Skip to main content

Transport for Wales announces creation of more than 120 jobs

01 Mai 2019

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi creu mwy na 120 o swyddi newydd ers cymryd yr awenau i redeg gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a’r gororau yn 2018.

Mae’r swyddi’n amrywio o rai peirianneg a dylunio i swyddi gwasanaethau cwsmeriaid a glanhau.

I dynnu sylw at hyn a’r datblygiadau arwyddocaol niferus eraill sy’n digwydd nawr ac yn y dyfodol agos, mae ymgyrch hysbysebu newydd yn cael ei lansio ar 1af Mai.

Mae’r ymgyrch, sy’n cynnwys hysbyseb teledu, yn dathlu’r swyddi newydd yn ogystal â’r gwaith caled sy’n cael ei wneud er mwyn gwella gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru a’r gororau.

Nod yr ymgyrch yw creu gwerthiant tocynnau, cynyddu refeniw a galluogi buddsoddiad pellach mewn gwasanaethau.

Gyda gweithwyr y cwmni ei hun yn ymddangos ynddi, bydd yr hysbyseb yn dangos y gwelliannau y tu ôl i’r llenni mae tîm TrC yn eu gwneud ar hyn o bryd, gan gynnwys buddsoddi £40m mewn uwchraddio ei fflyd bresennol a glanhau gorsafoedd yn drwyadl.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Masnachol a Phrofiad y Cwsmer ar gyfer Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC: “Ers i ni gymryd yr awenau y llynedd, rydyn ni wedi bod yn eithriadol brysur y tu ôl i’r llenni yn gweithio ar ffyrdd o wella’r gwasanaethau rheilffyrdd. Rydyn ni wedi gwneud archebion enfawr am drenau newydd, wedi dechrau ar waith dylunio a chynllunio manwl ar gyfer metro De Cymru ac wedi dechrau ar welliannau mewn gorsafoedd.”

“Roedden ni eisiau i'r hysbyseb yma hyrwyddo ein cydweithwyr anhygoel ni a dangos y gwaith caled sy’n cael ei wneud bob dydd, fel bod ein cwsmeriaid ni’n gallu teimlo’n gyfforddus ein bod ni’n gweithio’n ddiflino i roi’r gwasanaethau rheilffyrdd maen nhw’n ei haeddu iddyn nhw.”

Dywedodd Ken Skates, y Gweinidog dros yr Economi a’r Seilwaith: “Rydw i’n gobeithio y bydd y cwsmeriaid yn croesawu’r gwelliannau mae TrC yn eu gwneud i’n gwasanaethau rheilffyrdd. Rydw i’n hynod falch o weld ein tîm Gwasanaethau Rheilffyrdd yn croesawu gweledigaeth uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru ac yn gweithio’n galed i’w gwneud yn realiti i’n cwsmeriaid ni.

“Rydw i’n falch o groesawu’r 120 o aelodau newydd i dîm Trafnidiaeth Cymru a hoffwn ddiolch i bawb yn TrC am eu hymrwymiad parhaus i gwsmeriaid wrth i ni barhau ar y siwrnai bwysig yma o newid.”

Dywedodd Lynda Ogden, cynghorydd gwasanaethau cwsmeriaid TrC yn y Rhyl, sy’n ymddangos yn yr hysbyseb newydd: “Mae’n grêt gweld buddsoddiad yn cael ei wneud i helpu i wella siwrneiau ein cwsmeriaid yn y dyfodol, a’n bywyd ni yn y gwaith. Mae TrC wedi gwneud cynnydd sylweddol hyd yma mewn cyfnod byr iawn o amser a gobeithio y bydd yn parhau i wneud hynny.”

Pan gafodd TrC y rhyddfraint yn 2018, cyhoeddodd y sefydliad raglen o newidiadau yn “Teithio i Lawr y Lein”, yn manylu ar y gwelliannau trawsnewidiol a fyddai’n digwydd erbyn 2025.

Mae rhai gwelliannau wedi digwydd eisoes, gan gynnwys prisiau tocynnau is, glanhau gorsafoedd yn drwyadl ac adnewyddu trenau.

Mae TrC hefyd wedi cyflwyno ‘Ad-daliad am Oedi 15’ sy’n cynnig iawndal neu ad-daliad i gwsmeriaid os yw eu trên fwy na 15 munud yn hwyr.

Ymysg y gwelliannau eraill fydd yn digwydd yn nes ymlaen eleni ac yn 2020 mae lansio tocynnau clyfar a chyflwyno cynlluniau prisiau newydd sy’n cynnwys gwell prisiau i ieuenctid 6 i 18 oed.

Am fwy o wybodaeth am TrC a sut i brynu tocynnau, ewch i trc.cymru, i swyddfa docynnau neu lawrlwythwch yr ap.

Nodiadau i olygyddion


TrC oedd y gweithredwr trenau berfformiodd orau yn y DU yn ystod cyfnod 11 (06 Ion 2019 – 03 Chwe 2019) yn ôl y Mesur Perfformiad Cyhoeddus.

Ddechrau mis Ebrill symudodd TrC at ei fesur Amser mae Teithwyr yn ei Golli sy’n rhoi mwy o ffocws ar deithwyr.

Mae TrC yn paratoi i lansio ei amserlen newydd ym mis Mai, sy’n cynnwys gwasanaethau newydd i Lerpwl drwy Wrecsam a Chaer.