16 Rhag 2022
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn llwyddiannus yn eu trafodaethau yn cytuno ar gytundeb cyflog gweithwyr gyda’i partneriaid yn yr Undebau Llafur.
O ganlyniad i drafodaethau parhaus gyda ffocws clir ar ddatblygu partneriaeth gymdeithasol, mae’r fargen derfynol yn cynnwys oddeutu 4.5% o godiad cyflog gwaelodlin gyda rhannau gwahanol o’r sefydliad yn destun modelau cyflog gwahanol.
Fel sefydliad dielw, sy’n eiddo’n gyfan gwbl i Lywodraeth Cymru, mae Trafnidiaeth Cymru wedi alinio’n llwyr â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) ac yn deall ei gyfrifoldeb i gyflawni i bawb yng Nghymru, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth:
“Mae hwn yn newyddion gwych, newyddion sy’n amlygu’r ffaith ein bod yn mynd ati i wneud pethau’n wahanol yng Nghymru, gan sicrhau cytundeb cyflog teg trwy bartneriaeth gymdeithasol flaengar gydag Undebau sy’n cydnabod gwerth ein gweithwyr rheilffyrdd. Rydym yn annog Llywodraeth y DU yn gryf i ddilyn ein hesiampl drwy drafod cytundeb cyflog gydag Undebau yn Lloegr er mwyn osgoi streic a tharfu pellach i deithwyr a nwyddau.”
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol TrC:
“Rydym yn hynod falch ein bod wedi dod i gytundeb gyda’n holl bartneriaid yn undebau llafur y diwydiant – ASLEF, RMT, TSSA ac Unite. Rydym yn parhau i gydweithio â'n Hundebau Llafur wrth i ni adeiladu ein model partneriaeth gymdeithasol sy'n cynnig buddion i bawb.
“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n holl bartneriaid a fu’n rhan o’r trafodaethau a hefyd amlygu mor bwysig yw hi ein bod yn cefnogi ein gweithlu yn yr argyfwng costau byw hwn.”
Ychwanegodd Natalie Feeley, Trefnydd Rhanbarthol, TSSA Rhanbarth y Gorllewin:
“O ganlyniad i’r trafodaethau, yn aml mewn amgylchiadau heriol, mae TSSA yn falch ein bod wedi gallu dod i gytundeb da ar ran ein haelodau. Mae hyn yn dyst i’r dull o weithio ar ffurf partneriaeth gymdeithasol yr ydym yn ei hyrwyddo’n frwd pan fyddwn mewn trafodaethau â’r cwmni.”
Dywedodd Alan McCarthy, Swyddog Cydlynu Rhanbarthol, Unite Wales:
“Mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod heriol iawn i weithwyr, heb unrhyw arwyddion clir hyd yma bod y broblem Costau Byw yn lleddfu. Rydym yn falch bod y dull partneriaeth gymdeithasol aeth yr Undebau Llafur a Trafnidiaeth Cymru ati i’w feithrin wedi arwain at y cynnig y cytunwyd arno, cynnig yr oedd y gweithwyr o’r farn ei fod yn deg gan fynd ati i bleidleisio i’w dderbyn.”
Dywedodd Mick Lynch, Ysgrifennydd Cyffredinol RMT:
“Mae RMT yn ymroddedig iawn i sicrhau bargen deg i holl weithwyr y Rheilffyrdd. Mae cydnabyddiaeth TrC o fandad cryf yr RMT yn y maes hwn wedi'n helpu i wneud cynnydd da. Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos yn glir y gellir osgoi anghydfodau Rheilffyrdd trwy gynnal trafodaethau ystyrlon.”