18 Rhag 2020
Mae gwaith yn parhau ar adeiladu trenau newydd Trafnidiaeth Cymru ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau a Metro De Cymru er gwaethaf yr heriau sy’n codi yn sgil pandemig COVID-19.
Mae TrC yn buddsoddi £800 miliwn mewn trenau a threnau tram newydd i drawsnewid profiad y cwsmer yn llwyr drwy ei rwydwaith Cymru a’r Gororau. Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo gyda’n partneriaid diwydiant CAF a Stadler i ddylunio ac adeiladu’r trenau newydd a fydd yn gweithredu 95% o’i wasanaethau rheilffyrdd.
Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud ar drenau tram Class 398 ac mae gwaith wedi dechrau ar drenau Class 231. Mae’r ddau’n cael eu hadeiladu gan Stadler ar gyfer Metro De Cymru. Ochr yn ochr â’r rhain, mae trenau Class 197 Civity yn cael eu hadeiladu i’w defnyddio ar lwybrau eraill Cymru a’r Gororau ac yn cael eu cydosod yn ffatri CAF yn Llanwern ar hyn o bryd.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Mae’n wych gweld cynnydd ar ein trenau newydd sbon. Rwyf wrth fy modd bod ein partneriaid yn CAF a Stadler wedi gallu bwrw ymlaen â’r gwaith cydosod er gwaethaf y sefyllfa heriol sydd ohoni.
“Bydd COVID-19 yn parhau i gyflwyno heriau ond rydyn ni wedi gallu symud ymlaen, a’r mis hwn rydyn ni wedi gweld cynnydd enfawr o ran ein trenau, yn ein Depo yn Ffynnon Taf yn ogystal â chyflawni gwaith trawsnewid traciau ar reilffordd Aberdâr.
“Mae TrC yn parhau i gyflawni ein cynlluniau trawsnewid ac mae’r trenau cyflymach a mwy effeithlon hyn yn hanfodol er mwyn gwella amseroedd teithio, amlder gwasanaethau a’n nodau cynaliadwyedd.”
Mae TrC hefyd yn y broses o gynnal profion ar drenau Class 769 ar reilffordd Caerdydd i Rymni. Bydd y trenau mwy, gyda chyfleusterau hygyrchedd gwell a mwy o seddi yn cael eu cyflwyno i’r gwasanaeth drwy’r dydd ym mis Rhagfyr.
Dywedodd Frank Renault, Cyfarwyddwr Rhaglen Trawsnewid TrC:
“Mae gweithgynhyrchu ein fflydoedd newydd a phrofi trenau Class 769 yn gamau mawr ymlaen ar ein taith drawsnewid, mewn cyfnod anodd.
“Hoffwn ddiolch i’n rheolwyr prosiect a’n cydweithwyr peirianneg ymroddedig am eu hymdrechion diflino ar y prosiect hwn, yn ogystal â’n partneriaid cyflawni, am eu proffesiynoldeb a’u dyfalbarhad wrth fwrw ymlaen â’r cynnydd hwn ac, yn bwysicaf oll, i’n teithwyr am eu hamynedd a’u cefnogaeth.”
Dywedodd rheolwr prosiect Stadler, Sandro Muster:
“Nawr bod gwaith cynhyrchu cyrff y cerbydau 35 FLIRTau ar waith, bydd yr wythnos nesaf yn nodi dechrau cam pwysig iawn arall yn y broses weithgynhyrchu, a elwir yn waith cydosod terfynol. Dyma lle bydd y prif gydrannau sy’n rhan o’r trên yn cael eu gosod, gan gynnwys y brif echel, caeadau’r offer, pibellau, gwifrau, lloriau, ffenestri, seddi a gosodiadau mewnol eraill. Pan fydd y trenau’n dechrau edrych fel trenau, bydd hynny’n dod â nhw gam yn nes at gael eu cyflwyno i deithwyr ymhen ychydig flynyddoedd.”