Skip to main content

Work begins on new Butetown railway station

11 Ion 2023

Yn fuan, bydd y gwaith yn dechrau ar adeiladu gorsaf reilffordd newydd yn Butetown ac i ailddatblygu gorsaf Bae Caerdydd fel rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf sydd wedi digwydd i drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal ers cenhedlaeth.  

Yn ystod Haf 2022, cadarnhaodd Trafnidiaeth Cymru (TrC) gynlluniau i adeiladu gorsaf dau blatfform newydd yng ngogledd Butetown. 

Bydd yr orsaf bresennol ym Mae Caerdydd yn cael ail blatfform hefyd, yn ogystal ag arwyddion newydd, sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid a gwelliannau eraill. Bydd gorsaf Bae Caerdydd yn aros ar agor i deithwyr tra bydd y gwaith yn cael ei wneud. 

Bydd y gwaith o osod cledrau newydd yn golygu bod modd cynnal gwasanaethau cyflymach ac amlach gan ddefnyddio trenau tram newydd, gan ein galluogi i gyflwyno amserlen newydd o 2024 ymlaen. 

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Mae prosiect trawsnewid Llinell y Bae yn rhan bwysig o Fetro De Cymru ac rydyn ni’n falch iawn o allu dechrau’r gwaith adeiladu ar yr orsaf newydd sbon yn Butetown, yn ogystal ag uwchraddio gorsaf Bae Caerdydd. 

“O 2024 ymlaen, byddwn yn darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus modern, mwy llyfn a mwy gwyrdd a fydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i bobl sy’n byw yn Butetown ac yn ardal ehangach Bae Caerdydd. 

“Rydyn ni’n awyddus i barhau i gydweithio â thrigolion lleol drwy gynnal gweithdai a sesiynau galw heibio, lle bydd pobl yn gallu cael rhagor o wybodaeth a gofyn cwestiynau am drawsnewid Llinell y Bae.” 

Bydd y cynlluniau hyn yn cyd-fynd â gweledigaeth gydweithredol ehangach, yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru.  Bydd y gwaith yn archwilio opsiynau posibl ar gyfer llwybrau trafnidiaeth rhwng Caerdydd Canolog a Heol Casnewydd yn y dyfodol, drwy linell Bae Caerdydd a Phorth Teigr ar yr amod bod cyllid yn cael ei sicrhau.

Lansiwyd ymgynghoriad saith wythnos ar 12 Rhagfyr i gael adborth gan y cyhoedd, a bydd y canfyddiadau’n sail i achos busnes amlinellol y prosiect. Gall aelodau’r cyhoedd gael rhagor o wybodaeth a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy fynd i’r dudalen Ymgysylltu â Chymunedau a Rhanddeiliaid ar wefan TrC.  

Cysylltwyd â thrigolion Bae Caerdydd sy’n byw yn agos at y rheilffordd i roi iddynt fanylion y gwaith adeiladu a pheirianneg sy’n cael ei wneud yn yr ardal sydd ei hangen i gyflawni rhaglen Llinellau Craidd y Cymoedd, wrth wraidd datblygiad Metro De Cymru.   

Bydd y gwaith o adeiladu compownd adeiladu ar Rodfa Lloyd George yn dechrau’r mis hwn a bydd gwaith ar y cledrau yn dechrau yn gynnar yn 2023.  Yn fuan, bydd TrC yn dechrau paratoi ar gyfer adeiladu compownd adeiladu ar ochr y cledrau ar Rodfa Lloyd George i helpu i reoli ei waith, ac i ddarparu cyfleusterau lles i weithwyr.

Bydd gwaith rheoli llystyfiant hefyd yn cael ei wneud i glirio parthau trydanol ar gyfer y cyhoedd, y staff a seilwaith ar gyfer y cyfarpar llinellau uwchben a fydd yn cael ei osod.  

Bydd TrC yn defnyddio cyfarpar llinellau uwchben i redeg y trenau tram trydanol. Gyda llinellau wedi’u trydaneiddio’n cael eu gosod ar Linellau Craidd y Cymoedd yn Ne Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf, gan gynnwys ar llinell y Bae, hoffai TrC dynnu sylw’r cyhoedd at beryglon tresmasu ar y rheilffordd. Mae tresmasu ar y rheilffordd yn anghyfrifol, yn anghyfreithlon ac yn beryglus, a gallai’r rheini sy’n cael eu dal gael dirwy o £1000. 

Gyda gwaith trydaneiddio yn mynd rhagddo dros y misoedd nesaf, mae TrC yn annog y cyhoedd i ddilyn rheolau tresmasu ac i gadw’n glir o unrhyw linellau trydan. 

Mae Llywodraeth Cymru a TrC wedi ymrwymo i raglen uchelgeisiol o welliannau i’r Metro, sef Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae’r prosiect trawsnewid hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.  

Nodiadau i olygyddion


Gall y cyhoedd ddod o hyd i fanylion sesiynau galw heibio cymunedol sydd ar y gweill, yn ogystal â manylion am sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar estyniadau pellach i linellau, drwy fynd i trc.cymru/ymgysylltu  

Gellir cael yr wybodaeth ddiweddaraf am drawsnewid Llinell y Bae ar wefan TrC yn:

trc.cymru/trawsnewid-llinell-bae-caerdydd

Llwytho i Lawr