Skip to main content

Railway 200 ‘Inspiration’ exhibition train returns to Wales

12 Maw 2026

Mae'n bleser gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) a Network Rail gyhoeddi y bydd trên arddangos ‘Ysbrydoliaeth‘ Rheilffordd 200 yn dychwelyd i Gymru ym mis Ebrill.

Yn dilyn ymddangosiad llwyddiannus yn Llandudno a groesawodd dros 1,000 o ymwelwyr, bydd y trên arddangos yn cyrraedd gorsaf Abertawe ddydd Sul 26 Ebrill ac yn aros yno nes ddydd Mawrth 28 Ebrill.  Mae'r ymweliad yn dathlu Abertawe fel man geni rheilffordd gyntaf y byd i deithwyr trenau.

Mae'r arddangosfa, a guradwyd ar y cyd â'r Amgueddfa Reilffordd Genedlaethol, yn cynnig trosolwg cyflym o reilffyrdd y gorffennol, y presennol a'r dyfodol trwy arteffactau prin a ffeithiau hwyliog a diddorol rhyngweithiol.

Mae'r digwyddiad yn rhan o ddathliad Rheilffordd 200 ar draws y diwydiant, sy'n nodi dwy ganrif ers genedigaeth y rheilffordd fodern lle chwaraeodd Cymru ran bwysig gyda thaith stêm gyntaf Richard Trevithick a'r daith hanesyddol i deithwyr a dynnir gan geffylau ar hyd Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls.

Dywedodd y Gweinidog Rheilffyrdd, yr Arglwydd Peter Hendy: “Mae'n creu cryn falchder i mi i ddathlu ein treftadaeth fel man geni'r rheilffordd fodern; hyd heddiw ein rhwydwaith rheilffyrdd yw asgwrn cefn ein heconomi, gan sbarduno twf economaidd, swyddi a chartrefi.

“Gyda'r trên hwn, nid ydym yn edrych i'r gorffennol yn unig, rydym yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf amrywiol o beirianwyr, gyrwyr, arweinwyr a thechnegwyr, ac yn taflu goleuni ar yr hyn y mae'r rheilffordd yn ei gyflawni heddiw.”

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: “Rydym wedi cydweithio ar draws y diwydiant rheilffyrdd a chymunedau i drefnu digwyddiadau sy'n dathlu gorffennol, presennol a dyfodol rheilffyrdd.

“Yn dilyn llwyddiant ymweliad Inspiration â Llandudno, mae TrC a Network Rail wedi gweithio'n galed i'w drefnu iddo ddychwelyd i Dde Cymru. Rydym wrth ein bodd y gallwn ei gynnal yn Abertawe, dinas a chwaraeodd ran bwysig yn hanes y rheilffyrdd.”

Dywedodd Josh Bliszko, Rheolwr Rhaglen (Newid) Network Rail Cymru a'r Gororau: “Mae ein rhwydwaith rheilffyrdd wedi'i ddylunio, ei adeiladu a'i weithredu gan bobl - ac mae Rheilffordd 200 yn ddathliad o'r bobl hynny.

Rydym yn falch iawn bod y Trên Ysbrydoliaeth yn dod i ymweld ag Abertawe, lle byddwn yn anrhydeddu etifeddiaeth y rhai a ddaeth o'n blaenau, yn dathlu'r cydweithwyr sy'n cadw'r rheilffordd i redeg heddiw, ac yn ysbrydoli pobl o bob oed a allai ffurfio rhan o weithlu llwybr Cymru a'r Gororau yn y dyfodol."

Dywedodd Emma Roberts, Rheolwr Rhaglen Rheilffordd 200: “Rheilffyrdd yw un o ddyfeisiadau pwysicaf ein hanes.  Y tu mewn i'r trên hwn, gallwch archwilio hanes rheilffyrdd mewn amgylchedd hwyliog ac un sy’n ddelfrydol i deuluoedd.

“Mae'r tren Ysbrydoliaeth eisoes wedi teithio miloedd o filltiroedd ar draws Prydain - o'r Alban i Southampton - ac roedd derbyniad gwych yn Llandudno, felly rydym yn edrych ymlaen yn fawr i groesawu pobl leol ar y tren yn Abertawe."

Mae tocynnau'n rhad ac am ddim ond y cyntaf i'r felin yw hi gan fod y tocynnau yn brin. Archebwch yma https://railway200.co.uk/ 

Nodiadau i olygyddion


Rheilffordd 200: 2025 oedd 200 mlwyddiant y rheilffordd fodern, a ysbrydolwyd gan agoriad Rheilffordd Stockton a Darlington ym 1825, taith a newidiodd y byd am byth. Fel rhan o brosiect Rheilffordd 200, cynhaliwyd dathliadau ledled y wlad trwy gydol 2025, gan arddangos sut y lluniodd y rheilffordd Brydain a'r byd a sut mae ei achau arloesol yn parhau heddiw ac yn siapio yfory. Fel rhan o arddangosfa Rheilffordd 200, bydd tren Ysbrydoliaeth ar daith tan fis Mehefin 2026.

Chwaraeodd Cymru ran ganolog yng ngwreiddiau'r rheilffordd fodern: o arbrofion locomotif cynnar Richard Trevithick i Reilffordd Abertawe a'r Mwmbwls a dynnwyd gan geffylau, llinell deithwyr fasnachol gyntaf y byd.

Mae mwy na 70,000 o bobl wedi ymweld â thrên arddangos Rheilffordd 200 ar ei daith yn ymweld â 60 lleoliad, taith blwyddyn o hyd o Brydain, ac yn ôl adborth byddai 9 o bob 10 ymwelydd yn ei argymell fel atyniad.

 

Railway 200 ‘Inspiration’ exhibition train returns to Wales