19 Chw 2026
Ystyried ymweld â Dyffryn Conwy? Beth am alw yn nhref hyfryd Llanrwst a chyrraedd yno gyda gwasanaeth fflecsi.
Gyda digon o deithiau cerdded golygfaol, bwytai lleol ac adeiladau hanesyddol, dyma ein 5 prif beth i'w gwneud yn Llanrwst:
1. Castell Gwydir
Gerddi hudolus, hanes Tuduraidd cyfoethog a pheunod yn crwydro'r safle – croeso i Castell Gwydir.
Yn adnabyddus fel un o dai o’r cyfnod Tuduraidd gorau yng Nghymru, camwch yn ôl mewn amser yng Nghastell Gwydir. Cafodd ei adfer yn helaeth a chyda llawer o ofal yn ystod y ddau ddegawd diwethaf a bellach, mae'r castell yn cynnig cipolwg ar hanes brenhinol Llanrwst o 1490 hyd heddiw. Ymlwybrwch o amgylch y gerddi a'r tu mewn a dysgwch am ei orffennol cyfoethog trwy'r ystod o arteffactau sydd i'w gweld.
2. Eglwys Sant Grwst
Mae adeilad rhestredig Gradd I Sant Grwst yn werth ymweld ag ef yn ystod eich taith i Lanrwst. Ymgollwch mewn dros 550 mlynedd o hanes a chrefydd cyfoethog gan fwynhau straeon, chwedlau a hanesion. Mwynhewch y bensaernïaeth hardd a'r amgylchedd trawiadol ac ewch ar daith dywys i ddarganfod mwy am hanes yr eglwys. Mwynhewch ddiod boeth a danteithion melys yn y caffi, yn enwedig yn ystod eu sesiynau ‘Paned a Sgwrs’ a gynhelir pob dydd Iau.
3. Mwynhewch daith gerdded olygfaol
Os hoffech weld golygfeydd prydferth Llanrwst, beth am roi cynnig ar daith gerdded 3.5 milltir ? Mwynhewch y golygfeydd godidog o Fynyddoedd y Carneddau a Dyffryn Conwy wrth i chi ymlwybro'r coetir. Gwyliwch allan am amrywiaeth o fywyd gwyllt lleol, o glychau'r gog a garlleg gwyllt i dylluanod a glöynnod byw.
Os hoffech chi fwynhau golygfeydd sydd ymhellach i ffwrdd, mae gennym jest y peth i chi - mae gan Lanrwst gysylltiadau trafnidiaeth gwych â Betws-y-Coed. Mae'r daith gerdded i Rhaeadr Swallow yn un boblogaidd, gyda golygfeydd hardd i'w mwynhau wrth ei throed.
Mae siawns y bydd yr holl gerdded yn gwneud i chi deimlo’n eithaf llwglyd. Os felly, mae gan Lanrwst ddigon o fwytai a chaffis gwych y gallwch eu mwynhau.
4. Bwytewch faint fynnwch chi
A hithau ond yn dref fach, mae'r arlwy bwyd sydd ymhell o fod yn fach. Os ydych yn chwilio am bryd canol bore (brunch), ewch i Yr Hen Danerdy / The Old Tannery neu Café Contessa. Mwynhewch frecwast clasurol, danteithion wedi'u pobi a choffi cynhesol i'ch paratoi ar gyfer y diwrnod. Yn enwog am eu pysgod a'u sglodion blasus mae Tir A Môr. P'un a ydych am gael pysgodyn a sglodion i fynd neu eistedd i lawr i fwynhau eich bwyd, mae gan eu bwydlen amrywiol rywbeth at ddant pawb. Os mai danteithion melys sy'n mynd â'ch bryd, Scilicorns Bakery yw’r lle i chi lle cewch deisen eisin gyda jam a bara brith - mae'r caffi yn enwog iawn!
5. Siopa yn lleol
Os hoffech ddod â'ch diwrnod i ben gyda chrwydr o amgylch y siopau annibynnol, ewch i ganol y dref. Mae deli Blas ar Fwyd yn gwerthu cawsiau, siytni a gwinoedd lleol – y cofrodd perffaith ar gyfer ymweliad â Llanrwst. Mae Lle Nila, neu Siop Sioned gynt, yn llawn o roddion wedi'u gwneud â llaw. O glustdlysau a magnetau i nodau tudalen a breichledau, mwynhewch yr amrywiaeth o eitemau a wneir gan drigolion creadigol lleol. Mae OakOwlFox.Ltd. yn gwerthu nwyddau cartref hyfryd hefyd. Cofiwch alw yno os mai dyma sy'n mynd â'ch bryd. Mae’n llawn o eitemau traddodiadol - clustogau lliwgar, planhigion, printiau a mwy – llawer o bethau i harddu eich cartref.
Ein gwasanaeth fflecsi yw’r dewis teithio delfrydol i gyrraedd Llanrwst. P'un a ydych am deithio o amgylch yr ardal neu angen lifft i fwynhau noson allan, ein gwasanaeth fflecsi yw'r ffordd ymlaen.
Cynlluniwch eich taith yma: https://trc.cymru/fflecsi