08 Gor 2022
Mae Trafnidiaeth Cymru yn ymwybodol y gall teithio ar fysiau a threnau yng ngwres yr haf fod yn anghyfforddus iawn.
Er bod gan rai o’n trenau a’n bysiau system aerdymheru, nid oes gan rai o’n trenau hŷn, bydd y rhain yn gadael ein fflyd yn fuan, ar gyfer gwneud lle i’n trenau newydd sbon a fydd yn cynnwys systemau aerdymheru newydd sbon. Fodd bynnag, mewn rhai amodau, weithiau nid yw system aerdymheru yn ddigon i gadw trenau prysur yn oer, felly mae'n bwysig bod yn barod ar gyfer teithio mewn amodau anghyfforddus.
Felly, dyma bum ffordd o gadw'n oer wrth deithio ar draws y rhwydwaith:
Ceisiwch gysgodi
Mae gan lawer o'n gorsafoedd rywfaint o orchudd sy'n rhoi cysgod, neu hyd yn oed ardal dan do i chi ddianc rhag y gwres crasboeth. Mae cadw allan o haul uniongyrchol yn hanfodol i gadw'n cŵl ac yn gyfforddus tra byddwch yn teithio.
Dewch â ffan llaw
Gall buddsoddi mewn ffan llaw fach rhad fod yn ffordd wych o gadw'n cŵl ar drenau neu fysiau. Byddwn y systemau aerdymheru yn weithredol pob tro lle bo modd. Fodd bynnag, mewn tywydd poeth iawn, gall o hyd fod yn boeth yn y cerbydau.
Gallwch hefyd agor ffenestri ar y rhan fwyaf o fysiau a threnau i sicrhau bod drafft yn cylchredeg drwy’r cerbyd.
Cadwch yn hydradol
Sicrhewch eich bod yn dod â digon o ddŵr gyda chi i aros yn hydradol, yn enwedig os ydych yn teithio ar daith hir. Argymhellir o leiaf un litr. Fodd bynnag, ceisiwch osgoi llynciadau enfawr o ddŵr oer. Yn lle hynny, cymerwch lymeidiau rheolaidd i helpu i reoleiddio tymheredd eich corff.
Syniad: Ychwanegwch iâ at eich potel neu ei rewi dros nos ar gyfer diod oer iawn!
Gwisgwch ddillad addas
Gan fod llawer o bobl y tu mewn i fws neu drên fel arfer, nid ydych chi eisiau gwisgo gormod a fod yn anghyfforddus. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwisgo'n ysgafn, heb unrhyw ddeunyddiau trwm. Mae'n well dewis lliwiau ysgafnach gan fod lliwiau tywyll yn amsugno gwres yr haul ac yn eich gwneud chi'n boeth.
Yn ogystal, osgowch ffabrigau fel polyester, gan ddewis cotwm neu liain yn lle hynny. Bydd y rhain yn cadw'ch croen yn gysgodol ac yn eich amddiffyn rhag yr haul.
Osgowch amseroedd teithio prysur iawn
Lle bo modd, ceisiwch adael ychydig yn hwyrach neu'n gynt er mwyn osgoi'r amseroedd teithio prysuraf ar draws y rhwydwaith. Mae llai o bobl yn golygu llai o wres.
Pob hwyl ar eich teithiau drwy'r haf a mwynhewch y tywydd bendigedig wrth gadw'n ddiogel!