Skip to main content

Increase in cable thefts across the South Wales Valley lines

26 Medi 2025

Mae rhwydwaith rheilffyrdd Cymoedd De Cymru wedi gweld cynnydd mewn achosion o ddwyn ceblau.  Mae hyn wedi arwain at darfu sylweddol ar wasanaethau teithwyr a gwaith trwsio costus gyda chost o dros dri chwarter miliwn o bunnoedd. 

Fore Gwener 19 Medi, daethpwyd o hyd i lawer o geblau signalau wedi'u difrodi ac wedi'i dwyn oddi ar lein Rhymni, rhwng Bargod  a Chaerffili. 

Oherwydd y difrod a wnaed i'r ceblau signalau hyn, bu’n rhaid oedi pob gwasanaeth. Aeth tîm o beirianwyr o Amey Infrastructure Wales (AIW) ati i drwsio'r difrod, ond parhaodd y tarfu trwy gydol y penwythnos cyn y gellid adfer gwasanaethau erbyn dydd Sul. 

Er i'r gwasanaethau hyn ail-ddechrau, cafodd tua 150 metr o geblau uwchben eu torri a'u symud ger Tir Phil yn ystod oriau mân ddydd Llun 22 Medi.  Anfonwyd timau i gael gwared ar y gwifrau a ddifrodwyd yn ddiogel, gan achosi gorfod canslo rhagor o wasanaethau.  

Disgwylir y bydd y costau sy'n gysylltiedig â'r gwaith trwsio hwn yn sgil y ddau ddigwyddiad yn fwy na £750,000, yn ogystal â’r gost ychwanegol i wasanaethau teithwyr a ganslwyd a'r munudau o oedi ar lein Rhymni.  

Mae'r digwyddiadau hyn hefyd wedi effeithio ar reilffyrdd eraill TrC, gydag achosion yn cael eu hadrodd mewn mannau eraill ar reilffyrdd Cwm De Cymru.  Cafodd deg metr o gebl signalau ger Fernhill ar lein Aberdâr ei ddwyn yn ystod fore dydd Mawrth 23 Medi ynghyd ag achos arall o ladrata yn yr un ardal fore Mercher 24 Medi.  

Dywedodd Dan Tipperary, Prif Swyddog Seilwaith Trafnidiaeth Cymru: 

“Mae achosion o ddwyn ceblau a gwifrau oddi ar ein rhwydwaith yn arwain at gost sylweddol i’r trethdalwr yn sgil gwaith atgyweirio ac ailosod – mae wedi costio £750,000 o bunnoedd yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn unig.  Mae hefyd yn achoosi oedi a chanslo gwasanaethau, gan effeithio ar ein teithwyr sy'n dibynnu ar ein rhwydwaith." 

“Mae pob punt a gaiff ei gwario ar drwsio'r difrod yn sgil y fandaliaeth hon yn bunt na ellir ei fuddsoddi mewn gwasanaethau gwell i'n cymunedau.”  

Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Andy Morgan o Heddlu Trafnidiaeth Prydain: “Nid yw lladrad ceblau yn drosedd heb ddioddefwyr – mae’n arwain at oedi a tharfu enfawr ar wasanaethau sy’n effeithio ar ddefnyddwyr bob dydd y rheilffordd. Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â phob math o ladrad ac yn gweithio’n agos gyda Trafnidiaeth Cymru, Network Rail a phartneriaid eraill yn y diwydiant i wneud y rheilffordd yn lle gelyniaethus i droseddwyr weithredu ynddo. Mae ein rhwydwaith o swyddogion mewn lifrai a dillad plaen, yn ogystal â rhwydwaith sylweddol o gamerâu teledu cylch cyfyng, yn gofalu amdanoch chi 24/7 pan fyddwch chi’n defnyddio’r rhwydwaith rheilffyrdd.

“Mae yna hefyd y gost ychwanegol i brosiectau drud iawn, sydd yn y pen draw yn gohirio cwblhau’r prosiectau hyn hefyd, felly mae effaith lladrad o’r fath yn mynd ymhell y tu hwnt i’r costau deunydd cychwynnol. Gall fod cost bersonol wirioneddol hefyd. Mae pŵer sy’n rhedeg trwy geblau uwchben 100 gwaith yn gryfach na’ch cyflenwad gartref: digon o drydan i’ch lladd neu i’ch gadael ag anafiadau sy’n newid bywyd. Gall trydan neidio, felly nid oes angen i chi hyd yn oed gyffwrdd â chebl i gael eich anafu’n ddifrifol. Nid yw’n werth tresmasu ar y cledrau er budd personol ar draul eich bywyd.

"Hoffwn hefyd apelio at y cyhoedd, sy'n aml yn dioddef tarfu o ganlyniad i’r gweithgaredd troseddol hwn, i ymddwyn fel ein llygaid allan yna, ac os gwelwch unrhyw beth amheus, unrhyw un yn tresmasu ar y cledrau, rhowch wybod i ni am hyn. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 a gofynnwch am yr Heddlu, neu fel arall gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn uniongyrchol ar 61016."

Mewn ymateb i'r cynnydd diweddar mewn achosion o ddwyn, rydym yn gwella ein mesurau diogelwch a'n patrolau ar draws rhwydwaith y Cymoedd, yn ogystal â gweithio'n agos gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i archwilio achosion o ddwyn ac i erlyn y troseddwyr.  

Hoffai TrC hefyd ofyn i'r cyhoedd, yn enwedig y rhai sy'n byw ger y lein, i roi gwybod am unrhyw weithgarwch amheus ac i barhau i fod yn wyliadwrus.  Dylai unrhyw un sy'n dyst i unrhyw ymddygiad amheus, gan gynnwys unrhyw un sy'n ceisio cael mynediad i'r rheilffordd, ffonio Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar 0800 40 50 40 neu anfon neges destun i 61016 i riportio achos nad yw'n un brys.  Os oes trosedd ar waith, ffoniwch 999.