Skip to main content

Halton Curve: the countdown for Liverpool services begins

25 Ebr 2019

Mae Trafnidiaeth Cymru wrthi’n paratoi ar gyfer gwasanaethau newydd bob awr yn cysylltu gogledd Cymru a Swydd Gaer â Lerpwl, a fydd yn dechrau fis nesaf.

O 19eg Mai, bydd Trafnidiaeth Cymru’n dechrau ei wasanaethau newydd ar hyd y llwybr, sydd wedi cael ei ddisgrifio fel “hwb economaidd sylweddol” i’r rhanbarth.

Mae cyfanswm o 215 o wasanaethau yr wythnos wedi’u creu.

Bydd gwasanaethau’n rhedeg bob awr o Gaer, gan alw yn Helsby, Frodsham, Runcorn, Parcffordd De Lerpwl (ar gyfer Maes Awyr John Lennon) a Lerpwl Lime Street.

Hefyd, bydd dau wasanaeth uniongyrchol y dydd o Wrecsam Cyffredinol ac yn uniongyrchol o Lerpwl i Wrecsam.

Mae’r prisiau ar gyfer y gwasanaethu newydd ym mis Mai bellach mewn systemau manwerthu a dyma enghreifftiau o’r prisiau:

• Wrecsam Cyffredinol i Lerpwl Lime Street Tocyn Diwrnod Dwyffordd Unrhyw Bryd £11.50
• Caer a Helsby i Lerpwl Lime Street Tocyn Diwrnod Dwyffordd Unrhyw Bryd £7.50
• Frodsham i Lerpwl Lime Street Tocyn Diwrnod Dwyffordd Unrhyw Bryd £7

Gellir prynu tocynnau yma

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:

“Mae Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi £5 biliwn i drawsnewid y sector trafnidiaeth ledled rhwydwaith Cymru a’r Gororau ac rydym yn hynod gyffrous i weld gwasanaethau newydd yn cael eu cyflwyno yn cysylltu gogledd Cymru a Swydd Gaer gyda Lerpwl.

“Mi fydd yn hwb economaidd sylweddol i’r ardal ac mae’r ffaith bod Trafnidiaeth Cymru yn darparu 215 o wasanaethau newydd sbon yr wythnos wir yn ategu ein hymrwymiad i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth well i bawb.

“Gwelwyd llawer o waith caled, ymroddiad a buddsoddi yn y prosiect hwn gan gymaint o unigolion ac asiantaethau, sy’n dangos beth sy’n gyraeddadwy gan gydweithio.

“Rydym yn nesáu at ein chwe mis cyntaf yn Trafnidiaeth Cymru ac mae hyn yn garreg filltir bwysig arall wrth i ni barhau i drosgludo ein gwelediad.”

Mae’r gwasanaethau newydd yn cael eu cyflwyno ar hyd Halton Curve, sy’n 1.5 milltir o hyd, fel rhan o Brosiect Great North Rail gan Network Rail yn cynnwys uwchraddio helaeth ar draciau a signalau sy’n golygu y gall y rheilffordd weithredu gwasanaeth newydd bob awr, yn y naill gyfeiriad a’r llall, rhwng Lerpwl a Chaer/Wrecsam.

Mae’r prosiect yn dilyn degawdau o waith caled gan ymgyrchwyr lleol a gwaith a buddsoddiad sylweddol gan yr Adran Drafnidiaeth (DfT), Llywodraeth Cymru, Dinas Ranbarth Lerpwl, Merseytravel a Network Rail.

Daeth gwasanaethau ar y llinell fwy neu lai i ben yn llwyr ym mis Mai 1975, er i’r llwybr gael ei gadw’n agored gyda gwasanaeth llywodraethol achlysurol yn ystod yr haf yn unig o Gaer i Runcorn.

FrodshamRailStation2018.04.29-4

(Frodsham yn Swydd Gaer yw un o’r cymunedau a fydd yn cael budd o’r gwasanaethau newydd)

HelsbyRailStation2018.04.29-19

(Mae Helsby hefyd yn mynd i weld cynnydd sylweddol mewn gwasanaethau o fis Mai ymlaen)

Dywedodd Steve Rotheram, Maer Metro Awdurdod Cyfun Dinas Ranbarth Lerpwl: “Un o nodau allweddol yr Awdurdod Cyfun yw blaenoriaethau i ddarparu gwelliannau sylweddol o ran cysylltedd ar gyfer ein hardal.

“Mae Halton Curve yn un o lawer o gynlluniau rheilffordd uchelgeisiol ar draws Dinas Ranbarth Lerpwl sydd wedi cael eu cyflawni gan yr Awdurdod Cyfun, drwy weithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau.

“Diolch i hyn, mae trenau bellach yn rhedeg yn amlach rhwng Lerpwl a Chaer ynghyd â’r gwasanaethau uniongyrchol cyntaf rhwng y ddinas a Wrecsam ers 1975.

“Gyda chynlluniau i’r dyfodol i ymestyn ymhellach i Ogledd Cymru a dyhead am wasanaethau uniongyrchol rhwng Lerpwl a Chaerdydd, dim ond dechrau yw hyn o ran gwireddu’r manteision posibl y bydd ail-agor Halton Curve yn ei ddwyn yn ei sgil.”

Dywedodd Marcus Barnes, uwch noddwr yn Network Rail: “Darn gweddol fychan o drac yn Frodsham yw’r Halton Curve, ond mae’n datgloi cyfoeth o gyfleoedd hamdden a busnes ar gyfer Dinas Ranbarth Lerpwl, ei maes awyr a Gogledd Cymru.

“Cafodd yr uwchraddio a wnaed gennym i’r traciau a’r signalau, er mwyn galluogi trenau i redeg i’r ddau gyfeiriad ar y rheilffordd, eu cwblhau ym mis Mai y llynedd. Mae’n hynod gyffrous y bydd Halton Curve yn cyrraedd ei botensial llawn gyda’r gwasanaethau rhwng Lerpwl a Chaer, gyda rhai gwasanaethau’n mynd ymlaen i Wrecsam.

“Dyma enghraifft wych arall o Brosiect Great North Rail ar waith.”

Dywedodd Marina Fareyo Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Gogledd Swydd Gaer: “Mae dechreuad gwasanaethau trwy Halton Curve yn ddigwyddiad arwyddocaol i’n hardal. Bydd yn agor cyfleoedd i’n cymunedau lleol a chyfrannu at ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd yn Swydd Gaer a Glannau Mersi.”