Skip to main content

Making greener choices - what we’re doing and what you can do

21 Rhag 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru yma i wneud teithio cynaliadwy yn ddewis naturiol ac i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Rydyn ni’n gweithio tuag at nodau uchelgeisiol i gefnogi targedau sero net 2050 Llywodraeth Cymru. Byddwn yn datgarboneiddio rhwydweithiau trafnidiaeth Cymru ac yn gwella ansawdd aer ein cymunedau. Ond rydyn ni angen eich help chi i wneud hyn.

Un o’r penderfyniadau mwyaf o ddydd i ddydd sy’n gallu effeithio ar ein hinsawdd yw eich dull o deithio i’r gwaith, am hamdden, neu i weld ffrindiau a theulu. Yn 2020, roedd trafnidiaeth wedi cynhyrchu 24% o gyfanswm allyriadau carbon y DU.

Dyma sut rydyn ni’n gweithio i leihau ôl troed carbon Cymru a sut gallwch chi wneud dewisiadau teithio mwy gwyrdd i helpu i ddiogelu ein planed.

 

Creu rhwydwaith trafnidiaeth mwy gwyrdd

Rydyn ni’n gweithio i ddatgarboneiddio rhwydwaith trafnidiaeth Cymru ac i leihau bygythiad y newid yn yr hinsawdd. Dyma rai o’r pethau rydyn ni’n eu gwneud.

 

Sut gallwch chi deithio’n fwy cynaliadwy

Mae llawer o ffyrdd o leihau eich ôl troed carbon wrth deithio. Beth am feicio neu gerdded eich taith gyfan neu ran ohoni, neu i’ch gorsaf agosaf? Mae gan lawer o’n gorsafoedd fannau storio beiciau diogel, felly gallwch chi adael eich beic cyn parhau â’ch taith ar y trên.

Bike rack at Abergavenny station

Mae dal y trên neu’r bws yn ffordd wych o gael ychydig o amser i chi eich hun yn y bore. Gallwch chi wrando ar eich hoff bodlediad (ydych chi wedi rhoi cynnig ar Jest y Tocyn?), darllen llyfr neu fwynhau golygfeydd godidog Cymru.

Mae defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu feicio yn lleihau tagfeydd ar y ffordd a sŵn ac allyriadau traffig ffordd.

Cardiff central 2022  (6)-2

Eisiau diwrnod ychydig yn wahanol? Gadewch y car gartref a theithio i fannau ffantastig ar hyd a lled Cymru ar y trên. Dyma ychydig o ysbrydoliaeth.

TfW Conwy line landscapes (9)

Meddyliwch sut gallwch chi deithio mewn ffordd fwy gwyrdd tro nesaf.

Drwy newid ein ffordd o feddwl a gwneud newidiadau bach i’n harferion o ddydd i ddydd, gallwn ni gyd wneud gwahaniaeth enfawr i’r effaith rydyn ni’n ei chael ar y blaned.

*Ystadegau trafnidiaeth a’r amgylchedd 2022 | GOV.UK