Skip to main content

The local bus ideal for exploring Eryri National Park

21 Rhag 2023

Oeddech chi’n gwybod bod gwasanaeth bws lleol Eryri, Sherpa’r Wyddfa, yn cysylltu trefi Parc Cenedlaethol Eryri â rhai o’i lwybrau a’i atyniadau gorau? Mae’n wasanaeth rheolaidd sy’n ddelfrydol ar gyfer archwilio popeth sydd gan Eryri a’r ardal gyfagos i’w gynnig, p’un ai eich bod yn byw’n lleol neu wedi dod o bell i weld y rhan wych hon o Gymru.

Y newid yn yr hinsawdd yw un o’r bygythiadau mwyaf i barciau cenedlaethol Cymru. Mae teithio’n fwy cynaliadwy ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio yn helpu i leihau llygredd, i warchod bywyd gwyllt ac ecosystemau brodorol, ac i leihau ein hallyriadau carbon.

Dal ddim yn siŵr a allwch chi wneud hynny’n hawdd ar fws? Rydyn ni wedi llunio rhestr o ddeg antur, pob un wedi’u cysylltu gan Sherpa’r Wyddfa.

 

Traeth y Graig Ddu

Er ei enw, mae Traeth y Graig Ddu yn draeth tywodlyd i’r de o Barc Cenedlaethol Eryri ym Mhorthmadog. Dyma’r lle perffaith i fwynhau picnic neu archwilio ogofâu a phyllau glan môr y pentir, sy’n llawn bywyd morol. Mae modd ei gyrraedd ar wasanaeth Sherpa S4, sy’n rhedeg o Ben-y-Pas.

Traeth y Graig Ddu | Ymweld ag Eryri

Amserlen Sherpa S4

 

Amgueddfa Lechi Cymru

Dewch i ddarganfod hanes llechi enwog gogledd Cymru yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Mae wedi’i lleoli yn y gweithdai Fictoraidd ar safle enfawr chwarel Dinorwig, a oedd yn cael ei defnyddio hyd at 1969. Gallwch gyrraedd yr amgueddfa ar wasanaethau Sherpa S1 ac S2.

Amgueddfa Lechi Cymru | Amgueddfa Cymru

Amserlenni Sherpa S1 ac S2

 

Rhaeadr Ewynnol

Mae’r Rhaeadr Ewynnol, un o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru, ar gyrion Betws-y-coed. Mae’n rhaeadr hardd ar hyd Afon Llugwy, a Rhaeadr Ewynnol yw enw’r bobl leol arni. Mae’n hawdd gweld ei rhaeadrau ysblennydd o lan ddeheuol Llugwy neu, i gael golygfa fwy dramatig, ar hyd y llwybr troed sy’n arwain at y rhaeadr. Gallwch ei chyrraedd yn rhwydd ar y bws Sherpa S1.

NVW-E14-2122-0909-2

Rhaeadr Ewynnol | Dewch i Gonwy

Amserlen Sherpa S1

 

Bangor

Credir mai Bangor yng Ngwynedd yw’r ddinas hynaf yng Nghymru. Mae nifer o weithgareddau sy’n addas i deuluoedd yma. Ewch am dro ar hyd y pier, ewch i Ynys Seiriol neu grwydro Castell Penrhyn, cartref y teulu cyfoethog Pennant a oedd yn berchen ar chwareli llechi Bethesda gerllaw. Mae Bangor yn stop ar wasanaethau Sherpa S2 ac S3.

Pethau i’w gwneud ym Mangor

Amserlenni Sherpa S2 ac S3

 

Gweilch Glaslyn

Mae’r gwalch yn aderyn ysglyfaethus mawr sy’n cael ei ystyried yn brin yn y DU. Ewch i Gweilch Glaslyn yn Llanfrothen i gael cyfle i weld yr aderyn ysglyfaethus trawiadol hwn yn agos. Gall ymwelwyr wylio’r adar yn bwydo a gweld gweilch yn esgyn fry uwchben y dyffryn. Mae gwirfoddolwyr yn y ganolfan wrth law i ateb cwestiynau ac i adrodd stori’r adar rhyfeddol hyn. Mae’n hawdd cyrraedd y ganolfan ar wasanaeth Sherpa S4.

Cartref Gweilch Glaslyn

Amserlen Sherpa S4

 

Pen-y-Pas

Pen-y-Pas yw’r pwynt mynediad ar gyfer dau lwybr i fyny’r Wyddfa. Wedi’i adeiladu i wasanaethu Mwynglawdd Copr Britannia, bydd Llwybr y Mwynwyr yn mynd â chi heibio tri llyn – Llyn Teyrn, Llyn Llydaw a Llyn Glaslyn. Ar drywydd her? Llwybr Pyg yw’r llwybr mwyaf garw a chreigiog i gopa’r Wyddfa, gan droelli ei ffordd i fyny’r godreon i Fwlch y Moch. Mae’n hawdd cyrraedd Pen-y-Pas ar wasanaethau Sherpa S1, S2 ac S4.

NVW-C56-1617-0013-2

Pen-y-Pas | Yr Wyddfa

Amserlenni Sherpa S1, S2 ac S4

 

Porthmadog

Mae gan dref harbwr Porthmadog ddigon i’w weld a’i wneud. Mae’n llawn hanes morol a golygfeydd godidog lan y môr. Ewch ar Reilffordd Ffestiniog ac Eryri, y cwmni rheilffordd hynaf yn y byd. Ddim yn bell o Borthmadog mae Beddgelert, man gorffwys chwedlonol ci ffyddlon y Tywysog canoloesol o Gymru, Llewelyn Fawr. Gallwch deithio i’r dref lan môr hyfryd hon ar fws Sherpa S4.

Amserlen Sherpa S4

Pethau i’w gwneud ym Mhorthmadog

 

Plas Brondanw

Plas Brondanw yn Llanfrothen oedd cartref Syr Clough Williams-Ellis, y pensaer a adeiladodd bentref enwog Portmeirion yn ei arddull Baróc. Mae’r gerddi rhestredig Gradd I werth eu gweld. Wedi’u hysbrydoli gan erddi cyfnod y Dadeni yn yr Eidal, mae tirweddau Plas Brondanw wedi’u gosod fel cyfres o ystafelloedd caeedig, wedi’u cysylltu gan olygfeydd o’r mynyddoedd cyfagos. Gallwch gyrraedd yma ar wasanaeth Sherpa S4.

NVW-E14-2122-1036-2

Plas Brondanw

Amserlen Sherpa S4

 

Beddgelert

Mae Beddgelert yn bentref cerrig hardd a dyma fan cychwyn llawer o lwybrau cerdded. Mae’n adnabyddus mewn dwy chwedl Gymreig - y mynydd sy’n diflannu a Chastell Dinas Emrys, lle dywedir bod Myrddin wedi proffwydo am y tro cyntaf. Crwydrwch drwy’r dref a darganfod ei holl ryfeddodau. Mae’r pentref ar lwybrau Sherpa S3 ac S4.

Ymweld â Beddgelert

Amserlenni Sherpa S3 ac S4

 

Castell Caernarfon

Wedi’i leoli yn ninas gaerog Caernarfon, mae’r castell yn cael ei adnabod fel un o brif adeiladau’r Oesoedd Canol. Mae’r gaer hon ar lannau Afon Seiont yn llawn hanes a chwedlau. Gan gymryd dros 47 mlynedd i’w adeiladu, fe ysbrydolodd lawer o setiau teledu a ffilm, ac mae’n un o gestyll mwyaf adnabyddus Cymru. Mae modd cyrraedd Caernarfon ar wasanaethau Sherpa S1 ac S3.

NVW-C85-1920-0028-2

Castell Caernarfon | Cadw

Amserlenni Sherpa S1 ac S3

 

Cynlluniwch eich antur

Mae’r bysiau Sherpa yn ffordd wych o leihau’r ôl-troed y byddwch chi’n ei adael wrth ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri a’r ardal gyfagos, gan helpu i ddiogelu’r rhan ryfeddol hon o Gymru i bawb ei mwynhau. Mae teithio ar y bws hefyd yn golygu nad oes rhaid i chi boeni am ddod o hyd i’r mannau parcio prin.

Peidiwch ag oedi, tarwch olwg ar yr amserlenni bysiau a chynlluniwch eich antur ar Sherpa'r Wyddfa heddiw.

 

Delweddau

Pen-y-Pas: Pic Alan Dop Photography | www.alandop.com
© Crown copyright (2023) Cymru Wales