09 Mai 2022
Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae Antony Thomas, Rheolwr Iechyd Diogelwch a Llesiant, yn ysgrifennu am ei brofiad o gymorth iechyd meddwl yn y gweithle a sut mae wedi newid dros ei gyfnod gyda Trafnidiaeth Cymru.
Mae tair blynedd wir yn gallu gwneud gwahaniaeth. Fel ysgrifennodd Tolstoy: “Y ddau beth mwyaf pwerus yw amynedd ac amser.”
Pan wnes i ymuno â Trafnidiaeth Cymru yn 2019, fel llawer o sefydliadau eraill, roedd yn delio ag iechyd meddwl mewn ffordd betrus. Ar y pryd, roedd llawer llai o staff yn gweithio i’r sefydliad, ond roedd cael cymorth iechyd meddwl yn y gweithle yn bosibl. Mae’r diwydiannau trafnidiaeth yn fathau traddodiadol o dynnu coes hen ffasiwn, gydag iechyd meddwl yn bwnc na ddylid ei drafod. Roedd datgelu bod gan rywun broblem iechyd meddwl yn gyfaddefiad o wendid, er gwaethaf traddodiad y Cymry i drafod bob salwch dan haul.
Yng Nghymru, mae 40% o weithwyr yn teimlo’n anghyfforddus yn siarad â chyflogwr am ddiagnosis o iechyd meddwl. Roedd hi’n bwysig symud y sgwrs iechyd meddwl yn ei blaen - nid am resymau busnes yn unig, ond i sicrhau nad oedd dioddefwyr yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain. Er mwyn cyflawni hynny, roedd rhaid i ni adeiladu sylfeini cadarn.
Ers hynny, rydym wedi meithrin perthynas â Chymorth Cenhadaeth y Rheilffyrdd, MIND Cymru ac Amser i Newid; wedi llofnodi'r addewid ‘Amser i Siarad’ i annog pawb i siarad am iechyd meddwl; wedi datblygu Rhaglen Cymorth i Weithwyr i gefnogi cydweithwyr sy’n dioddef heriau mawr mewn bywyd; wedi hyfforddi 20 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a dros 30 o Hyrwyddwyr Lles Meddwl; wedi ffurfio’r Grŵp Gweithredu ar Les Staff i ganolbwyntio adnoddau ar egwyddorion ‘5 Cam at Lesiant’ ac wedi ennill gwobr arian yng Ngwobrau Llesiant yn y Gweithle MIND am ‘Gyflawni Effaith’.
Ond nid yw hynny’n golygu y gallwn laesu ein dwylo ac ymlacio. Dydy Iechyd Meddwl byth yn cysgu, ac os nad ydym yn cadw llygad ar y peth, byddwn yn bendant yn methu. Roedd hyn ar ei amlycaf yng nghanol y pandemig COVID, ac mae’r ynysu gorfodol gartref wedi effeithio ar lesiant meddyliol rhai o’n cydweithwyr.
Mewn ymateb i hyn – a gan adeiladu ar yr hyn sydd gennym eisoes ar waith – byddwn yn hyfforddi llawer mwy o hyrwyddwyr, gyda’r nod o gael 10% o Grŵp TrC wedi’u hyfforddi erbyn diwedd 2022. Byddwn hefyd yn darparu hyfforddiant allweddol i reolwyr llinell i ddod yn gyfarwydd â chyflyrau iechyd meddwl o fewn eu timau, yn ogystal â datblygu strategaethau cymorth da, a byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid Iechyd Galwedigaethol dan gontract i ddarparu cyngor clir ar arferion gorau o ran mynd i’r afael ag iechyd meddwl yn y gweithle gan greu ymateb sefydliadol cadarn i effeithiau niferus ‘Covid Hir’.
Ond, fel rydw i bob amser yn dweud, rydyn ni ond mor llwyddiannus â’r hyn sydd i’w weld yn y canlyniadau. Gallwn roi cyfoeth o adnoddau a phrosesau ar waith, ond heb ein pobl, nid ydyn nhw’n ddefnyddiol.
Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae, ac mae hynny’n golygu siarad â’n gilydd, gofalu am ein gilydd, ac annog pawb i siarad am eu hiechyd meddwl heb stigma a chosb. Gadewch i Ddiwrnod Amser i Siarad eleni fod yn ysbrydoliaeth ar gyfer gwneud yn siŵr nad oes neb yn ein teulu yn cael ei adael ar ôl.
Rydyn ni i gyd wedi cael cyfnodau tywyll ac mae gan pawb orffennol, ac o brofiad, rydw i wedi gweld pa mor bwysig yw cael rhywun i siarad ag ef, boed hynny’n weithiwr proffesiynol, yn gydweithiwr neu’n rhywun sy’n annwyl i chi. Fe wna i orffen gyda dyfyniad arall: “Byddai’n well gen i gerdded gyda ffrind yn y tywyllwch, nag ar fy mhen fy hun yn y goleuni.” – Helen Keller.