- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
20 Rhag 2022
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn atgoffa cwsmeriaid i gynllunio eu teithiau Noswyl Nadolig yn ofalus a dim ond teithio ar y trên os oes gwir angen gan y bydd gweithredu diwydiannol yn golygu y bydd gwasanaethau rheilffordd yn dod i ben yn gynnar.
Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cyhoeddi y bydd gweithredu diwdiannol ar 24-27 Rhagfyr fydd yn amharu’n sylweddol ar y rhwydwaith rheilffyrdd ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.
Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn ymwneud â’r gweithredu diwydiannol. Fodd bynnag, mae’r gweithredu diwydiannol sy’n deillio o’r anghydfod rhwng yr undebau a Network Rail yn golygu na all Trafnidiaeth Cymru weithredu gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail. Effeithir ar wasanaethau gweithredwyr eraill hefyd gan y gweithredu diwydiannol.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynghori cwsmeriaid i wneud teithiau hanfodol yn unig ar Noswyl Nadolig, ac i anelu at ddod a'u taith i ben erbyn hanner dydd gan y bydd gwasanaethau’n dirwyn i ben yn y prynhawn cyn dechrau gweithredu diwydiannol fin nos.
Ni fydd gwasanaethau TrC yn gweithredu Ddydd Nadolig na Gŵyl San Steffan, gan ailddechrau ar 27 Rhagfyr – bydd gwasanaethau ar rai llwybrau’n dechrau yn hwyrach nag arfer y diwrnod hwnnw oherwydd y streic. Ni fydd gwasanaethau Llinellau Craidd y Cymoedd yn rhedeg ar Ddydd Calan chwaith.