Skip to main content

On track for success! First batch of new Transport for Wales drivers pass with flying colours

07 Meh 2019

Mae’r criw cyntaf o yrwyr sydd newydd hyfforddi o dan Trafnidiaeth Cymru yn dweud eu bod yn hynod gyffrous o ymuno â dechrau taith 15 mlynedd.

Mae’r wyth gyrrwr cyntaf i basio wrthi’n brysur yn darparu rhai o’r 1,000 a mwy o wasanaethau dyddiol a gaiff eu rhedeg gan Trafnidiaeth Cymru.

Bydd chwech yn gweithio ar rwydwaith y cymoedd tra bydd y ddau arall yn gweithio yng Nghaerfyrddin.

Mae’r grŵp wedi mynd drwy broses hyfforddi drwyadl a barodd bron i flwyddyn er mwyn gwireddu eu breuddwydion o yrru trên.

Ymhlith y grŵp roedd Alex Payne, mam i un, a ymunodd â’r rheilffordd 11 o flynyddoedd yn ôl ar ôl gweithio fel asiant teithio.

“Rydyn ni i gyd yn falch iawn o’n hymdrech a’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni i gyrraedd yma,” meddai Alex, 44 oed.

“Roedd yr hyfforddiant yn wych ond roedd fel mynd yn ôl i’r ysgol!”

Drivers4

(Alex Payne)

Er i’r grŵp wneud y rhan fwyaf o’u hyfforddiant ar drenau hŷn yn cynnwys unedau dosbarth Pacer a Sprinter, maen nhw’n gyffrous iawn o ymuno â dechrau prosiect 15 mlynedd a fydd yn cynnwys trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd a chreu Metro De Cymru.

“Mae’n anhygoel bod yma ar ddechrau’r daith,” meddai Tom Smith, 29 oed, oedd yn arfer gweithio i’r GIG ac fel diffoddwr tân.

“Mae’r hyfforddiant a’r gefnogaeth rydyn ni wedi’u cael gan ein rheolwyr wedi bod yn wych ac rydw i’n edrych ymlaen at ddechrau arni.”

Drivers1

(Tom Smith)

Eleni, bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynyddu nifer ei wasanaethau ar y Sul yn sylweddol, yn ogystal â chyflwyno 215 o wasanaethau newydd bob wythnos sy’n cysylltu gogledd Cymru a Swydd Gaer a Lerpw.

Er ei bod hi’n aml yn anodd iawn cael swydd gyrrwr trên, daw’r recriwtiaid o bob math o gefndiroedd, rhai â phrofiad blaenorol ar y rheilffyrdd a rhai heb brofiad o gwbl.

Ymunodd Alan Walton fel Goruchwyliwr 11 o flynyddoedd yn ôl ar ôl gyrfa yn y gwasanaeth carchardai. Cafodd ei ddyrchafu’n Rheolwr Goruchwylwyr, cyn gwireddu ei freuddwyd o yrru trên. Dywedodd: “Rydw i’n falch iawn o gychwyn arni. Fedra i ddim aros i weld y trenau newydd sbon yn y dyfodol.”

Drivers2

(Alan Walton)

Mae gan Trafnidiaeth Cymru nifer o gyfleoedd gyrfa cyffrous ac amrywiol ar y gweill yn y dyfodol agos.

Caiff y rhain eu hysbysebu ar-lein yn https://www.comeaboard.co.uk/