Skip to main content

18 lifesaving bleed kits installed at stations across Cardiff

17 Maw 2026

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi partneru â Heartbeat Trust UK i gefnogi gosod 18 o becynnau rheoli gwaedu mewn gorsafoedd ledled Caerdydd.

Dyma'r tro cyntaf i offer o'r math hwn fod ar gael yn y brifddinas.

Mae'r pecynnau, a roddwyd gan Gronfa Elusennol y Seiri Rhyddion De Cymru, wedi'u hintegreiddio'n uniongyrchol i gabinetau diffibrilwyr presennol i sicrhau eu bod yn weladwy'n glir ac yn hygyrch i'r cyhoedd mewn argyfwng.

Mae'r prosiect yn defnyddio pecyn rheoli gwaedu critigol y Daniel Baird Foundation a dyma yw’r brif fodel sydd wedi'i addasu'n eang ledled Lloegr. Mae pob pecyn yn cynnwys cyfarpar meddygol o safon filwrol, y gall aelodau'r cyhoedd eu defnyddio mewn argyfwng.

Mae eu cyflwyno yng Nghaerdydd yn dilyn rhaglen lwyddiannus yn 2025, pan wnaeth siopau Arthur Llewellyn Furniture ddangos haelioni drwy ariannu citiau ar gyfer gorsafoedd TrC yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot.

Mae'n rhan o raglen diogelwch cymunedol ehangach a sefydlwyd 18 mis yn ôl gan Melanie James YH, cyn Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg ac Ymddiriedolwr Heartbeat Trust UK , gyda'r nod o wella mynediad at becynnau rheoli gwaedu critigol sydd ar gael yn gyhoeddus ledled Cymru yn sylweddol.

Ers ei lansio mae'r rhaglen wedi cefnogi'r ddarpariaeth o fwy na 650 o becynnau ar draws cymunedau Cymru, gyda chefnogaeth gref gan awdurdodau lleol a'r gwasanaethau brys.

Ychwanegodd Rebecca Davies, Rheolwr Gorsaf Caerdydd Canolog:

“Rydym yn falch o gefnogi’r fenter diogelwch cymunedol bwysig hon ac o fod yn un o’r lleoliadau cyntaf yng Nghaerdydd i gael y pecynnau rheoli gwaedu achub bywyd hyn.

“Mae ein gorsafoedd wrth wraidd y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, a gallai’r offer hwn wneud gwahaniaeth hollbwysig mewn argyfwng.

“Rydym yn ddiolchgar i Heartbeat Trust UK a’r holl bartneriaid dan sylw am ein helpu i wneud ein gorsafoedd hyd yn oed yn fwy diogel i’r cyhoedd.”

Ychwanegodd Melanie James JF, Ymddiriedolwr a Hyrwyddwr Rheoli Gwaedu Critigol:

“Mae gosod y pecynnau rheoli gwaedu hyn ledled Caerdydd yn gam sylweddol ymlaen o ran gwella diogelwch y cyhoedd. Ein nod erioed fu sicrhau bod offer achub bywyd ar gael lle mae ei angen fwyaf, ac mae gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru yn ein galluogi i gyrraedd miloedd o bobl bob dydd.

“Rwy’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth barhaus gan TrC, Heartbeat Trust UK a’n holl bartneriaid sydd wedi helpu er mwyn inni allu cyflwyno’r pecynnau hyn yn llwyddiannus.

“Mae’r pecynnau hyn yn achub bywydau, a bydd eu presenoldeb yng ngorsafoedd Caerdydd yn rhoi’r offer hanfodol i’r cyhoedd weithredu’n gyflym mewn argyfwng.”

Nodiadau i olygyddion


Mae’r pecynnau wedi’u gosod yn y gorsafoedd canlynol: 

  • Radur 
  • Llandaf 
  • Parc Waun-gron 
  • Parc Ninian (x2) 
  • Cathays 
  • Caerdydd Heol y Frenhines (x2) 
  • Mynydd Bychan 
  • Llanisien 
  • Llysfaen a Draenen 
  • Llwynbedw 
  • Rhiwbeina 
  • Coryton 
  • Bae Caerdydd 
  • Gorsaf Caerdydd Canolog x3 (mynedfa i’r maes parcio, ar lwyfannau 1 ac 2, a’r brif fynedfa)