08 Chw 2022
Mae’r wythnos hon yn Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, yn ddathliad o’r gwaith y mae prentisiaid o bob cwr o'r wlad yn ei wneud bob dydd, a chyfle i godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.
Yn Trafnidiaeth Cymru, rydym yn recriwtio prentisiaid mewn llawer o adrannau a disgyblaethau ar draws y busnes, ac yn 2021, lansiwyd Academi Prentisiaeth, rhaglen academi sy’n helpu ein prentisiaid i ddatblygu o fewn eu rolau a rhoi’r sgiliau iddynt symud ymlaen.
Buom yn siarad â rhai o’n prentisiaid cyfredol, a’r rheini sydd wedi defnyddio eu prentisiaeth fel llwyfan i symud ymlaen i rolau parhaol o fewn TrC. Roedden ni'n awyddus i ddarganfod mwy am pam y gwnaethant benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth, a’r hyn y gall Trafnidiaeth Cymru ei gynnig i brentisiaid heddiw.
Beth yw eich rôl ac ers pa mor hir ydych chi wedi bod yn gweithio i TrC?
Demi Woodham: Rwy'n Dechnegydd Crefft Cyfnewidiol. Fy mhrif faes yw cynnal a chadw elfennau trydanol, canfod ac atgyweirio namau. Rydw i wedi gweithio yn nepo Treganna ers chwe blynedd, ac roeddwn i'n brentis am bedair blynedd.
Josh Sheppard: Rwy'n Gynorthwyydd Rheoli Prosiect yn gweithio yn nhîm Seilwaith TrC. Ymunais fel prentis yn 2019 a chwblhau’r cwrs yng nghanol 2021.
Chloe Powell: Rwy'n Swyddog Cefnogi Prosiect ar gyfer tîm Prosiectau Gorsaf. Rwyf wedi bod yn brentis gyda'r busnes ers mis Tachwedd 2020.
Rhydian Llewellyn: Rwy’n Brentis Peirianneg Sifil yn TrC.
Georgia Cope: Rwy’n Gynorthwyydd Rheoli Prosiect yn TrC. Dechreuais fy mhrentisiaeth mewn Rheoli Prosiectau ym mis Mawrth 2020.
Chris Reddington: Fi yw'r prentis cyfryngau cymdeithasol yn y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid. Dim ond newydd ddechrau yn fy rôl ydw i. Dechreuais fy siwrnai TrC ar 3 Ionawr.
Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud prentisiaeth?
Demi: Gwnes i flwyddyn yn y coleg yn astudio peirianneg fecanyddol. Aethom i ddigwyddiad gyrfaoedd ac yno, fe wnes i gwrs â phrentisiaid. Aethom ati i drafod y gwaith - roeddwn yn gwybod bryd hynny mai prentisiaeth oedd y peth i mi.
Josh: Penderfynais wneud prentisiaeth gan na wnes i erioed ragori mewn gwirionedd gydag addysg draddodiadol, a rhoddodd gyfle i mi adael a rhoi'r cyfle gorau i mi fy hun ddysgu sgiliau a chael profiad newydd.
Chloe: Cyn fy mhrentisiaeth yn TrC, roeddwn i’n teimlo bod fy nghyfleoedd i ddysgu a datblygu fy hun wedi prinhau. Roeddwn wedi gadael y coleg gan nad oeddwn yn rhy gyffyrddus ag amgylchedd yr ystafell ddosbarth ac roeddwn yn gweithio mewn swydd amser-llawn a ddim yn datblygu ynddi. Yn 2020 roeddwn yn ffodus iawn pan newidiodd hynny, gwnes gais am un o’r nifer o brentisiaethau gyda TrC a phenderfynais fy mod eisiau dysgu ac adeiladu gyrfa.
Rhydian: Fy mwriad bob amser oedd mynd ar drywydd cyflogaeth mewn peirianneg sifil ond roedd yn ymddangos mai'r unig opsiwn oedd ar gael i mi ar y pryd, oedd cofrestru yn y coleg, a oedd dros 20 milltir i ffwrdd. Ar y pryd nid oeddwn wedi pasio fy mhrawf gyrru felly allwn i ddim ymrwymo i'r cwrs. Penderfynais wneud cais am brentisiaeth fel y gallwn ddysgu yn y swydd a hefyd astudio ar gyfer cymwysterau academaidd tra'n ennill cyflog.
Georgia: Penderfynais wneud prentisiaeth ar ôl fy mlwyddyn gyntaf o arholiadau Safon A a sylweddoli fy mod yn anhapus a fy mod ar y llwybr anghywir. Nid oeddwn hyd yn oed wedi ystyried prentisiaeth nes i mi siarad â’m cefnder hŷn a sylweddoli hwyl mor dda yr oedd hi yn ei gael ar bethau. Doeddwn gen i ddim syniad ar y pryd am yr amrywiaeth ehangach o brentisiaethau - dim ond y rheini oedd yn fwy seiliedig ar grefftau.
Chris: Cyn hynny bûm yn gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel Swyddog Cyswllt Clinig Llygaid. Yn ystod fy amser yn y rôl honno, dysgais fy mod wrth fy modd yn cynorthwyo pobl a'u helpu i ddatrys problemau anodd. Gartref roeddwn i wedi bod yn helpu ffrindiau a theulu gyda materion cyfryngau cymdeithasol a chynnwys ar-lein ers blynyddoedd. Er bod gen i wybodaeth, doedd gen i ddim cymwysterau ffurfiol na phrofiad yn y maes. Roedd yn ymddangos bod y brentisiaeth hon yn cyfuno’r ddau ac yn rhoi’r profiad oedd ei angen arnaf ar gyfer gyrfa yr wyf yn ei charu.
Beth fyddech chi'n ei ddweud yw'r peth gorau am fod yn brentis?
Josh: Mae cael fy nhrochi yn y rôl wedi fy ngalluogi i fynd allan i weld y gwaith y mae TrC yn ei wneud yn uniongyrchol. Ar yr un pryd, rwy'n magu profiad am amrywiaeth o ddisgyblaethau ac arbenigeddau. Mae hefyd wedi fy ngalluogi i ennill fy nhystysgrif rheoli'n ddiogel IOSH.
Chloe: Y gallu i roi popeth rwy’n ei ddysgu ar waith yn fy nhasgau o ddydd i ddydd a chael fy nghefnogi gan dîm o gydweithwyr gwybodus. Mae amgylchedd yr ystafell ddosbarth bellach yn fusnes sy’n symud yn gyflym. Rwy'n falch iawn fy mod yn rhan ohono.
Rhydian: Mae bod yn brentis yn fy ngalluogi i fynd i'r coleg un diwrnod yr wythnos a chael profiad o weithio am bedwar diwrnod. Mae hyn yn rhoi cyfle gwych i mi ddatblygu fy nealltwriaeth o'r diwydiant yr wyf yn gweithio ynddo.
Georgia: Cyfle i gwblhau cymhwyster a gallu ennill profiad a gwybodaeth ar hyd y ffordd. Wrth gwblhau fy aseiniadau, roedd hi mor werthfawr cael pobl yn y gwaith i siarad â nhw a gofyn cwestiynau i gael dealltwriaeth lawn.
Beth mae prentisiaeth wedi’ch galluogi i’w wneud a beth ydych chi wedi’i ennill tra’n brentis yn TrC?
Demi: Fel prentis, astudiais beirianneg drydanol ac electronig hyd at radd Sylfaen. Dwy flynedd o BTEC, dwy flynedd HNC a blwyddyn ar gyfer gradd sylfaen.
Chloe: Ers i mi fod yn brentis rwyf wedi ennill diploma lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes yr oeddwn yn gallu ei gwblhau tua 5 mis yn gynnar. Hefyd, Diploma lefel 2 mewn Llythrennedd Digidol a byddaf yn dechrau ar ddiploma lefel 4 mewn Rheoli Prosiectau ym mis Ebrill. Rwyf hefyd wedi ennill cymaint o sgiliau newydd ar Excel, Teams a meddalwedd mwy pwrpasol.
Rhydian: Ers dod yn brentis, rwyf wedi cael llawer o gyfleoedd i ddysgu am bob agwedd ar yr hyn y mae TrC yn ei wneud. Yn ogystal â fy swydd, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael ysgoloriaeth technegydd ICE QUEST, a fydd yn fy helpu i ddatblygu fy ngyrfa ymhellach wrth i mi weithio tuag at fy nghymhwyster proffesiynol cyntaf.
Georgia: O fod yn brentis rwyf wedi ennill fy nghymhwyster APM PMQ ac rwyf hefyd wedi cyfarfod â chymaint o bobl ar hyd y ffordd. Rwyf wedi mynd ymlaen i wneud fy nghymhwyster IOSH a NEC3 ac wedi gallu datblygu sgiliau fel cyflwyno yn yr Academi Prentisiaethau a hefyd yn ein fforwm Datblygu Cynaliadwy TrC.
Chris: Ar hyn o bryd rydw i'n dysgu llawer iawn, ond yr hyn rydw i wedi'i ennill yn barod yw ymdeimlad o berthyn. Mae pawb yn TrC wedi bod mor groesawgar a chadarnhaol, o fy rheolwr ac aelodau tîm i bobl ar draws y busnes. Rydw i wir wedi cael fy ngwneud i deimlo'n rhan o deulu mawr.
A fyddech chi'n argymell prentisiaeth i rywun sydd am wneud un ac os felly, pam?
Demi: Byddwn bob amser yn argymell prentisiaethau. Roedd gallu gweithio ac adeiladu fy addysg yn bwysig iawn i mi. Mae angen arian i fyw ond ni ddylai hynny ddod cyn ein haddysg.
Josh: Gallwch, heb os ac oni bai, cyn belled â bod gennych ryw syniad i ba gyfeiriad yr hoffech arbenigo ynddo.
Chloe: Byddwn yn bendant yn argymell prentisiaeth i rywun sy’n ystyried gwneud un, fe helpodd agor fy llygaid i’r cyfleoedd posibl yn fy nyfodol ac mae wedi gwneud dysgu yn brofiad mwy pleserus a gwerth chweil.
Rhydian: Rwy'n argymell pawb i ystyried prentisiaeth a gweld a ydyn nhw'n gweithio i chi.
Georgia: Byddwn i 110% yn argymell prentisiaeth i rywun sy'n ei ystyried. Roeddwn i mor betrusgar i ymrwymo i brentisiaeth a fi oedd y cyntaf o fy ffrindiau i fynd amdani. Mae'n gyfle i ennill a dysgu ar yr un pryd. Rydych chi'n cael cyfarfod â phobl yn y diwydiant a gwrando ar eu profiad a'r hyn maen nhw'n ei wneud o ddydd i ddydd a sut maen nhw wedi cyrraedd lle maen nhw nawr. Cofiwch y byddwch chi'n brentis ac rydych chi yno i ofyn cwestiynau a manteisio ar unrhyw gyfle a gewch.
Chris: Nes i mi weld fy mhrentisiaeth yn cael ei hysbysebu, doeddwn i erioed wedi ei ystyried. Wrth edrych yn ôl, hoffwn pe bawn wedi achub ar y cyfle yn gynt. Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at yr hyn y mae fy mhrentisiaeth yn ei olygu a'r bobl y byddaf yn gweithio gyda nhw. Os yw eraill sy'n darllen hwn yn ystyried symud o un llwybr gyrfa i'r llall ac yn ansicr, byddwn i'n dweud ewch amdani!