Skip to main content

Transport for Wales stations compete for World Cup glory

12 Hyd 2020

Mae pump o orsafoedd Trafnidiaeth Cymru wedi’u henwebu i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddod o hyd i hoff orsaf Prydain.

Dechreuodd y pleidleisio am 09:00 ddydd Llun 12 Hydref yng Nghwpan y Byd y Gorsafoedd, cyfres o bleidleisiau Twitter a drefnwyd gan y Grŵp Cyflenwi Rheilffyrdd. Cafodd 48 o orsafoedd ym Mhrydain eu henwebu yn y rownd gyntaf, gan gynnwys pum gorsaf yng Nghymru.

Yng ngrŵp Cymru, bydd Caerdydd Canolog, Casnewydd, Abertawe a Phontypridd yn cystadlu am un lle yn y rownd gyn-derfynol, tra bod Y Waun yn rhan o’r grŵp o orsafoedd a enillodd Gwobrau’r Orsaf Orau yn y Gwobrau Rheilffordd Cenedlaethol yn ddiweddar, ar ôl cael ei henwi’n Orsaf Fach Orau Prydain.

Bydd y pleidleisio yn y rownd gyntaf yn cau am 18:00 ddydd Mercher 14 Hydref, gyda’r rownd gyn-derfynol yn cael ei chynnal yn ystod y 24 awr dilynol a phenderfynir ar ganlyniad y rownd derfynol ar Ddiwrnod Gorsafoedd sef dydd Gwener 16 Hydref.

I bleidleisio, dilynwch @RailDeliveryGrp ar Twitter. Ymunwch â’r sgwrs drwy ddefnyddio’r hashnod  #WorldCupOfStations.

Ffeithiau am y gorsafoedd

Caerdydd Canolog
- Agorwyd yn 1850
- Arfer cael ei galw’n Caerdydd Cyffredinol
- O fewn pellter cerdded i Stadiwm Principality a phencadlys BBC Cymru
- Mae gan yr orsaf blatfform 0, 1, 2, 3, 4, 6, 7 a 8, ond does dim platfform 5 erbyn hyn
- Nifer yr ymwelwyr yn 2018-19: 12,934,304

Y Waun
- Agorwyd yn 1848
- Mae’r draphont rheilffordd dros Cwm Ceiriog wrth ymyl traphont hanesyddol Thomas Telford o 1801, sy’n rhan o Safle Treftadaeth y Byd Traphont Pontcysyllte
- Bu unwaith yn gyfnewidfa gyda Thramffordd Rheilffordd Gul Glynceiriog, nes iddi gau yn 1935
- Enillydd Gorsaf Fach Orau Prydain yng Ngwobrau Rheilffordd Cenedlaethol 2020.

- Nifer yr ymwelwyr yn 2018-19: 77,106

Casnewydd
- Agorwyd yn 1850
- Arfer cael ei galw’n Stryd Fawr Casnewydd
- Yr orsaf brysuraf yng Nghymru y allan i Gaerdydd
- Un o ddwy orsaf ym Mhrydain o’r enw Newport – mae’r llall yn Essex. Roedd gorsafoedd o’r enw Newport yn Swydd Amwythig ac Ynys Wyth ar un pryd.
- Nifer yr ymwelwyr yn 2018-19: 2,745,064

Pontypridd
- Agorwyd yn 1840
- Arfer cael ei galw’n Gyffordd Pontnewydd a Phontypridd Canolog
- Arferai fod yr ynys-blatfform hiraf yn y byd
- Bydd yn elwa yn sgil dyblu nifer y gwasanaethau rheilffordd fel rhan o Metro De Cymru
- Nifer yr ymwelwyr yn 2018-19: 884,132

Abertawe
- Agorwyd yn 1850
- Arfer cael ei galw’n Stryd Fawr Abertawe
-  Yn elwa ar hyn o bryd o welliannau sy'n cael eu gwneud gan Trafnidiaeth Cymru a Network Rail
-  Arferai fod yn un o saith o orsafoedd yng nghanol y ddinas – y lleill oedd Bae Abertawe, Doc Dwyreiniol, Riverside, Stryd Rutland, St Thomas a Victoria
- Nifer yr ymwelwyr yn 2018-19: 2,156,036