Skip to main content

TfW offers support to refugees and asylum seekers

31 Ion 2024

Heddiw (Ionawr 31) mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio partneriaeth newydd gyda’r elusen sy’n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches, Oasis, i roi offer a chymorth cyflogaeth.

Mae Oasis yn elusen sy’n croesawu pobl sy’n ceisio lloches ac mae’n darparu cefnogaeth i oddeutu 100-150 ymwelydd o bob rhan o’r byd yn ddyddiol. Mae’r elusen yn cynnig amryw o weithgareddau, ffyrdd o’u cefnogi a dosbarthiadau i helpu i ffoaduriaid a cheiswyr lloches integreiddio o fewn eu cymunedau lleol.

Mae’r bartneriaeth gydag Oasis yn rhan o ymrwymiad Trafnidiaeth Cymru i wrth-hiliaeth. Trwy’r bartneriaeth, byddant yn darparu gwell cyfleoedd gwaith i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac yn ceisio amrywio’r gweithlu a chyflawni rhwydwaith trafnidiaeth aml-fodd i Gymru.

Oasis-3-2

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant: “Mae hyn yn bartneriaeth wych gydag elusen sy’n gwneud gwaith anhygoel i ddarparu cefnogaeth hanfodol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, drwy dynnu sylw at weithlu sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ond sy’n un y gallwn ei gefnogi ac a all ychwanegu gwerth at y gwasanaethau rydym yn eu darparu.”

Yn ôl Cyngor Ffoaduriaid Cymru, mae yna dros 10,000 o ffoaduriaid yng Nghaerdydd, gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid yn cynrychioli llai na 0.5% o’r boblogaeth Gymreig.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Mae’r bartneriaeth hon yn rhan o’m hymrwymiad i gyflawni’n cynllun gwrth-hiliaeth a chefnogi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol er mwyn iddynt gael mynediad at well gyfleoedd yn y byd gwaith.”

Yn ogystal â rhoddion a chyfleoedd gwaith, bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu cefnogaeth gymunedol drwy’r tîm cynaliadwyedd a’r timoedd cymunedol i ymgysylltu mwy gyda chleientiaid Oasis.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Newyddion Trafnidiaeth Cymru - Cyfryngau (trc.cymru)

Bydd y cynllun teithio am ddim i ffoaduriaid yn rhedeg tan 31 Mawrth 2024 - Cynllun teithio am ddim i ffoaduriaid | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)