Skip to main content

Electrification progress on the South Wales Metro

13 Ion 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cymryd cam arall ymlaen yn rhoi Metro De Cymru ar waith drwy osod mwy na 6,500 metr o wifrau trydaneiddio uwchben dros y Nadolig. 

Bydd Metro De Cymru yn gwella cysylltedd yn sylweddol ledled y rhanbarth a bu timau’n gweithio bob awr o’r dydd a’r nos, dros y gwyliau, i sicrhau bod gwaith mawr yn cael ei gwblhau.

Ynghyd â gosod gwifrau uwchben ar gyfer y trydan, gosododd y timau 250 o fastiau metel, pont droed newydd yng Nghwmcynon, dwy groesfan tanlwybr yn Heol y Frenhines Caerdydd ynghyd â phrofi system signalau newydd.

Hefyd, yn nepo Ffynnon Taf, a fydd yn gartref i drenau tramiau trydan newydd sbon yn y blynyddoedd i ddod, gwnaed gwaith sylweddol a gosodwyd 195 o byst tenau (sheet pile) yn Aberdâr ar gyfer platfform a dolen trac newydd.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth: “Hyd yn hyn, dyw llawer o’r gwaith sy'n cael ei wneud ar Fetro De Cymru - i raddau helaeth - ddim yn weladwy.  Eleni a’r flwyddyn nesaf, bydd hyn yn newid.

“Dim ond y dechrau yw’r gwaith rhagorol a wnaed dros y Nadolig ar gyfres o gamau a fydd yn dod yn fwyfwy amlwg wrth i ni weithio tuag at ein nod o adeiladu system Metro newydd erbyn diwedd 2024.  Mae’r prosiect hwn, sy'n werth tua £1 biliwn, yw prosiect peirianneg mwyaf a'r un mwyaf cymhleth sydd ar waith yng Nghymru a bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau.”

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC: “Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’n holl dimau a phartneriaid am eu gwaith dros y Nadolig,.  Fe wnaethon nhw aberthu eu gwyliau er mwyn i ni allu datblygu Metro De Cymru.

“Hoffwn hefyd ddiolch i'n holl gymdogion ymyl y llinell am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i ni gwblhau'r gwaith uwchraddio hwn.

“Rydym wedi cyrraedd carreg filltir allweddol arall o ran cyflawni'r prosiect hwn ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at barhau i symud ymlaen yn 2023.

“Bydd Metro De Cymru yn trawsnewid y ffordd y mae pobl yn teithio ac yn darparu opsiwn mwy cynaliadwy i ddefnyddio'r car, gan gefnogi’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd.”

Ariennir y prosiect yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.