25 Tach 2025
Bydd dau drên yr awr ar gael rhwng Caer a Wrecsam yn dilyn newidiadau i amserlen mis Rhagfyr.
O 14 Rhagfyr, bydd yr amserlen newydd yn sicrhau gwelliannau sylweddol ar draws Gogledd Cymru drwy wella cysylltiadau cymunedol, hybu teithio trawsffiniol, a darparu cyfleoedd teithio mwy hyblyg.
Mae'r rhain yn newidiadau pellach fel rhan o ddatblygiadau i Rwydwaith Gogledd Cymru.
Dyma'r newidiadau allweddol fydd yn cael eu gwneud yn Ne Cymru:
- Cyflwyno gwasanaeth newydd bob awr rhwng Caer a Wrecsam, gan ddyblu amlder y gwasanaethau i 2 drên yr awr.
- Bydd y gwasanaeth dyddiol 11:23 rhwng Caerdydd a Chaergybi nawr yn gwneud galw mewn rhagor o orsafoedd - Craven Arms (12:59) a Church Stretton (13:07).
- O ddydd Llun i ddydd Sadwrn, bydd trenau newydd ar waith am 05:54 o Bidston i Wrecsam Cyffredinol ac am 20:51 o Wrecsam Canolog i Bidston
- Bwriedir i wasanaethau 20:26 Pwllheli i Fachynlleth, a gwasanaeth 21:47 Machynlleth i Bwllheli ar hyd Lein y Cambrian barhau fel ag y mae - Gwasanaethau diweddarach ar y Cambrian i barhau drwy gydol y gaeaf yn dilyn adborth lleol
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: “Mae cysylltiadau rheilffordd yn hanfodol i sbarduno ffyniant.
“Bydd y newidiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gwsmeriaid, a fydd yn elwa o fwy o wasanaethau ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau.
“Mae hyn wedi bod yn bosibl gan ein buddsoddiad o £800m mewn trenau newydd sbon ar gyfer rhwydwaith Cymru a'r Gororau.”
Bydd yr amserlen rheilffyrdd yn newid ar 14 Rhagfyr 2025 gan gyflwyno gwelliannau a newidiadau ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth fanylach - https://trc.cymru/statws-gwasanaeth/amserlenni
Nodiadau i olygyddion
- Ar draws diwydiant rheilffyrdd y DU mae newidiadua mawr yn cael eu gwneud i amserlenni bob blwyddyn ym mis Mai ac ym mis Rhagfyr fel rhan o'r newid amserlen rheilffyrdd bob dwy flynedd cenedlaethol a gydlynir ledled Prydain Fawr.
- Mae'r amserlenni newydd bellach wedi'i hymgorffori yn y systemau cynllunio teithiau cyn y newid ar 14 Rhagfyr, felly gall cwsmeriaid chwilio am amseroedd trenau ar ôl y dyddiad hwn.
- Mae manylion gwasanaethau TrC bellach ar gael ar ein gwefan yn www.trc.cymru, a elwid gynt yn ‘Gwiriwr Taith'.