- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
31 Ion 2022
Ymddiswyddwyd y trenau Pacer olaf i weithredu yng Nghymru yn 2021 ar ôl mwy na 30 mlynedd o wasanaeth.
Fe’u disodlwyd gan wyth Class 769 sydd â mwy o gapasiti, mwy o le a gwell hygyrchedd.
Mae diwedd gwasanaeth hir ar reilffyrdd y Cymoedd a llwybrau lleol Caerdydd yn gam sylweddol yn eu trawsnewid fel rhan o ddatblygiad Metro De Cymru, lle mae tri chwarter biliwn o bunnoedd yn cael ei fuddsoddi i foderneiddio Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd. Bydd y trenau a'r trenau tram newydd sy'n cael eu hadeiladu yn cynyddu ein capasiti yn sylweddol ac yn gweddnewid profiadau teithio ein cwsmeriaid. Bydd ganddynt hefyd nifer o adnoddau ychwanegol; mae’r trên yr un lefel â’r platfform sy’n ei gwneud hi’n haws i fynd ar y trên, mwy o le storio beiciau a system aerdymheru.
Er bod rhai o'r Pacers wedi cyrraedd diwedd eu hoes a'u tynged fydd yr iard sgrap, bydd rhai yn parhau i weithio ac yn cael eu mwynhau am flynyddoedd i ddod.
Rhoddwyd tri Pacer i Reilffordd Llanelli a Mynydd Mawr, lle maent wedi cael bywyd newydd. Mae sawl un arall wedi'u rhoddi i reilffyrdd treftadaeth a phrosiectau cymunedol.
Cyrhaeddodd Uned 142006 ei chartref newydd yng Nghynheidre, Sir Gaerfyrddin ar 15 Chwefror 2021, a bydd 143606 a 143607 yn gwneud eu ffordd yno ym mis Mai. Ar hyn o bryd, mae'r tair uned yn parhau i weithio ac wedi bod yn boblogaidd gydag ymwelwyr mewn diwrnodau agored diweddar.
O ran y dyfodol, gobaith y rheilffordd yw cadw’r 142006 ac un o'r Class 143 fel aelod hirdymor o'u fflyd weithredol. Maen nhw'n archwilio opsiynau ariannu i adfer y 142 i lifrai coch, gwyn a gwyrdd Cledrau'r Cymoedd, cyn weithredwr gwasanaethau rheilffyrdd yn Ne Cymru. Maen nhw hefyd yn bwriadu cynnig profiad gyrrwr ar y Pacers, rhoi cyfle i gwsmeriaid yrru un o'r trenau ar eu lein fer.Ddiwedd mis Awst 2021, cynhaliodd y rheilffordd ddiwrnod gala Pacer a oedd yn cynnwys y tair uned yn ogystal â'r Red Arrows yn hedfan uwchben. Dywedodd llefarydd ar ran Rheilffordd Llanelli a’r Mynydd Mawr “mae siawns mai dyma’r digwyddiad mwyaf llwyddiannus i ni erioed ei gynnal ar y rheilffordd”.
Yn ogystal, mae'r rheilffordd wedi cynllunio prosiect i drosi un o'r trenau Class 143 i rôl ‘statig’ ar y rheilffordd, lle bydd caffi, arhosan a chyfleuster tocynnau. Mae'r seilwaith ar gyfer y prosiect, yn ogystal â gwaith uwchraddio cyffredinol arall yn y safle, yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, a bydd gwaith ar yr uned yn dechrau unwaith y caiff hwn ei gwblhau.
Mae Rheilffordd Llanelli a Mynydd Mawr yn “hynod ddiolchgar” i TrC a’i bartneriaid am sicrhau bod y trenau hyn ar gael ac yn gobeithio parhau i ddathlu’r Pacers a’i flynyddoedd o wasanaeth i bobl De Cymru am flynyddoedd i ddod.
Nepell i ffwrdd yn Llanelli, saif 143622 bellach o fewn terfynau’r hen sied nwyddau. Rhoddwyd y trên i Ymddiriedolaeth Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli, sy’n adfer y strwythur rhestredig Gradd II* hanesyddol er mwyn ei drawsnewid yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau diwylliannol, treftadaeth, cymunedol a menter.
Mae Pacers blaenorol eraill TrC wedi teithio dros y ffin i Loegr i gael eu diogelu ar reilffyrdd treftadaeth. Yn eu mysg, mae Rheilffordd Ysgafn Dyffryn Tanat yn Swydd Amwythig, Rheilffordd Dyffryn Nene yn Swydd Gaergrawnt a Rheilffordd Wensleydale yng Ngogledd Swydd Efrog. Gan redeg ochr yn ochr â locomotifau stêm 100 mlwydd oed, trenau disel a thrydan arloesol, a Pacers oedd yn rhedeg o dan weithredwyr eraill ar draws rhwydwaith Prydain, maent yn cynrychioli elfen bwysig iawn yn hanes ein rheilffyrdd na fydd byth yn angof.