27 Hyd 2025
Ar ôl ymgysylltu â chymunedau lleol, bwriedir i wasanaethau trên gyda'r nos ar y Cambrian barhau i weithredu ar ôl newid yr amserlen ym mis Rhagfyr.
Mae'r gwasanaethau canlynol wedi'u cynllunio i fod yn rhan o'r amserlen ar ôl newidiadau eleni:
Dydd Llun i ddydd Sadwrn
- 20:26 Pwllheli - Machynlleth
- 21:47 Machynlleth - Pwllheli
Roedd y gwasanaethau hyn i fod i gael eu dileu yn ystod misoedd y gaeaf ar ôl dangos nifer isel o deithwyr yn eu defnyddio dros y gaeafau blaenorol.
Fodd bynnag, yn dilyn ymgysylltu cadarnhaol a thrafodaethau rhwng Trafnidiaeth Cymru a grwpiau cymunedol lleol, y bwriad yw y byddant yn aros yn eu lle, gyda monitro parhaus. Mae trenau newydd sbon yn dal i gael eu cynllunio i gael eu cyflwyno i'r lein y flwyddyn nesaf (2026).
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwrando ar bryderon pobl leol ac wedi cymryd camau i barhau i redeg gwasanaethau rheilffordd pwysig lle bo angen.
“Rydym wedi buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd sbon ar draws Cymru a’r Gororau, gyda gwelliannau pellach yn dod i ganolbarth Cymru yn ystod 2026.
“Rydym yn falch o fod yn cyflawni newid go iawn i bobl Cymru.”
Ychwanegodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad yn Trafnidiaeth Cymru: “Gan weithio’n agos gyda chymunedau lleol ar hyd Llinell y Cambrian, rydym yn falch o adfer y gwasanaethau nos hyn i gefnogi’r rhanbarth. Rydym yn annog pawb i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn fel y gallwn barhau i’w cefnogi yn y blynyddoedd i ddod.
“Mae’n enghraifft glir o sut mae gwrando ar y bobl yn arwain at ganlyniadau gwell i bawb. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at gyflwyno trenau newydd sbon i’r lein y flwyddyn nesaf”.
Nodiadau i olygyddion
- Mae’r gwasanaethau hyn yn aros am gymeradwyaeth gofynion manwl o wythnos i wythnos gan Network Rail. Er enghraifft, efallai na fydd modd rhedeg y gwasanaethau ar rai dyddiadau cyfyngedig ddechrau mis Chwefror oherwydd gwaith peirianneg yng Nghricieth.
- Ar draws diwydiant rheilffyrdd y DU mae dau newid mawr i'r amserlen bob blwyddyn ym mis Mai ac ym mis Rhagfyr fel rhan o'r newid cenedlaethol i amserlen y rheilffyrdd chwe misol a gydlynir ledled Prydain Fawr.
- Mae'r amserlenni newydd bellach mewn systemau cynllunio teithiau cyn y newid ar 14 Rhagfyr, felly gall cwsmeriaid chwilio am amseroedd trên ar ôl y dyddiad hwn i weld beth fyddant.
- Gellir dod o hyd i fanylion gwasanaethau TrC ar ein gwefan nawr drwy www.trc.cymru