Skip to main content

Rail improvement work taking place this bank holiday weekend

22 Mai 2026

Gyda phenwythnos Gŵyl y Banc prysur o'n blaenau a rhagolygon am dywydd cynnes iawn, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn annog teithwyr i gynllunio ymlaen llaw gan y bydd gwaith gwella rheilffyrdd hanfodol yn cael ei wneud ar hyd rhwydwaith Caerdydd a'r Cymoedd.

Bydd gwaith arfaethedig i wella'r seilwaith yn golygu y bydd yn rhaid cau'r holl linellau sy’n teithio trwy orsaf Heol y Frenhines Caerdydd ddydd Sul 24 a dydd Llun Gŵyl y Banc 25 Mai. Er mwyn cadw teithwyr i symud, bydd cyfuniad o wasanaethau bws yn lle trên a dargyfeiriadau gwasanaeth ar waith ar draws rhwydwaith lleol Caerdydd a'r Cymoedd.

Bydd gwasanaethau'n parhau i redeg o Dreherbert, Aberdâr a Merthyr i orsaf Caerdydd Canolog ar hyd Lein y Ddinas (trwy barc Ninian) a gwasanaethau bws yn lle trên ar waith rhwng Radur a Llandaf, Cathays, Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd.

Hefyd, bydd West Midlands Railway yn cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol a fydd yn effeithio ar y lein rhwng yr Amwythig a Wolverhampton a rhwng Henffordd a Birmingham ddydd Gwener 22 Mai a dydd Sadwrn 23 Mai. Disgwylir y bydd gwasanaethau TrC yn brysurach nag arfer o ganlyniad a darperir mwy o le i deithwyr lle bo hynny'n bosibl.

Rhagwelir y bydd y tymheredd yn uchel dros benwythnos gŵyl y banc ac o ganlyniad, disgwylir y bydd y gwasanaethau i gyrchfannau arfordirol poblogaidd fel Ynys y Barri ac arfordir Gogledd Cymru yn brysurach nag arfer.

Hoffwn atgoffa teithwyr y daeth amserlen newydd i rym ddydd Sul 17 Mai. Mae rhai gwasanaethau bellach yn galw mewn gwahanol orsafoedd ar wahanol adegau.

Anogir cwsmeriaid i gynllunio ymlaen llaw, caniatáu digon o amser ar gyfer eu taith a pharatoi ar gyfer y tywydd poeth a ragwelir trwy gario dŵr, yfed digon o ddŵr ac i gadw’n ddiogel wrth deithio.

Dywedodd Sarah Higgins, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru: "Bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg ei amserlen arferol dros benwythnos Gŵyl y Banc, ond gall rhai gwasanaethau fod yn llawer prysurach na'r arfer gan y bydd West Midlands Railway yn cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol a fydd yn effeithio ar wasanaethau rhwng yr Amwythig a Birmingham a rhwng Henffordd a Birmingham ddydd Gwener 22 Mai a dydd Sadwrn 23 Mai.

"Gan y rhagwelir y bydd y tymheredd yn uchel hefyd, anogir cwsmeriaid i gymryd gofal ychwanegol wrth deithio, sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth deithio ddiweddaraf gyda chymorth gwefan TrC, yr ap ar y ffôn neu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, ac i yfed digon o ddŵr yn rheolaidd."

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan TrC: www.trc.cymru 

Nodiadau i olygyddion


Bydd y newidiadau canlynol ar waith ddydd Sul a dydd Llun, gyda rhai trefniadau ychwanegol ar waith ar ddydd Llun yn unig:

Rhymni / Caerffili - Ynys y Barri

Dydd Sul a Dydd Llun:

  • Bydd gwasanaeth bws yn lle trên ar waith rhwng Rhymni / Caerffili a Chaerdydd Canolog.

Radur - Caerdydd Canolog (yn galw yn Llandaf, Cathays a gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd)

Dydd Sul a Dydd Llun:

  • Bydd gwasanaeth bws yn lle trên ar waith rhwng Radyr a Chaerdydd Canolog.
  • Bydd y gwasanaethau o Dreherbert a Merthyr Tudful yn dargyfeirio ar hyd Lein y Ddinas (Y Tyllgoed).

Penarth - Coryton

Dydd Sul a Dydd Llun:

  • Bydd y gwasanaethau rhwng Penarth a Coryton yn dod i ben yng ngorsaf Caerdydd Canolog.
  • Derbynnir tocynnau trên ar wasanaethau 21, 23 a 27 Bws Caerdydd heb unrhyw gost ychwanegol.

Dydd Llun yn unig:

  • Derbynnir tocynnau trên hefyd ar lwybrau 92, 93 a 94 Bws Caerdydd rhwng Penarth a Chanol Dinas Caerdydd.

Lein Bae Caerdydd

Dydd Sul a Dydd Llun:

  • Derbynnir tocynnau trên ar wasanaeth 6 Bws Caerdydd.
  • Bydd gwasanaeth bws ychwanegol yn rhedeg pob awr rhwng Radur a Bae Caerdydd, gan alw yn Llandaf, Cathays a gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd.

Gall cwsmeriaid ddefnyddio ein tudalen Gwasanaeth Bws yn Lle Trên i gael gwybodaeth am ein gwasanaethau Bws yn Lle Trên.