Skip to main content

International Women’s Day gives us a moment to pause, reflect and celebrate the women who shape our workplaces and communities.

12 Maw 2026

Eleni, rydyn ni wedi siarad â Natalie Hill, Rheolwr Dysgu a Datblygu yn TrC. Mae Natalie yn rhannu ei thaith yrfa hyd yma a’r heriau y mae wedi’u goresgyn ar hyd y ffordd. 

Dywedwch ychydig fwy wrthym am eich rôl. 

Rwy’n hwylusydd dysgu a datblygu sy’n arbenigo mewn ymddygiadau. Fel rhan o fy rôl yn TrC, rwy’n canolbwyntio ar ddatblygu arweinyddiaeth, gan ddarparu hyfforddiant Insights a gweithdai i dimau gysylltu’n well ac i ddeall ei gilydd. Rwyf hefyd yn darparu hyfforddiant ar draws y busnes ac ar hyn o bryd rwy’n astudio tuag at fy nghymhwyster ILM Lefel 7 mewn hyfforddi a mentora gweithredol. Yn y bôn, fy rôl yw arwain ein pobl drwy weithdai, hyfforddiant a dysgu i ddatblygu eu galluoedd, sicrhau eu bod yn gweithredu ar eu gorau a meithrin diwylliant o ddysgu a myfyrio parhaus. 

Dywedwch wrthym am y profiadau sydd wedi eich siapio heddiw. 

Y dylanwad mwyaf ar bwy ydw i heddiw oedd dod yn fam ifanc, a olygai bod yn rhaid i mi aeddfedu’n gyflym. Rwy’n dweud bob amser mai fy merch Ava achubodd fy mywyd — roedd yr holl deimladau negyddol ynghylch fy hun bryd hynny yn sydyn yn teimlo’n amherthnasol gan nad oeddwn erioed wedi teimlo cariad tebyg iddo o’r blaen. Roedd gen i’r ferch bach hardd hon i ddibynnu arnaf am bopeth. Gwnaeth geni Ava fy ngwthio i wneud yn well, i fodelu’r un ymddygiadau penderfynol a’r un moeseg gwaith a wreiddiwyd ynof gan fy mam. 

Fodd bynnag, graddio o’r brifysgol a bod y cyntaf yn fy nheulu i wneud hynny oedd un o uchafbwyntiau fy mywyd. Wrth sefyll yno gyda fy rhieni wrth fy ochr ac Ava, oedd ond chwech oed ar y pryd, yn gwylio — roeddwn i’n gwybod fy mod yn dangos iddi beth all penderfyniad ei gyflawni, ac nad oes llwybr penodol mewn bywyd ond y llwybr rydych chi’n ei greu eich hun. 

Grad 2016 - degree (1)-2

MSc grad 2021-2

Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu, a sut wnaethoch chi eu llywio? 

Roedd cydbwyso fy ngyrfa â bod yn fam yn dod â’r ‘euogrwydd mam’ hwnnw. Sut wnes i lywio hyn oedd atgoffa fy hun bod hyn i gyd er ei mwyn hi er mwyn dangos iddi beth y gall hi ei gyflawni a sicrhau fy mod yn gwneud gwahaniaeth yn y gwaith. 

Pa gyflawniad sydd wedi golygu’r mwyaf i chi, a pham? 

Ennill y wobr Buddsoddi mewn Pobl a Datblygu yng Ngwobrau Rheilffyrdd Cenedlaethol y llynedd gyda’m cydweithiwr Mark, ar ôl blynyddoedd o waith caled, oedd yn golygu’r byd i mi.  Byddai unrhyw un oedd yno wedi gweld fy sioc llwyr!  Rwy’n credu ei fod oherwydd ein bod wedi gweithio mor galed ac yn gwybod yr effaith bwerus oedd yn digwydd i bobl o fewn TrC yn bersonol ac yn broffesiynol, nad oedd pawb bob amser yn ei gweld. Roedd cael ein cydnabod ar y raddfa honno’n golygu’r byd i mi, ac i ddathlu hynny gyda Mark a phawb sy’n ein cefnogi oedd y teimlad gorau! Roedd y lliwiau Insights sy’n berthnasol i mi ‘melyn a gwyrdd’ yn berffaith ar gyfer yr achlysur! 

award 2025-2

Sut mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn dylanwadu ar sut rydych chi’n meddwl am eich gwaith a’ch cymuned? 

Mae bob amser yn gwneud i mi fyfyrio ar daith fy merch; mae hi’n 15 oed ac yn awyddus iawn i weithio yn y sector peirianneg. 

Rwyf eisiau iddi wybod ei bod yn cael ei gwerthfawrogi am bwy ydy hi a’r hyn y gall ei gynnig, ac nad yw’n cael ei thrin yn wahanol oherwydd hynny. Dyna pam rwy’n hyrwyddwr positif iawn dros ymwybyddiaeth ymddygiadol mewn sefydliadau - mae’r genhedlaeth nesaf yn dod i mewn i’r gweithlu eisoes yn fwy ymwybodol yn emosiynol nag y sylweddolwn, ac maen nhw wedi’u magu mewn cyfnod gwahanol i ni. Ein dyletswydd ni yw addasu i’r ddealltwriaeth emosiynol honno a meithrin y meddyliau ifanc hyn mewn ffordd gadarnhaol i annog ein pobl i ddangos eu potensial gorau un. Rwyf eisiau parhau i deimlo’n falch o’r cwmni rwy’n gweithio iddo, ei fod yn adlewyrchu fy ngwerthoedd ac yn lle diogel i unrhyw un fod yn eu hunain.

TFw pride parade (1)-2