Skip to main content

Our top tips for National Walking Month

06 Mai 2026

Mae'n Fis Cerdded Cenedlaethol, sef yr amser perffaith i fynd am dro i fwynhau tirweddau gwych Cymru.

P'un a ydych chi'n cynllunio taith gerdded yn y parc, neu daith gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, dyma ambell i awgrym i'ch cefnogi.

Cynllunio

Mae Mis Cerdded Cenedlaethol ym mis Mai, felly gallwn obeithio am heulwen hyfryd. Ond ― byddwch yn barod ar gyfer tywydd newidiol! Paratowch haenau, hufen haul a digon o ddŵr.

Os ydych chi'n cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, yn gyntaf cynlluniwch eich llwybr chi . Gwiriwch amseroedd llanw, amodau tywydd, hygyrchedd, ac unrhyw ddargyfeirio llwybrau.

Trafnidiaeth

Yn amlwg, Trafnidiaeth Cymru yw'r man cychwyn perffaith ar gyfer anturiaethau Mis Cerdded Cenedlaethol:

  • Trên i Ddinbych-y-pysgod ar gyfer Llwybr Arfordir Sir Benfro
  • Teithio i waelod Pen y Fan ar ein bws T4 TrawsCymru
  • Archebwch wasanaeth Fflecsi i'ch codi ar ôl taith gerdded arfordirol ar Ben Llŷn.

Mae cerdded yng Nghymru yn ffordd hyfryd, unigryw o fwynhau ein gwlad a’r awyr iach, ac rydym yma i'ch helpu ar hyd y daith.

Cofiwch wirio amserlenni cyn gadael eich cartref er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'ch taith.

Gwisgwch yn briodol

Oherwydd dyddiau cynhesach, nosweithiau oer ac amodau tywydd sydd mor newidiol, mae haenau yn hanfodol ar gyfer Mis Cerdded Cenedlaethol; haen sylfaenol, haen llewys hir a haen wrth-ddŵr.

O ran esgidiau, teimlo’n gysurus sy’n bwysig. Dewiswch esgidiau dibynadwy sy'n gyfforddus i osgoi blistyrs, neu swigod.

Bwyd a diod

P'un a ydych chi'n cymryd picnic cartref, neu yn ymweld â thafarn ar ddiwedd eich taith gerdded, mae bwyd a diod yn hanfodol. Dewch â digon o ddŵr ar gyfer hyd eich taith gerdded, a byrbrydau i gadw lefelau egni yn uchel.

Signal ffôn

Os ydych chi'n cynllunio taith hirach, mae'n debygol y byddwch chi'n colli signal ffôn symudol mewn rhai ardaloedd gwledig ac arfordirol. Cofiwch wefru'ch ffôn a dod â gwefrydd cludadwy fel nad yw’r batri yn dod i ben gyda’r hwyr. Pe baech yn dibynnu ar fapiau digidol, cofiwch gopïau ar bapur rhag ofn. Yn barod i gynllunio eich taith? Edrychwch yma am ein mannau cerdded gorau sydd ar gael i’w mwynhau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, y gallwch gyrraedd gyda fflecsi.

Dysgwch ragor am y gwahanol leoliadau y mae gwasanaethau fflecsi yn teithio iddynt a sut i archebu eich taith: https://trc.cymru/fflecsi/lleoliadau