Skip to main content

Hidden security cameras prevent railway cable theft

28 Ion 2026

Cafodd ymgais i ddwyn ceblau ei atal yn ei unfan gyda Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio â Heddlu De Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i atal troseddu ar y rheilffyrdd, ac arestiwyd y tresmaswyr yn llwyddiannus.

Yn ystod oriau mân Nos Galan 2025, canfu camerâu diogelwch cudd, a oedd wedi'u lleoli ar hyd Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL), dri unigolyn yn tresmasu ar y cledrau ger Pentre-bach.

Rhybuddiodd y system dimau diogelwch Trafnidiaeth Cymru (TrC), a gydlynodd ymateb gyda Heddlu De Cymru. Fe wnaeth swyddogion atal y rhai a ddrwgdybir yn y fan a'r lle, a chawsant eu harestio wedyn ar amheuaeth o ladrad. Mae'r achos bellach wedi'i drosglwyddo i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i ymchwilio.

Torrwyd a symudwyd dros 125 metr o geblau gyda gwerth sgrap amcangyfrifedig o £2,000.

Mae gwir gost lladradau o'r fath yn sylweddol uwch, gyda digwyddiadau tebyg y llynedd yn costio dros £750,000 i'r trethdalwr mewn atgyweiriadau, gan achosi cannoedd o oriau o oedi a chanslo i deithwyr.

Gyda 99% o rwydwaith Metro De Cymru bellach wedi'i drydaneiddio, mae Trafnidiaeth Cymru yn rhybuddio'r cyhoedd bod lladrad ceblau bellach yn cario risg llawer uwch a bod rhaid trin yr holl offer llinellau uwchben a cheblau wrth ymyl y rheilffordd fel pe baent yn fyw bob amser.

Dywedodd Loren Curry, Cyfarwyddwr Prosiectau ar gyfer Llinellau Craidd y Cymoedd:

“Mae’r arestiadau hyn yn anfon neges glir na fydd lladrad ceblau ar ein rhwydwaith yn cael ei oddef. Diolch i gamau pendant ein timau diogelwch a’n partneriaeth gref â’r heddlu, rydym wedi atal lladrad sylweddol.

“Nid yn unig y mae lladradau ceblau yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd mewn atgyweiriadau i TrC a’r trethdalwr, ond maent hefyd yn achosi tarfu mawr i’r cymunedau sy’n dibynnu ar ein gwasanaethau. Gobeithiwn fod y digwyddiad hwn yn gweithredu fel rhwystr cryf i unrhyw un sy’n ystyried unrhyw weithgaredd troseddol o’r math hwn.”

Mae TrC yn parhau i weithio'n agos gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ac yn atgoffa pob teithiwr a chymuned leol, yn enwedig y rhai sy'n byw ger y rheilffordd, i barhau yn effro ac i riportio unrhyw beth amheus, fel ffensys wedi torri neu bobl ar y cledrau.

Dylai unrhyw un sy'n gweld unrhyw ymddygiad amheus gysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar 0800 40 50 40 neu anfon neges destun at 61016 os nad yw'n argyfwng. Os yw trosedd yn digwydd, ffoniwch 999.

Llwytho i Lawr