Skip to main content

Disruption to TfW services this December and January – check before you travel

09 Rhag 2022

Mae teithwyr rheilffordd yn cael eu rhybuddio i baratoi ar gyfer tarfu ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau yn ystod Rhagfyr a Ionawr. 

Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cyhoeddi y bydd gweithredu diwydiannol ar 13-14, 16-17 a 24-27 Rhagfyr a 3-4 a 6-7 Ionawr.

Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar y rhwydwaith rheilffyrdd ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.

Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn ymwneud â’r gweithredu diwydiannol.  Fodd bynnag, mae’r gweithredu diwydiannol sy’n deillio o’r anghydfod rhwng yr undebau a Network Rail yn golygu na all Trafnidiaeth Cymru weithredu gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail.

Gweithredu diwydiannol

13-14 a 16-17 Rhagfyr a 3-4 a 6-7 Ionawr – dim ond gwasanaethau yng Nghaerdydd a’r cyffiniau fydd yn gallu gweithredu

Bydd mwyafrif y gwasanaethau ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau yn cael eu hatal.  Fel ar ddiwrnodau streic blaenorol, bydd gwasanaeth bob awr yn rhedeg rhwng Caerdydd a Chasnewydd, Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful a Rhymni.

Ni all unrhyw wasanaethau eraill ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau weithredu ar ddiwrnodau streic.

Ar 15 Rhagfyr a 5 Ionawr, bydd amserlen lawn yn gweithredu ond bydd gwasanaethau’n dechrau’n hwyrach nag arfer – bydd y streiciau’n effeithio ar sifftiau signalau sifft nos, felly dim ond pan fydd signalwyr ar sifft cynnar yn cyrraedd ar ddyletswydd y gall gwasanaethau ddechrau.  Am ragor o wybodaeth ewch i   Gweithredu diwydiannol | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)   

24-27 Rhagfyr

Bydd gwasanaethau'n gorffen yn gynt na'r arfer ar 24 Rhagfyr ac yn dechrau'n hwyrach ar 27 Rhagfyr oherwydd y gweithredu diwydiannol.  Nid fydd unrhyw wasanaethau yn rhedeg ar 25 a 26 Rhagfyr.

Dywedodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Prif Swyddog Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru: “Mae cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn draddodiadol yn gyfnod prysur iawn i’r diwydiant rheilffyrdd ac eleni gyda chynifer o ddiwrnodau o weithredu diwydiannol yn cael eu cynnal drwy gydol mis Rhagfyr a mis Ionawr, mae’n hanfodol bod teithwyr yn gwirio’r wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio.

“Rydym yn parhau i gynghori pobl i deithio ar y trên ar ddiwrnodau streic dim ond os ydynt wedi gwirio’r cynlluniwr taith yn gyntaf.  Er nad ydym yn rhan o’r gweithredu diwydiannol, dim ond tua 10% o’n gwasanaethau fydd yn rhedeg a bydd y mwyafrif o rwydwaith Cymru a’r Gororau heb unrhyw wasanaethau o gwbl.”

Gweithredwyr eraill - Great Western Railway

Bydd GWR yn gallu gweithredu i/o Gaerdydd ar 13/14/16 Rhagfyr a 3/4/6 Ionawr, ond nid ar ddydd Sadwrn 17 Rhagfyr na 7 Ionawr.

Ni fydd gwasanaethau Great Western Railway yn rhedeg ar Ddydd Nadolig na Gŵyl San Steffan.

Dydd Mawrth 27 tan ddydd Sadwrn 31 Rhagfyr

Bydd trenau rhwng Llundain a De Cymru yn rhedeg ond yn cael eu dargyfeirio rhwng Swindon a Chasnewydd – gan ychwanegu tua 25 munud at hyd y daith.

  • Bydd gwasanaeth bob awr yn gweithredu rhwng London Paddington ac Abertawe
  • Bydd y trenau hyn hefyd yn galw yn Patchway
  • Trefnir bysiau gwennol rhwng Patchway a Bristol Parkway

Ewch i   Teithio dros y Nadolig | Great Western Railway (gwr.com)  am fwy o wybodaeth

Gwaith peirianyddol arfaethedig

Gyda niferoedd is o deithwyr i’w disgwyl dros gyfnod y Nadolig, mae Trafnidiaeth Cymru yn achub ar y cyfle i gyflawni darnau mawr o waith seilwaith.  

Gallwch ddarllen gwybodaeth am sut mae hyn yn effeithio ar wasanaethau teithwyr yma Newidiadau i wasanaethau trên | TfW (trc.cymru)

Bydd Network Rail yn gwneud gwaith peirianyddol rhwng Abertawe a Chaerfyrddin rhwng Rhagfyr 24 a 0400 ar 27 Rhagfyr, pan nad oes disgwyl i drenau gweithredu. Bwriedir gwneud rhagor o waith peirianyddol rhwng y ddau leoliad rhwng Rhagfyr 31 a Ionawr 2, gyda gwasanaeth bws yn lle trên.

Teithio ar fws

I gael trosolwg o drefniadau teithio’r Nadolig gan weithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ewch i dudalen ‘Gwybodaeth Teithio’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd’ Traveline Cymru neu ffoniwch linell gwasanaeth cwsmeriaid Traveline Cymru - Rhadffôn 0800 464 0000.

Bydd llinell gymorth Traveline Cymru ar gael bob dydd dros gyfnod y Nadolig ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan, gyda llai o oriau ar Noswyl Nadolig a Dydd Calan.

Os ydych chi'n teithio'n rheolaidd ar wasanaethau Traws Cymru, gallwch weld amserlenni'r Nadolig yma:   https://traws.cymru/cy/christmas-2022   

Cofiwch y bydd rhai cwmnïau bysiau ledled Cymru yn gweithredu amserlenni llai gan ddod a gwasanaethau i ben yn gynt ar Noswyl Nadolig, Nos Galan ac ar ddiwrnodau eraill dros gyfnod y Nadolig, gyda rhai gwasanaethau’n cau ar Ddydd Nadolig a Gŵyl San Steffan yn ogystal â Dydd Calan.

Cynlluniwch ymlaen llaw a gwiriwch cyn teithio.