01 Meh 2021
Ers dros 30 mlynedd, mae trenau Pacer wedi teithio i fyny ac i lawr rheilffyrdd Prydain. Fodd bynnag, mae eu cyfnod o wasanaethu’n dod i ben, gyda’r rhai olaf yn cael eu tynnu oddi ar y rheilffyrdd erbyn diwedd mis Mai.
Mae rhai o’r trenau eisoes wedi mynd, gyda threnau Pacer Class 142 yn gorffen gwasanaethu ym mis Rhagfyr 2020. Uned rhif 142082 oedd y cyntaf i adael yn swyddogol ym mis Ionawr. Fe gafodd ei gludo ar hyd y ffordd o ddepo Glandŵr yn Abertawe i Gasnewydd ar ôl teithio 2,852,677 o filltiroedd yn ystod ei 33 mlynedd o wasanaeth – sy’n cyfateb i dros bum taith i’r lleuad ac yn ôl. Yn fuan wedyn, cafodd ei dorri’n ddarnau mân.
Fodd bynnag, nid yw pob trên Pacer yn mynd i’r iard sgrap. Ar 15 Chwefror, aeth uned 142006 ymlaen i’w ail yrfa ar y rheilffordd rhwng Llanelli a Mynydd Mawr, rheilffordd dreftadaeth yng Nghynheidre, Caerfyrddin. Mae sawl Class 143 wedi’u clustnodi i’w cadw, a bydd eu cartrefi nesaf yn cael eu datgelu dros y misoedd nesaf.
Dydy trenau Pacers erioed wedi bod yn boblogaidd, ond yn ystod eu dyddiau olaf, mae nifer fach o bobl sy’n frwd dros reilffyrdd a grwpiau cymunedol ledled Prydain wedi dod ymlaen i’w gwarchod a dod o hyd i ffyrdd newydd o’u defnyddio. Ledled Prydain, mae trenau Pacers eisoes wedi cael eu hachub i’w troi’n gyfleusterau fel llyfrgell ysgol, labordy gwyddoniaeth a gofod celfyddydol, yn ogystal â’u defnyddio ar reilffyrdd treftadaeth. Ond pam eu bod nhw’n hollti barn?
Mae hanes trenau Pacers yn mynd yn ôl i’r 1970au, pan oedd British Rail, mewn ymgais i leihau costau cynhyrchu trenau, yn arbrofi drwy gymryd corff bws a’i osod ar siasi sylfaenol a oedd yn seiliedig ar gerbyd cludo nwyddau. Ar ôl sawl blwyddyn o brofi a datblygu, daeth y dosbarth llawn cyntaf o drenau Pacers – trenau Class 141 – i wasanaeth yn Swydd Efrog yn 1984. Ar ôl y rhain daeth Class 142, 143 ac 144, a gyrhaeddodd rhannau eraill o’r wlad, gan gynnwys De Cymru.
Mae trenau Pacers yn beiriannau cymharol syml, yn hawdd eu gweithredu, yn economaidd i’w cynnal ac – am eu hoedran – yn ddibynadwy ar y cyfan. Fodd bynnag, mae’n deg dweud nad ydyn nhw’n berffaith. Mae hygyrchedd y trenau’n wael iawn ar gyfer pobl sydd â symudedd cyfyngedig. Yn wreiddiol, roedd y tu mewn i’r trenau’n spartaidd ac roedd y seddi fel meinciau bysiau, ac felly’n anghyfforddus i’r teithwyr. Gyda dim ond dwy echel a phedair olwyn ar bob cerbyd, mae’r teithiau’n gallu bod yn anesmwyth ac mae'r trenau’n gallu gwichian yn uchel wrth fynd o amgylch corneli cul, fel y mae unrhyw un sydd wedi teithio i Ynys y Barri yn ei wybod!
Oherwydd problemau fel hyn, doedd trenau Pacers erioed yn boblogaidd ymysg y cyhoedd. Roedd gan drenau Class 141 broblemau dibynadwyedd drwy gydol eu gyrfa yn Swydd Efrog, ac fe gawsant eu tynnu oddi ar y rheilffyrdd yn 1997 a’u hallforio i Iran. Ond roedd Class 142, 143 ac 144 yn fwy dibynadwy ac fe aethant ymlaen i gael gyrfaoedd hirach yng Nghymru a Lloegr, gan gyrraedd sawl rhan o’r rhwydwaith. Dros y 35 blynedd ddiwethaf, roeddech yn gallu dod o hyd i drenau Pacers yn llefydd fel Carlisle, Paignton, Hull ac Abergwaun. Cafodd llawer ohonyn nhw eu hailwampio’n llwyr er mwyn cael seddi traddodiadol mwy cyfforddus yn lle’r meinciau.
Ond erbyn canol 2010, gyda nifer y teithwyr yn llawer iawn uwch na phan ddechreuodd y Pacers wasanaethu a’r trenau’n dechrau blino a mynd yn hen, roedd hi’n amlwg yn bryd newid, ac fe gafodd trenau newydd sbon eu harchebu i’w disodli. Dechreuodd gweithredwyr trenau gael gwared â’r trenau Pacers yn 2019 wrth i’r trenau newydd ddechrau cael eu defnyddio.
Fodd bynnag, er eu henw drwg a’u diffygion, mae’n ddrwg gan rai o’n cydweithwyr sydd wedi gweithio ar y trenau eu gweld yn mynd. Bu Lukas Siko, ein Rheolwr Cymhwysedd Safonau Gweithrediadau Diogelwch, yn gweithio ar y Pacers o ddechrau ei yrfa ar y rheilffordd ac roedd yn eu gwerthfawrogi fel gyrrwr.
Fe ddywedodd, “Dydw i ddim yn meddwl y byddai llawer o fy nghydweithwyr yn fy nghredu pan fydda i’n dweud fy mod wedi mwynhau gyrru’r Pacers ar draws rhwydwaith y Cymoedd,” “Roeddwn i’n credu bod y seddi’n fwy cyfforddus, yn enwedig gyda fy nhaldra, ac roeddwn yn cael golygfeydd gwych o ffenestri fy ‘swyddfa’.
“Rydw i’n gwybod nad oedd ein cwsmeriaid erioed wedi arfer teithio ar y trenau hyn, ac efallai ei bod hi wedi cymryd saith mlynedd i mi fwynhau treulio amser arnyn nhw, ond mi fydd hi’n chwith peidio â gweld y Pacers yn teithio i fyny ac i lawr rhwydwaith y Cymoedd ar ôl iddyn nhw ymddeol.”
Ond pam eu cadw? Ar gyfer llawer o reilffyrdd treftadaeth, mae’n benderfyniad hawdd: mae’r Pacers yn rhad i'w rhedeg ac yn hawdd eu cynnal a’u cadw o’u cymharu ag injans stêm a threnau disel hŷn sydd angen llawer o waith cynnal a chadw. Ar adeg pan mae llawer o reilffyrdd treftadaeth wedi treulio’r rhan fwyaf o’r flwyddyn ddiwethaf ar gau oherwydd pandemig COVID-19, gall y Pacer fod yn hwb mawr, gan ganiatáu iddyn nhw redeg gwasanaethau teithwyr gan gadw pellter cymdeithasol yn ogystal â chyrsiau profiad gyrru.
Dywedodd David Mee, “mae Rheilffordd Llanelli a Mynydd Mawr yn falch o roi cartref i Pacer 142006,”. “Bydd yn caniatáu i’r rheilffordd gynnig teithiau trên gan gadw pellter cymdeithasol pan fydd y cyfyngiadau presennol yn caniatáu hynny, a bydd ei gadw yng Nghynheidre yn sicrhau bod ei ddeg mlynedd ar hugain o wasanaeth ar Linellau’r Cymoedd yn cael eu dathlu yn Ne Cymru am flynyddoedd i ddod.”
Cam nesaf Rheilffordd Llanelli a Mynydd Mawr yw codi arian i gynnal a chadw 142006. Mae Grŵp Rheilgeir De Cymru wedi cael ei ffurfio i ofalu am y trên hwn a hen reilgar Class 122 arall. Ar hyn o bryd, mae’r Grŵp yn casglu arian i ailbeintio’r Pacer yn lliwiau clasurol coch, gwyn a gwyrdd Cledrau'r Cymoedd, sef cyn-weithredwr gwasanaethau trên yn Ne Cymru. Bydd hefyd yn cael ei enwi er anrhydedd i Tom Clift, cyn-reolwr cyffredinol poblogaidd Cledrau’r Cymoedd a ffigur blaenllaw yn niwydiant rheilffyrdd Prydain nes iddo farw’n sydyn yn 2012.
Ond mae ffyrdd eraill o’u defnyddio. Y llynedd, derbyniodd Ysgol Gynradd Kirk Merrington yn Swydd Durham anrheg arbennig – hen Class 142 y Gogledd, sy’n cael ei droi’n llyfrgell ac yn ganolfan llesiant. Mae cwpl ifanc o Durham wedi prynu Class 142 arall er mwyn ei droi’n gartref, llety gwyliau a gofod celf cymunedol, ac mae Platform 1, sef elusen iechyd meddwl yng Ngorsaf Huddersfield, yn cael Pacer er mwyn ei ddefnyddio fel canolfan hyfforddi i ddysgu sgiliau coginio a TG.
Er eu diffygion, mae rhywfaint o deithwyr a phobl sy'n frwd dros drenau’n hoffi'r Pacers. Dydyn nhw erioed wedi bod yn cŵl, fel yr A4 Pacific, y Trenau Cyflym neu'r Pendolino, ond dydyn nhw erioed wedi trio bod yn cŵl chwaith. Maen nhw’n cyflawni eu dyletswyddau dyddiol yn ddi-lol ac mae’r rhan fwyaf o gwsmeriaid yn eu defnyddio heb sylwi arnyn nhw. Ac ar gyfer llawer o bobl, maen nhw wedi bod yn rhan o’u bywydau ers llawer o flynyddoedd – bydd rhai wedi cael eu taith trên cyntaf erioed ar Pacer, neu wedi’u defnyddio i deithio i’w diwrnod cyntaf yn y gwaith, eu gwyliau cyntaf neu wedi cael dêt cyntaf arnyn nhw. Efallai nad yw’n syndod bod rhai yn dymuno eu cadw’n fyw ar ryw ffurf.
Fodd bynnag, mae diwedd eu gwasanaeth hir yn gam allweddol yn y gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, fel rhan o ddatblygiad Metro De Cymru. Er bod trenau Pacer wedi gweithio’n galed ledled y rhwydwaith dros y 30 mlynedd diwethaf, mae ein cwsmeriaid yn haeddu trenau mwy modern sy’n darparu gwell cyfleusterau, gwell hygyrchedd, teithiau cyflymach a thaith fwy cyfforddus, heb yr olwynion gwichlyd!
Mae rhagor o wybodaeth am Reilffordd Llanelli a Mynydd Mawr ar gael yma.