Skip to main content

Planned engineering work between Newport, Cardiff and the Valleys

16 Maw 2026

Anogir y rheini sy'n teithio ar y trên ledled De Cymru i gynllunio ymlaen llaw gan y bydd gwaith hanfodol yn cael ei wneud rhwng Casnewydd, Caerdydd a'r Cymoedd dydd Gwener 20 tan ddydd Sul 22 Mawrth.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan beirianwyd Network Rail pryd byddant yn disodli rhannau o'r trac ar Brif Lein De Cymru rhwng Casnewydd a Chaerdydd Canolog dros y penwythnos, gyda pheirianwyr Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwneud gwaith pellach ger gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd ar y dydd Sul.

Bydd y gwaith hwn yn effeithio ar bob gwasanaeth sy'n teithio rhwng Caerdydd a Chasnewydd dros y penwythnos, a gwasanaethau'r Cymoedd rhwng gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd ar y dydd Sul. Bydd gwasanaeth bws yn lle trên ar waith a chynghorir teithwyr i ganiatáu amser ychwanegol i deithio.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad TrC: Rydym yn annog pob teithiwr sy'n teithio rhwng Caerdydd a Chasnewydd i wirio cyn teithio, gan yr effeithir ar lawer o'n gwasanaethau dros y penwythnos. Mae hyn yn cynnwys trenau sy'n teithio i Fanceinion, Caergybi, Cheltenham, Glynebwy, Maesteg a rhai o wasanaethau'r Cymoedd ar y dydd Sul.

“I helpu i gadw teithwyr i symud, bydd digon o wasanaethau bws yn lle trên ar waith. Bydd bysiau'n gadael oddeutu pob pum munud rhwng Caerdydd a Chasnewydd, gyda phedwar bws ychwanegol yr awr yn teithio i bob cyfeiriad ar gyfer y teithwyr hynny sydd am ddefnyddio leiniau'r Cymoedd.

“Bydd ein timau wrth law dros y penwythnos i gefnogi cwsmeriaid a'u helpu i gyrraedd eu cyrchfan.”

Dywedodd Nick Millington, cyfarwyddwr llwybrau Network Rail Cymru a'r Gororau: “Mae'r gwaith rydym yn ei wneud rhwng Casnewydd a Chaerdydd yn hanfodol i gadw'r rhan brysur hon o'r trac yn ddiogel, yn ddibynadwy ac yn barod ar gyfer y dyfodol.

“Rydym yn deall pa mor bwysig yw'r gwasanaethau hyn i deithwyr, ac mae'n ddrwg gennym am yr anghyfleustra y bydd yn ei achosi. Diolch i bawb am ei amynedd a’i dealltwriaeth wrth i ni gwblhau'r gwaith uwchraddio hanfodol hwn.”

Mae TrC yn annog pob teithiwr sy'n teithio ar hyd y llwybrau hyn i wirio cyn teithio gan ddefnyddio ap neu wefan TrC.

Gofynnir i deithwyr sy'n talu wrth fynd ar y Metro ddilyn y camau canlynol:

  • Bydd staff TrC yng Nghasnewydd a Chaerdydd Canolog gyda pheiriannau llaw i ddilysu tocynnau talu wrth fynd. Os yw'ch taith yn dechrau neu'n gorffen yn y gorsafoedd hyn, tapiwch i mewn neu allan gan ddefnyddio un o ddilyswyr symudol y tîm, neu siaradwch â'n staff wrth y gatiau.
  • Os ydych chi'n teithio trwy'r gorsafoedd hyn, peidiwch â thapio i mewn nac allan yng Nghasnewydd na Chaerdydd Canolog gan y gallai hyn arwain at daith anghyflawn. Tapiwch i mewn yn yr orsaf y byddwch yn dechrau eich taith ohoni a thapio allan yn eich cyrchfan fel arfer.
  • Bydd staff diogelu refeniw yn gwirio eich bod wedi tapio'n gywir pan fyddwch yn mynd ar neu ddod oddi ar y bws yn lle trên.
  • Mae'n rhaid bod gennych docyn dilys i ddefnyddio’r gwasanaethau bws yn lle trên.

Nodiadau i olygyddion


Gwasanaethau rhwng Caerdydd a Chasnewydd

Bydd y rheilffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd yn cau yn hwyr ddydd Gwener 20 Mawrth, gyda'r bws yn lle trên cyntaf yn gadael gorsaf Caerdydd Canolog am Gasnewydd am 22:55, a Chasnewydd am Gaerdydd Canolog am 23:32. Bydd y gwaith hwn yn parhau drwy gydol dydd Sadwrn a dydd Sul.

Effeithir ar y gwasanaethau trenau canlynol pan fydd y leiniau ar gau:

  • Ni fydd unrhyw wasanaethau trên yn rhedeg rhwng Caerdydd a Chasnewydd.
  • Bydd gwasanaethau i Fanceinion, Caergybi a Cheltenham yn dechrau ac yn dod i ben yng Nghasnewydd. Ni fydd bwyd poeth na gwasanaeth dosbarth cyntaf ar gael rhwng Casnewydd a Manceinion dros y penwythnos.
  • Bydd gwasanaethau rhwng Casnewydd a Glynebwy yn rhedeg bob awr ar ddydd Sadwrn a phob dwy awr ar ddydd Sul.
  • Bydd gwasanaethau Maesteg yn dechrau ac yn dod i ben yng Nghaerdydd Canolog.
  • Bydd gwasanaethau GWR i Lundain Paddington a Exeter St Davids yn dechrau ac yn dod i ben yng Nghasnewydd.
  • Bydd gwasanaethau Harbwr Portsmouth GWR yn dechrau ac yn dod i ben yn Bryste Temple Meads.
  • Bydd GWR yn rhedeg gwasanaethau rhwng Abertawe, Caerfyrddin a Chaerdydd Canolog.
  • Bydd holl wasanaethau CrossCountry rhwng Caerdydd a Nottingham yn dechrau ac yn dod i ben yng Nghasnewydd.

Gwasanaethau bws yn lle trên rhwng Caerdydd a Chasnewydd

Bydd bysiau yn lle trên yn rhedeg rhwng Caerdydd Canolog a Chasnewydd tua bob pum munud, gyda gwasanaethau'n cysylltu â meysydd parcio'r brif orsaf yn y ddwy orsaf. Bydd systemau ciwio ar waith a thimau cymorth cwsmeriaid wrth law i helpu.

Gwasanaethau Llinellau Craidd y Cymoedd

Bydd gwaith peirianneg hanfodol yn cael ei wneud rhwng gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd ddydd Sul 22 Mawrth hefyd yn effeithio ar nifer o wasanaethau Linellau Craidd y Cymoedd.

Effeithir ar y gwasanaethau canlynol:

  • Bydd gwasanaethau Treherbert, Aberdâr a Merthyr yn teithio yn ôl ac ymlaen o orsaf Caerdydd Canolog ar hyd Lein y Ddinas (Parc Ninian). Ni fydd y gwasanaethau hyn yn galw yng ngorsaf Heol y Frenhines, Cathays na Llandaf.
  • Ni fydd unrhyw wasanaethau yn teithio ar lein Coryton.
  • Ni fydd unrhyw wasanaethau'n rhedeg rhwng gorsaf Caerffili a gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd. Ni effeithir ar y gwasanaethau rhwng Caerffili a Rhymni.
  • Ni fydd unrhyw wasanaethau'n rhedeg rhwng gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd. Ni fydd y gwasanaeth pob hanner awr rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd ar waith.

Ni effeithir ar y gwasanaethau rhwng gorsaf Caerdydd Canolog ac Ynys y Barri, Pen-y-bont ar Ogwr a Phenarth a byddant ar waith fel arfer.

Gwasanaethau bws yn lle trên ar gyfer Llinellau Craidd y Cymoedd

Bydd gwasanaeth bws yn lle trên yn rhedeg ar y llwybrau canlynol ddydd Sul:

  • Rhwng Caerffili a Chaerdydd Canolog, yn galw ym mhob gorsaf ar hyd y llwybr.
  • Rhwng Radur a Bae Caerdydd (bob awr), yn galw yn Llandaf, Cathays a gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd
  • Rhwng Radur a Chaerdydd Canolog (bob 30 munud), yn galw yn Llandaf, Cathays a gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd

Bydd Bws Caerdydd yn derbyn tocynnau trên ar fysiau sy'n teithio i Coryton a Bae Caerdydd.