06 Ion 2023
Mae teithwyr rheilffordd yn Ne Cymru yn cael eu rhybuddio i wirio cyn teithio wrth i Trafnidiaeth Cymru (TrC) wneud gwaith peirianyddol rhwng Caerdydd a’r Cymoedd.
Y gwaith yw y cam diweddaraf o drawsnewid Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd (CVL) ar gyfer Metro De Cymru.
Bydd y rheilffordd rhwng Radur a Phontypridd ar gau rhwng dydd Sul 8 Ionawr a dydd Gwener 27 Ionawr, ac eithrio dydd Iau 12 a dydd Gwener 13 Ionawr.
Yn ogystal, bydd gwasanaethau hefyd yn cael eu hatal rhwng Caerdydd Canolog a Radur rhwng dydd Sul 8 Ionawr a dydd Mercher 11 Ionawr.
Rhwng dydd Sadwrn 14 Ionawr a dydd Sul 22 Ionawr, ni fydd unrhyw wasanaethau i'r gogledd o Bontypridd i Dreherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful.
Mae TrC yn annog teithwyr i wirio am y wybodaeth ddiweddaraf am deithio cyn gwneud eu teithiau. Bydd y manylion diweddaraf i’w weld ar wefan ac ar ap TrC.
Yn ystod y cyfnod cau, bydd gwasanaethau bws yn lle trenau ar waith. Yn ogystal â'r rhain, bydd tocynnau yn cael eu derbyn ar wasanaethau bws lleol detholedig.
Bydd Metro De Cymru yn gwella cysylltedd yn sylweddol ledled De Cymru ac yn darparu mynediad at swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i bobl Cymru drwy uno llwybrau rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol. Mae’r prosiect wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Bydd y gwaith sy'n cael ei wneud yn cynnwys gosod offer gwifrau uwchben a sylfeini ar gyfer signalau newydd. Bydd arglawdd y rheilffordd yn cael ei ledu yng ngorsaf Pentre-bach, a bydd gwaith uwchraddio yn cael ei wneud i Bont Droed y Diafol a Phont Droed Mynwent y Crynwyr. Bydd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn gwneud gwaith dargyfeirio pibell nwy ar hyd Rheilffordd Treherbert.
Nodiadau i olygyddion
Yn ystod y gwaith hwn, rydym yn gweithredu gwasanaethau bysiau yn lle trenau. Yn ogystal â’r rhain, bydd modd derbyn tocynnau ar wasanaethau bysiau lleol dethol – mae’r llwybrau bysiau canlynol ar gael:
Caerdydd Canolog i Radur (Linell y Ddinas) – Gwasanaethau Bws Caerdydd 21, 23, 24, 25, 61 a 63
- Caerdydd Canolog - gwasanaeth 25 o Wood Street, 21 23 a 24 Gwasanaeth o Stryd Westgate
- Waun-gron - Gwasanaeth 61 ar Heol Waungron
- Y Tyllgoed - Gwasanaeth 61 o'r Ganolfan Iechyd (Ffordd Plas Mawr)
- Danescourt – Gwasanaeth 63 ar Danescourt Way
- Radur - 63 o Heol Isaf
Caerdydd Canolog i Bontypridd – Gwasanaethau TrawsCymru (Stagecoach) T4
- Caerdydd Canolog - T4 o Heol y Brodyr Llwydion (Gall cwsmeriaid dal y trên i Heol y Frenhines a cherdded i Heol y Brodyr Llwydion yn lle cerdded y llwybr cyfan)
- Heol y Frenhines Caerdydd - T4 o Heol y Brodyr Llwydion
- Cathays - T4 o Heol y Brodyr Llwydion
- Llandaf - Gwasanaethau 24 a 25 o Heol yr Orsaf
- Radur - 63 o Heol Isaf
- Pontypridd - T4 o'r Orsaf Fysiau
Wrth gynllunio eich taith, cyfeiriwch at ein gwefan neu ap TrawsCymru, neu gwefannau Bws Caerdydd a Stagecoach, i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich llwybr teithio.
Bydd posteri gwybodaeth hefyd yn cael eu harddangos mewn gorsafoedd ar y llinellau yr effeithir arnynt ac bydd ein gwiriwr teithio (JourneyCheck) hefyd yn cael ei ddiweddaru i hysbysu teithwyr.