Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys yn cyflwyno ei wasanaeth fflecsi sy'n ymateb i'r galw i Rhaeadr Gwy o 2 Tachwedd, gan ddod â chyfanswm nifer yr ardaloedd fflecsi i 13 ar draws Cymru wledig.
Anogir cwsmeriaid sy'n teithio yn ardal Caerdydd i gynllunio a gwirio cyn teithio, wrth i Trafnidiaeth Cymru (TrC) gynnal gwaith uwchraddio seilwaith dros saith diwrnod ar lein Bae Caerdydd.
Mae teithwyr yn cael eu cynghori i gynllunio ymlaen llaw wrth i Network Rail gynnal gwaith adnewyddu a chynnal a chadw hanfodol rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr drwy'r Barri ym mis Hydref.
Mae teithwyr rheilffyrdd ledled Cymru yn cael eu hannog i wirio cyn teithio o ddydd Gwener 23 Hydref a thrwy gydol y penwythnos, gyda newidiadau rhagofalus yn cael eu gwneud i rai gwasanaethau trên cyn tywydd garw.