

Ar ran Llywodraeth Cymru, rydym yn rheoli rhaglen y Gronfa Teithio Llesol (ATF), y rhaglen ariannu trafnidiaeth fwyaf sydd ar gael i awdurdodau lleol.  Yn 2022/23, gwnaethom fuddsoddi £48 miliwn mewn prosiectau.  Rydym wedi sefydlu rhaglen gymorth ATF i helpu awdurdodau lleol i ddatblygu a chyflawni eu prosiectau, gan neilltuo cynghorwyr rhanbarthol i ddarparu cymorth, arweiniad ac arbenigedd.  Rydym hefyd wedi sefydlu Fforwm Cynghori ar Deithio Llesol, gan ddod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd i hyrwyddo gweithgareddau teithio llesol Trafnidiaeth Cymru a galluogi cydweithio.  Rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i ddatblygu 15 o gynlluniau rhwydwaith gorsafoedd teithio llesol sy’n nodi ac yn blaenoriaethu llwybrau teithio llesol i rai gorsafoedd trên.  Ym mis Tachwedd, gyda chyllid gan Uned Cyflenwi Burns, fe wnaethom gefnogi agor cyfleusterau storio beiciau yng Nghaerdydd a Chasnewydd.

Newport Bike Hub Launch 0-2

Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau ledled Cymru i gyflawni amrywiaeth o brosiectau bysiau.  Yn ystod y pandemig, rhoesom drefniadau ar waith yn gyflym ar y cyd a Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth a rhoi atebion ar waith i weithredwyr oedd ei chael hi’n anodd, a chyda’n gilydd, rydym yn parhau i ddiwygio’r rhwydwaith bysiau.  Fe wnaethom gyflwyno ein gwasanaeth bws ar alw ‘fflecsi‘ ac rydym bellach wedi rhoi’r gwasanaeth hwn ar waith mewn 11 o safleoedd peilot yng Nghymru.  Rydym wedi rhoi cynllun peilot ar waith ar rwydwaith bws a rheilffordd integredig TrawsCymru ac rydym wedi gweithio mewn partneriaeth a Chyngor Gwynedd, Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Gwynfor Coaches i weithredu gwasanaeth bws Sherpa'r Wyddfa ar hyd a lled Parc Cenedlaethol Eryri.

TrawsCymru bus expo (4)

Ar y rhwydwaith rheilffyrdd; rydym wedi disodli 60 o drenau Pacer hen ffasiwn ac wedi dechrau cyflwyno ein trenau dosbarth 197 newydd sbon.  Rydym wedi ychwanegu 20 cerbyd ychwanegol at ein rhwydwaith ac wedi adnewyddu bron pob un o'n fflyd bresennol.  Rydym wedi cyflwyno mwy o wasanaethau ac wedi gostwng prisiau tocynnau i bobl ifanc.  Rydym wedi uwchraddio ac  adnewyddu chwech o'n prif orsafoedd.  Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran adeiladu Metro De Cymru, gwneud gwelliannau i’r traciau a’r signalau a gosod offer llinellau uwchben i drydaneiddio Llinelllau Craidd y Cymoedd.

Fodd bynnag, mae rhai heriau mawr yn ein hwynebu.  Rydym yn wynebu cyfnod o ansicrwydd ariannol a chostau byw cynyddol.  Mae'r rhyfel yn yr Wcrain wedi rhoi pwysau ar gost deunyddiau.  Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn dal yn dod at ei hun wedi'r pandemig.  Eto i gyd, mae lefel yr ymrwymiad a'r penderfyniad y mae ein cydweithwyr a'n partneriaid sy'n cyflawni dros bobl Cymru wedi'i ddangos wedi creu cryn argraff arnaf. Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn yn gweithio'n galed i wneud trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded, olwynio a beicio y ffordd orau o deithio yng Nghymru.

Gan edrych ymlaen, byddwn yn parhau i gefnogi ein 22 partner awdurdod lleol ledled Cymru ar ran Llywodraeth Cymru i wella cyfleoedd cerdded, olwynio a beicio.  Rydym yn gweithio i greu mwy o gyfleoedd i bobl allu llogi a pharcio beiciau yn ddiogel ledled Cymru, ac i wella'r ddarpariaeth cludo beiciau ar drafnidiaeth gyhoeddus.  Byddwn yn parhau i gydweithio ag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i wella mynediad milltir gyntaf a milltir olaf trafnidiaeth gyhoeddus.  Byddwn yn cyflymu’r gwaith o ddarparu seilwaith teithio llesol ledled Cymru, gan gynnwys cyflwyno rheiliau beiciau ar y stryd.

Er mwyn gwella gwasanaethau bysiau ledled Cymru, bydd ein partneriaeth â gweithredwyr bysiau, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn parhau.  Byddwn yn integreiddio amserlenni ac opsiynau tocynnau gyda'n rhwydwaith rheilffyrdd i gryfhau'r cysylltedd rhwng gwahanol ddulliau teithio. Byddwn yn parhau i ddatgarboneiddio fflyd TrawsCymru dros y blynyddoedd nesaf a byddwn yn cefnogi’r prosiect Bws Hydrogen yn Ne Orllewin Cymru.

Byddwn yn parhau i gyflwyno trenau newydd gan gynnwys ein trenau Stadler Dosbarth 231 cyntaf yn gynnar yn 2023 a pharhau i gyflwyno ein trenau Dosbarth 197.  Bydd ein trenau tram Metro newydd yn cyrraedd depo Ffynnon Taf i gael eu profi ganol 2023, cyn dechrau gwasanaeth yn 2024.  Byddwn yn parhau â’n gwaith yn dylunio ac adeiladu’r Metro, gan gyflawni’r gwelliannau sylweddol sydd eu hangen i wneud trafnidiaeth gynaliadwy yr opsiwn hawsaf ar gyfer teithio ledled Cymru a’r gororau.  Yn olaf, byddwn yn parhau i drawsnewid ein gorsafoedd, gan uwchraddio'r seilwaith traciau a signalau i alluogi gwelliannau i amserlenni a gwasanaethau trên ychwanegol.

Er y bydd rhai gwelliannau gweladwy wrth i ni weithio i gyflawni'r trawsnewid hwn, bydd ein cwsmeriaid yn cael eu heffeithio gan rywfaint o darfu ar y gwasanaethau.  Bydd llawer o waith peirianneg, a byddwn yn cwblhau’r rhan fwyaf ohono gyda’r nos gyda’n partneriaid o Amey Infrastructure Wales a Network Rail.  Mae hyn yn sicrhau y gallwn gadw trenau i redeg yn ystod y dydd a chadw ein staff yn ddiogel.  Mae'n golygu, fodd bynnag, y gallai fod yn swnllyd i'n cymdogion ar ochr y trac a gallai olygu gwaith ffordd dros dro mewn rhai ardaloedd.  Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'n cwsmeriaid a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac yn gweithio'n galed gyda'n cydweithwyr i gadw unrhyw anghyfleustra i’r lleiafswm. 

TfW Aberdare Blockade-05

Wrth i ni uwchraddio ein trenau a’n depos trenau, fe fydd yna hefyd gyfnodau lle gallai gwasanaethau trên gael eu tarfu, llai o gerbydau neu byddwn yn defnyddio trenau gwahanol i’r rhai roedd ein cwsmeriaid yn eu disgwyl.  Unwaith eto, byddwn yn gweithio'n galed i leihau'r effaith hon a rhoi gwybod i'n cwsmeriaid am unrhyw wasanaethau bws yn lle trên.  Byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth teithiau ar ein gwefan neu ap yn cael ei diweddaru yn sgil unrhyw newidiadau i'n gwasanaethau.

Byddwn hefyd yn hyfforddi ein cydweithwyr i ddefnyddio ein trenau newydd, gan olygu y bydd trenau newydd yn symud o gwmpas y rhwydwaith ond ddim ar gael i wasanaethu teithwyr.  Bydd gwaith yn parhau mewn gorsafoedd wrth i ni uwchraddio platfformau, meysydd parcio, pontydd troed, peiriannau tocynnau ac adeiladau.  Gall hyn fod yn rhwystredig i'r cyhoedd ond, yn y pen draw, bydd y gwaith hwn yn sicrhau bod cwsmeriaid yn mwynhau profiad llawer gwell a mwy diogel yn yr hirdymor.

Hoffwn gydnabod bod pobl Cymru a'r Gororau eisoes wedi bod yn amyneddgar iawn gyda Trafnidiaeth Cymru wrth inni weithio i drawsnewid ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.  Nid ydym yn cymryd hyn yn ganiataol.  Fodd bynnag, rhaid inni ofyn am fwy.

Mae'r gwaith hwn yn hanfodol o ran mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac mae’n rhaid i ni sicrhau nad yw ein hymrwymiad i fynd i’r afael ag ef yn gwanhau, hyd yn oed wrth wynebu’r cyfnod anodd sy’n ein hwynebu.  Gydag 17% o allyriadau carbon Cymru yn deillio o drafnidiaeth, mae angen i ni greu sefyllfa lle mae llawer iawn o bobl yn dewis peidio â defnyddio'r car preifat.  Mae’r nod hwn yn uchelgeisiol ac, felly, mae ein rhaglen drawsnewid yr un mor uchelgeisiol.  Hoffwn ddiolch i bobl Cymru am eu hamynedd a'u cefnogaeth barhaus wrth i ni wneud y siwrnai hon tuag at Gymru mwy iach, llewyrchus ac ecogyfeillgar.  Gobeithiaf yn fawr y bydd y strategaeth gorfforaethol yn ddefnyddiol i chi ac rydym yn edrych ymlaen at ei roi ar waith ar eich rhan.

Strategaeth gorfforaethol, 2021-26 | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)