20 Hyd 2022
Ar gyfartaledd, mae gyrwyr y DU yn treulio 115 awr y flwyddyn yn gaeth mewn traffig.* Mae trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn rhoi’r cyfle i ni roi wfft i’r car, cymryd hoe fach, dysgu rhywbeth newydd a hyd yn oed dal i fyny gyda ffrindiau. Dyma rai ffyrdd syml y gallwch chi wella'ch taith i'r gwaith a defnyddio'r amser rhydd hollbwysig hwnnw.
(*Inrix - INRIX Global Traffic Scorecard: Congestion cost UK economy £6.9 billion in 2019 - INRIX)
Cynlluniwch ymlaen llaw – defnyddiwch ap TrC
Cyn teithio, cofiwch ddarllen yr wybodaeth ddiweddaraf am eich taith er mwyn sicrhau y cewch daith ddi-straen a’r llwybr cyflymaf hefyd. Mae ap TrC yn hawdd i’w ddefnyddio. Mae ganddo wybodaeth a nodweddion defnyddiol fel amseroedd trên diweddaraf, gwiriwr capasiti a’r gallu i storio eich tocynnau mewn waled!
Mae'r ap rhad ac am ddim ar gael yn y siop app a siop Google Play.
Manteisio ar deithio llesol
Mae cerdded neu feicio ill dau yn ffyrdd iachus o deithio, yn enwedig yn y bore. Yn lle eistedd mewn traffig, dechreuwch eich diwrnod trwy gerdded neu feicio i'ch gorsaf leol.
Os hoffech chi ddefnyddio eich beic, mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd beicio - y cyntaf i'r felin yw hi. Ar rai gwasanaethau efallai y byddwn yn gofyn i chi gadw lle ymlaen llaw wrth brynu eich tocyn.
Os ydych am barcio eich beic mewn gorsaf, gallwch ddarganfod pa gyfleusterau sydd ar gael yn eich gorsaf leol yma.
Gwrandewch ar bodlediad TrC – Jest y Tocyn
Pa amser gwell i wrando ar sut rydyn ni'n mynd ati i redeg rhwydwaith rheilffyrdd nag ar eich taith i'r gwaith? Mae podlediad TrC yn trafod amrywiaeth o bynciau – popeth o wella gorsafoedd a chynaliadwyedd i wasanaethau fflecsi a’r prosiect Metro. Gallwch ddewis o nifer o benodau, pob un ohonynt yn para tua 20 munud. Gallwch ofyn cwestiynau ac ymuno â thrafodaethau podlediadau gan ddefnyddio'r hashnod #TfWPod.
Gwrando ar Jest Y Tocyn | Just the Ticket yma.
Dysgu sgil newydd
Oes gennych chi 30 munud i'w sbario ar eich taith trên neu fws? Trowch eich taith i’r gwaith yn gyfle i ddysgu sgil newydd - darllen llyfr, gwrando ar bodlediad neu wylio fideo. Mae'r rhan fwyaf o'n gwasanaethau yn cynnig wifi am ddim , felly beth am edrych ar y rysáit newydd hwnnw sy'n ymddangos yn dipyn o her, gwylio fideo ar sut i uwchgylchu hen ddodrefnyn neu ddefnyddio ap i ddysgu iaith newydd.
Cysylltu â chyd-deithwyr
Yn syml, gallai dweud 'helo' neu 'bore da' wrth y person nesaf atoch fynd yn bell ac arwain at sgwrs ddiddorol. Ar ôl bron i ddwy flynedd o deimlo unigrwydd a theimlo'n ynysig, rydym am helpu pobl i ailgysylltu, gan ddechrau gyda’r teithiau a wnânt. Yn hytrach na hoffi sylw yn y cyfryngau cymdeithasol neu rithwir, beth am gysylltu â'r pobl sydd o'ch cwmpas?