10 Rhag 2025
Mae Trafnidiaeth Cymru bellach wedi trydaneiddio 99% o reilffyrdd De-ddwyrain Cymru fel rhan o brosiect Metro De Cymru.
Cafodd gwifrau uwchben ar draws rheilffordd Rhymni eu troi ymlaen y penwythnos diwethaf, gan nodi carreg filltir bwysig arall i'r prosiect, yn ogystal ag agoriad swyddogol diweddar depo Metro De Cymru yn Ffynnon Taf gan Ei Fawrhydi'r Brenin Charles.
Ers 2023, mae rheilffyrdd Rhymni, Treherbert, Aberdâr, Merthyr, Coryton a Chaerffili i gyd wedi cael eu trydaneiddio, gyda'r rhan olaf o'r rheilffordd ar hyd llinell Bae Caerdydd wedi'i chynllunio i fynd yn fyw o ddechrau 2026.
Wedi'i alw'n 'Tiwb Cymru', daeth y prosiect gwerth biliwn o bunnoedd â gwasanaethau trên trydan i Gymoedd De Cymru am y tro cyntaf erioed y llynedd a bydd trenau tram cwbl drydanol yn cael eu cyflwyno'r flwyddyn nesaf, gan ddarparu rhagor o wasanaethau rheilffordd a rhagor o gapasiti.
Roedd dros 90% o drenau a oedd yn rhedeg ar Linellau Craidd y Dyffryn yn rhedeg ar amser (o fewn 3 munud) ym mis Hydref 2025.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Rwyf wrth fy modd bod ein buddsoddiad o fwy nag £1bn i ddarparu system fetro sy’n addas ar gyfer y dyfodol wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol arall.
“Mae trydaneiddio rheilffyrdd craidd y cymoedd yn helpu i greu gwell mynediad at swyddi, gofal iechyd ac addysg wrth i drenau newydd sbon gynnig system drafnidiaeth gyflymach, sy’n fwy dibynadwy, yn fwy gwyrdd ac yn fwy hygyrch.”
Dywedodd Julie James, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog dros Gyflawni yn Llywodraeth Cymru, wrth ymweld â rheilffordd Rhymni: “Mae hyn yn newid y gêm i lawer o gymunedau yn y cymoedd, gan wella cysylltedd a'i gwneud hi'n haws i bobl gyrraedd lle mae angen iddyn nhw fynd yn gyflymach a heb unrhyw drafferth.”
Ychwanegodd Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith, Trafnidiaeth Cymru: “Mae trydaneiddio llinell reilffordd Rhymni Uchaf yn arwydd o garreg filltir bwysig arall i Metro De Cymru ac yn cyflawni newid gwirioneddol i bobl De Cymru. Mae'n golygu y byddwn yn gallu cyflwyno ein trenau tri-modd Dosbarth 756 ar wasanaethau rhwng Caerffili a Rhymni o 2026.”
“Mae ein timau seilwaith wedi gweithio’n ddygn am yr wyth mis diwethaf yn gosod 903 o strwythurau dur, yn cynnal 33km o wifrau uwchben ac yn gosod 30km o geblau foltedd uchel. Mae hwn yn gamp enfawr i’n timau, sydd wedi gweithio ddydd a nos i gyflawni’r gwelliannau hyn.
“Rydym eisoes wedi cyflwyno’r trenau trydan cyntaf i’r rhanbarth a byddwn yn parhau y flwyddyn nesaf, wrth i ni gyflwyno ein trenau tram Dosbarth 398.”