Skip to main content

Customer and Rail performance improvements for Transport for Wales

06 Maw 2026

Mae ystadegau diweddar gan Transport Focus, y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd a Mynegai Bodlonrwydd Cwsmeriaid y DU i gyd yn datgelu gwelliannau ym modlonrwydd cwsmeriaid a pherfformiad rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

Yn ddiweddar, rhoddodd Transport Focus sgôr o 91% i TrC o ran boddhad cyffredinol teithwyr yn eu harolwg cenedlaethol diweddar, sy'n eu gosod yn bedwerydd ymhlith gweithredwyr trên y DU.

Rhoddodd teithwyr sgôr o 91% hefyd i drenau TrC, gan ystyried gorlenwi, diogelwch personol a glendid.

Yn ogystal â hynny, fe wnaethant gyflawni cynnydd o chwe phwynt canran o ran prydlondeb, o 82 y cant i 88 y cant, sef y gwelliant mwyaf o un chwarter i’r llall chwarter o unrhyw weithredwr rheilffordd.

Mae ystadegau diweddar gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) yn dangos gwelliant o 5.5 pwynt canran ym mherfformiad y rheilffyrdd, gan wneud TrC y gweithredwr sydd wedi gwella fwyaf yn y DU am y trydydd cyfnod yn olynol (11eg allan o 24 yn gyffredinol).

Mae cyfraddau canslo wedi gweld gwelliant o 3.6 pwynt canran, gan wneud TrC yr ail weithredwr sydd wedi gwella fwyaf (15fed allan o 24).

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi buddsoddi dros £800 miliwn mewn trenau newydd sbon ar gyfer rhwydwaith Cymru a'r Gororau ac mae’r cwmni yng nghyfnodau olaf y gwaith o gwblhau Metro De Cymru gwerth £1 biliwn.

Mae rhwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd – rhan o Metro De Cymru, sy'n eiddo i ac yn cael ei redeg gan Trafnidiaeth Cymru, wedi gweld ffigurau o dros 90% ar gyfartaledd o ran perfformiad y rheilffordd dros y chwe mis diwethaf.

Mae ffigurau Mynegai Bodlonrwydd Cwsmeriaid y DU (UKCSI) hefyd yn datgelu bod sgôr TrC wedi cynyddu o 67.1 ym mis Ionawr 2025 i 72.5 ym mis Ionawr 2026, sydd unwaith eto’n dynodi gwelliannau ym modlonrwydd cwsmeriaid.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Rwyf wrth fy modd â’r cynnydd y mae TrC wedi’i wneud o ran trawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru i ddarparu profiad gwell i gwsmeriaid.

“Mae’r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos bod ein hymrwymiad a’n buddsoddiad i wella gwasanaethau rheilffordd ledled Cymru yn amlwg yn dwyn ffrwyth. Mae trenau newydd, gwasanaethau mwy rheolaidd a dibynadwy a nawr prisiau wedi'u rhewi, sy'n cadw'r costau i lawr i deithwyr, ynghyd â buddsoddiad mewn datblygu Metro De Cymru, yn ein helpu i symud i’r cyfeiriad cywir.

“A chyda buddsoddiad unwaith mewn cenhedlaeth o £14bn gan Lywodraeth y DU yn ein rheilffyrdd, mae mwy o adegau cyffrous i ddod.”

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Gweithredu TrC: “Mae'r ystadegau diweddar hyn gan Transport Focus, Y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd a Mynegai Bodlonrwydd Cwsmeriaid y DU yn dangos bod ein buddsoddiad yn ein gwasanaethau rheilffordd bellach yn cael effaith gadarnhaol ar berfformiad ein rheilffyrdd a phofiad ein cwsmeriaid.

“Mae ffigurau o’r tri chorff allanol ar wahân hyn i gyd yn adrodd stori am welliant ym mherfformiad y rheilffyrdd a boddhad cwsmeriaid. 

“Mae trenau newydd sbon i’n rhwydwaith yn gwella profiadau ein cwsmeriaid o deithio ar y trên, gyda gwell seddi, sgriniau gwybodaeth a chysur cyffredinol, ond maen nhw hefyd yn rhoi mwy o gydnerthedd i ni sy’n caniatáu rhwydwaith mwy prydlon, sydd wedi’i gysylltu’n well.

“Hoffwn hefyd dalu teyrnged i’n cydweithwyr rhagorol a’r timau ar draws TrC sy’n byw ac yn anadlu ein gwerthoedd bob dydd ac yn gwella’r profiad i’n cwsmeriaid yn gyson.

"Er ei bod hi'n wych gweld gwelliannau, rydyn ni'n gwybod bod llawer mwy i'w wneud. Byddwn ni'n parhau i herio ein hunain i wneud pethau hyd yn oed yn well i'n teithwyr eleni."

 

Llwytho i Lawr