Skip to main content

Three scenic walks along the Wales Coast Path with fflecsi

19 Mai 2026

Ydych chi'n ceisio cynyddu eich cyfrif camau? Am gamu i’r awyr iach gan fod y tywydd yn gynhesach? Mis Cerdded Cenedlaethol yw'r cyfle perffaith, a does dim lle gwell i ddechrau arni na Llwybr Arfordir Cymru.

Mae Mis Cerdded Cenedlaethol yn gweddu teithio ar y bws i’r dim. Gall ein gwasanaethau bws fflecsi eich helpu chi deithio ar hyd Llwybr Arfordir Cymru gan eich hebrwng o A i B. P'un a ydych chi eisiau edmygu golygfeydd gogoneddus, neu ymweld â threfi hardd, cyfrwch eich camau Mis Cerdded Cenedlaethol hwn gyda chefnogaeth fflecsi.

Petai angen rhywfaint o gyngor arnoch i baratoi ar gyfer eich taith gerdded, edrychwch ar ein prif awgrymiadau yma.

Dyma deithiau cerdded i godi calon lle mae fflecsi wrthi ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.

1. Dinbych-y-pysgod i Saundersfoot, Parth fflecsi De Sir Benfro

Cysylltu â gorsafoedd rheilffordd lleol

Taith gerdded 4.5 milltir

Saundersfoot-2

Nid yw taith i Sir Benfro yn gyflawn heb ymweld â'r trefi glan môr hyn – y Mis Cerdded Cenedlaethol hwn, gallwch weld y ddau.

Mae Dinbych-y-pysgod i Saundersfoot yn daith gerdded boblogaidd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru yn Sir Benfro, taith hanner diwrnod delfrydol. Ceir tirnodau eiconig a golygfeydd hyfryd drwyddi draw. ( Byddwch yn ymwybodol bod y daith gerdded hon yn cynnwys grisiau serth trwy goedwig.)

Gall ein bws fflecsi eich hebrwng i faes parcio Traeth y De Dinbych-y-pysgod, lle gallwch ddechrau cerdded ar hyd llwybr yr arfordir.

Gwelwch Ynys Catrin, tirnod eiconig Dinbych-y-pysgod sy'n llawn hanes morwrol. Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod ar y llwybr hwn hefyd, lle arbennig i archwilio os ydych chi angen seibiant. Byddwch hefyd yn cerdded ar hyd Traeth Monkstone, sydd megis trysor cudd gyda golygfeydd godidog.

Mae yna ddigonedd o opsiynau bwyd a diod i ddewis ohonynt ym mhentref swynol Saundersfoot; bwyd tafarn, neu sglodion gyda physgod a hufen iâ, dewiswch chi!

Mae ein parth fflecsi yn ne Sir Benfro yn gwasanaethu Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot felly nid oes rhaid i chi boeni am leoedd parcio, ffioedd parcio na phwy fydd y gyrrwr dynodedig. Ymlaciwch, gyda diod os dymunwch, ac archebwch ein gwasanaeth fflecsi i'ch codi unwaith y byddwch chi'n barod amdano.

2. Pen Cemaes, Parth fflecsi Popit

Taith gerdded 5 milltir

Am arfordir gwirioneddol garw go iawn, merlod yn pori a gwylio adar, ewch i Ben Cemaes y Mis Cerdded Cenedlaethol hwn.

Mae'r llwybr cylchol hwn yn heriol ond yn werth chweil ac yn arddangos clogwyni môr uchaf Parc Cenedlaethol Sir Benfro. Gallwch weld amrywiaeth o adar ym Mhen Cemaes sydd felly yn berffaith ar gyfer gwylwyr adar brwd. Ar ddechrau’r haf, cadwch lygad barcud am yr adar canlynol:

  • Aderyn Drycin y Graig
  • Bilidowcar
  • Brân Arthur
  • Cudyll Coch
  • Bwncath

Ydych chi'n awyddus i weld mwy o anifeiliaid ar hyd y rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru? Mae'r cynefin naturiol wedi ffynnu ers ailgyflwyno pori arfordirol, sydd yn bwydo’r cwningod lleol hefyd! Mae Bae Ceredigion yn adnabyddus am ddolffiniaid trwyn potel sydd i’w gweld ar y don. Pe baech yn cynllunio taith yn ddiweddarach yn y flwyddyn, efallai y byddwch chi'n ddigon ffodus i weld morloi, sy'n paru ar y traeth rhwng Awst a Hydref.

Gan fod hon yn daith gerdded gylchol, mae’n hawdd defnyddio fflecsi; archebwch eich taith fflecsi dwyffordd o flaen llaw.

3. Porth Dinllaen i Borth Ysgaden, Parth fflecsi Pen Llŷn

Yn cysylltu â Rheilffordd y Cambrian ym Mhwllheli

Taith gerdded 6.2 milltir

Llyn Peninsula 26403-porthdinllaen-beach-pwllheli

Gyda'n gwasanaeth fflecsi Pen Llŷn yn ailagor o Ddydd Sadwrn 23ain Mai, nawr yw’r amser perffaith i ddechrau cynllunio eich taith gerdded.

Mae cerdded o'r pentref pysgota Porth Dinllaen i dawelwch Borth Ysgadan yn cynnig golygfeydd gogoneddus, traethau tywodlyd a phentiroedd glaswelltog. Dyma daith gerdded sydd yn cael ei hystyried yn un o’r harddaf ar Lwybr Arfordir Cymru, felly mae angen ystyried hon o ddifrif y Mis Cerdded Cenedlaethol hwn.

Ym Mhorth Dinllaen, gallwch fwynhau ei harbwr hanesyddol a'i awyrgylch morol cyfoethog wrth i chi gychwyn ar eich taith gerdded.

Mae'r llwybr hwn yn cynnig golygfeydd sy'n newid yn barhaus; o weld Môr Iwerddon ar hyd y clogwyni i dywod euraidd y traethau. Cadwch lygad am forloi wrth i chi fwynhau'r golygfeydd o'r môr.

Mae yna hefyd gildraethau bach a phentiroedd sy’n arddangos y golygfeydd gwledig y mae Pen Llŷn yn enwog amdanynt. Dewch i derfyn ym Mhorth Ysgadan, y lle perffaith i gael picnic ac ymlacio ar ôl eich taith.

Mae hon yn daith gerdded o un pen i’r llall, felly mae’r fflecsi yn arbennig o ddefnyddiol i’ch codi ar ddiwedd y daith. Trefnwch eich amseroedd casglu a gollwng ar ein ap o flaen llaw i sicrhau diwrnod ymlaciol.

Mae defnyddio fflecsi wrth gerdded Llwybr Arfordir Cymru yn golygu y gallwch gael dyddiau da sy’n garedig i’r amgylchedd, heb boeni am eich car. Lawrlwythwch yr ap fflecsi, mewnbynnwch eich cyrchfan a'ch man cychwyn, ac archebwch eich taith.

Dechreuwch gynllunio'ch taith y Mis Cerdded Cenedlaethol hwn gyda fflecsi fan hyn.