Skip to main content

South Wales Metro works to progress in new year

18 Rhag 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i fwrw ymlaen â chynlluniau gweddnewidiol ar gyfer Metro De Cymru ddechrau 2021.

Gan fod disgwyl i nifer y teithwyr fod yn isel oherwydd COVID-19, mae TrC manteisio ar y cyfle i gyflawni rhan fawr o waith seilwaith. I bawb a fydd yn teithio yn ystod y cyfnod tawelach hwn, bydd bysiau yn rhedeg yn lle’r trenau ar gyfer pob gwasanaeth trên i’r gogledd o Radur o ddydd Sul 3 Ionawr tan ddydd Sul 17 Ionawr. 

Bydd y cyfnod o 14 diwrnod yn caniatáu i TrC fwrw ymlaen â’i gynlluniau a chyflawni gwaith peirianneg trawsnewidiol pwysig ar gyfer Metro De Cymru.

Bydd bysiau yn lle trenau ar gael ar gyfer gwasanaethau ar reilffyrdd Aberdâr, Merthyr a Threherbert ac rydym yn annog yr holl gwsmeriaid i wirio gwybodaeth ar-lein cyn iddynt deithio.  Disgwylir i systemau cynllunio teithiau gael eu diweddaru o 23 Rhagfyr 2020 ymlaen er mwyn caniatáu i deithwyr gynllunio eu teithiau.

Bydd Metro De Cymru yn gwella cysylltedd ledled De Cymru yn sylweddol ac yn sicrhau mynediad at swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i bobl Cymru drwy uno llwybrau teithio i drenau, bysiau a theithio llesol.  

Mae prosiect Metro De Cymru wedi ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth  Cymru. 

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Ddechrau 2020 fe wnaethon ni agor ein Canolfan Metro yn Nhrefforest a dechrau gwaith ar ein depo £100 miliwn yn Ffynnon Taf.  Drwy gydol y flwyddyn mae ein timau a’n partneriaid wedi bod yn gweithio’n galed iawn, mewn amgylchiadau anodd, i adeiladu Metro De Cymru.

“Byddwn yn dechrau 2021 gyda cham arall ymlaen yn ein cynlluniau trawsnewidiol.  Byddwn yn darparu bysiau yn lle trenau ar gyfer gwasanaethau i’r gogledd o Radur am 14 diwrnod, ar adeg pan fydd y galw’n isel oherwydd COVID-19. Bydd hyn yn galluogi ein timau i fwrw ymlaen â gwaith hanfodol fel rhan o gam nesaf Metro De Cymru. 

“Rydym wedi ymrwymo i gynlluniau uchelgeisiol yma yn TrC ac mae’n hanfodol ein bod yn parhau i symud ymlaen gyda’r gwaith o gyflawni hyn.”

“Hoffwn ddiolch i’n holl gwsmeriaid a’n cymdogion rheilffordd am eu hamynedd, ac rwy’n annog unrhyw un sydd angen teithio i gynllunio ymlaen llaw.”

Fel rhan o’r gwaith peirianneg hwn am 14 diwrnod i alluogi cam nesaf Metro De Cymru, bydd TrC yn cyflawni amryw o weithgareddau fel torri llystyfiant, ymchwiliadau tir, arolygon dylunio, gwyro cyfleustodau, gosod llwybrau ceblau, uwchraddio pwyntiau mynediad cledrau, a gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y cledrau.

Nodiadau i olygyddion


Mwy o wybodaeth:

Adeiladu Trenau Trafnidiaeth Cymru newydd: https://newyddion.trc.cymru/newyddion/adeiladu-trenau-trafnidiaeth-cymru-newydd

Gwaith ar gledrau’r Metro yn parhau yn y Cymoedd: https://newyddion.trc.cymru/newyddion/gwaith-ar-gledrau-r-metro-yn-parhau-yn-y-cymoedd

Dechrau adeiladu Canolfan Rheoli’r Metro yn Ffynnon Taf: https://newyddion.trc.cymru/newyddion/dechrau-adeiladu-canolfan-rheoli-r-metro-yn-ffynnon-taf

Llwytho i Lawr