06 Tach 2020
Bu cam arall ymlaen yn y gwaith ar Fetro De Cymru y penwythnos diwethaf gyda gwaith trawsnewid ar y cledrau rheilffordd ar Linell Aberdâr.
Cyflawnwyd y gwaith yn llwyddiannus gan Trafnidiaeth Cymru ac un o’i bartneriaid cyflenwi, Balfour Beatty, ac mae’n baratoad allweddol ar gyfer trydaneiddio’r llinell, a fydd yn y dyfodol yn darparu ffordd fwy cynaliadwy ac effeithlon o deithio.
Gweithiodd timau o gwmpas y cloc, drwy’r penwythnos, i ostwng bron i 200 metr o gledrau rheilffordd yn yr hen lofa rhwng Cwm Bach a gorsaf Fernhill, gan gynyddu’r bwlch rhwng y trac a’r drosbont.
Mae prosiect Metro De Cymru wedi ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
“Dyma gam arall ymlaen ar gyfer y datblygiad trafnidiaeth pwysig hwn. Bydd ein systemau Metro yn cynyddu mynediad teithwyr at drafnidiaeth gyhoeddus gyfleus, ac rwyf eisiau diolch i’r staff a weithiodd mor galed i gyflawni’r gwaith mewn tywydd arbennig o heriol.”
Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Rhaglen Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru:
“Y penwythnos hwn, gwelwyd y gwaith trawsnewid cledrau rheilffordd mawr cyntaf ar gyfer Metro De Cymru yn yr hen lofa ar Linell Aberdâr.
“Gweithiodd ein timau yn gyson o ddydd Gwener tan fore Llun, gan ostwng y cledrau yn llwyddiannus, a fydd yn y dyfodol yn cael eu defnyddio gan ein trenau metro newydd sbon.
“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n holl dimau ac i’n partneriaid cyflawni Balfour Beatty am gyflawni’r cynllun hwn. Oherwydd Covid 19, rydym wedi wynebu sawl her, ac roedd tywydd y penwythnos yn golygu bod yr amodau gwaith yn anodd, ond gweithiodd ein timau’n galed i gyflawni’n ddiogel, yn brydlon a chan beri’r aflonyddwch lleiaf posibl.”
“Roedd llwyddiant y gwaith yn arwydd o’r agwedd gydweithredol sydd i'w gweld ledled y Rhaglen Drawsnewid.
Bydd Metro De Cymru yn gwella cysylltedd yn sylweddol ledled De Cymru ac yn sicrhau mynediad at swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i bobl Cymru drwy uno llwybrau teithio i drenau, bysiau a theithio llesol.
Dywedodd Alasdair Macdonald, Cyfarwyddwr Prosiect Balfour Beatty:
“Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi llwyddo i ostwng y rhan gyntaf o draciau o dan y bont yn yr hen lofa, gan nodi dechrau'r gwelliannau hanfodol i’r cledrau ar gyfer prosiect Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Gyda'r cledrau hyn yn eu lle, rydym yn parhau i fwrw ymlaen â’r gwaith cyflawni prosiect a fydd yn darparu teithiau dibynadwy yn ogystal â chysylltu cymunedau ledled Cymru.
“Fel cynghrair, mae Balfour Beatty wedi gweithio ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi i sicrhau bod y garreg filltir gyntaf hon yn cael ei chyrraedd yn ddiogel ac yn effeithlon, gan gwblhau’r gwaith yn gynt na'r disgwyl.”