Skip to main content

How our new trains help tackle climate change

18 Tach 2021

Bydd cyflwyno ein fflyd newydd o drenau a threnau tramiau yn trawsnewid profiad cwsmeriaid sy'n teithio gyda ni ledled Cymru a'r gororau yn llwyr. Fodd bynnag, byddant hefyd yn darparu newid sylweddol yn ein cynlluniau i ddatgarboneiddio'r rhwydwaith trafnidiaeth a dod yn sefydliad mwy cynaliadwy yng sgil heriau newid yn yr hinsawdd.

Mae tair prif ffordd y bydd ein cerbydau newydd yn cyfrannu at wneud ein rhwydwaith yn lanach ac yn wyrddach, wrth i ni weithio tuag at ein targed o gyflawni allyriadau carbon sero-net erbyn 2030 a chyrraedd nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Gwnaethom siarad â'n Cyfarwyddwr Gweithrediadau Trafnidiaeth, Alexia Course, i ddarganfod mwy am y gwahaniaeth y bydd trenau newydd yn ei wneud ar hyd phob rhan o'n rhwydwaith

Trydaneiddio

Rydym bellach yn symud ymlaen gyda'n cynlluniau i drydaneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL) fel rhan o ddatblygiad Metro De Cymru. Mae hyn yn cynnwys gosod Offer Llinell Uwchben (OLE) uwchben y cledrau, a fydd yna'n pweru'r trenau a'r trenau tram newydd y byddwn yn eu cyflwyno i'n gwasanaethau unwaith y bydd pwer yn y llinellau.

Bydd y trenau tram a'r trenau tri-modd FLIRT a fydd yn gweithredu gwasanaethau Metro ar y CVL yn cael eu pweru gan gyfuniad o bŵer trydan uwchben a batris sy'n cael eu storio ar fwrdd y tren. Fel rhan o'n cynlluniau “trydaneiddio craff”, bydd y trenau'n newid rhwng pŵer trydan a batri wrth iddynt deithio ar hyd y llinell. Mae'r math arloesol hwn o drydaneiddio yn golygu ein bod yn osgoi gorfod gwneud gwaith costus, llafurus fel codi pontydd ac addasu canopïau gorsafoedd hanesyddol.

Mae trydaneiddio'r CVL yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd yn sylweddol, o ran sŵn, allyriadau a llosgi tanwydd ffosil. Bydd y gwifrau uwchben yn cael eu pweru'n llwyr gan ffynonellau adnewyddadwy.

FLIRT viii (July 2021)

Trenau disel gwell

Ar wahan i'r CVL, y trenau rydyn ni'n eu cyflwyno ar wasanaethau Cymru a'r Gororau fydd trenau disel. Er yn ddelfrydol byddem am symud i ffwrdd o losgi tanwydd ffosil, nid yw'r rhan fwyaf o'r rhwydwaith wedi'i drydaneiddio, tra bod technolegau fel batris a hydrogen yn parhau i fod yn eu camau datblygu cynnar a byddai angen seilwaith ychwanegol arnynt o hyd.

Rydym yn gweithio'n agos gyda Network Rail, sy'n berchen ar ac yn rheoli'r rhan fwyaf o rwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, wrth iddynt ddatblygu eu Strategaeth Rhwydwaith Datgarboneiddio Tyniant. Mae hyn yn cynnig mwy o gyfle i drydaneiddio'r rhwydwaith a chreu seilwaith ar gyfer trenau batri a hydrogen yn y dyfodol.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu na fydd ein trenau disel newydd yn llawer gwell na'n trenau cyfredol. Bydd ganddyn nhw beiriannau modern a fydd yn galluogi gostyngiad o 40% yn y defnydd o danwydd, gostyngiad o 84% yn NAx a gostyngiad o thros 90% mewn gronynnau o'u cymharu â'n trenau cyfredol. Mae'r rhain nid yn unig yn cyfrannu at newid hinsawdd yn fyd-eang ond gallant hefyd fod yn niweidiol i bobl sy'n byw ger y rheilffyrdd. Bydd cael gwared ar drenau hŷn ag allyriadau uchel a rhoi trenau glanach a mwy effeithlon yn eu lle yn lleihau eu heffaith amgylcheddol yn gyffredinol a hefyd yn darparu gwell ansawdd aer i gymdogion ar ochr y llinell.

Mae'r trenau Dosbarth 230, sydd wedi'u hailgylchu o gyn-drenau London Underground mewn proses gynaliadwy, yn drenau hybrid y gellir eu pweru oddi ar y batris ar gyfer taith gyfan. Mae hyn yn darparu gostyngiad sylweddol mewn allyriadau ar Linell y Gororau rhwng Wrecsam a Bidston, yn ogystal â darparu mwy o gapasiti a gwell cyfleusterau i gwsmeriaid. Mae'r trenau hyn wedi bod yn destun profion helaeth yn ystod y misoedd diwethaf a byddant yn dechrau ar eu gwaith yn ystod 2022.

Mae ein tîm Fflyd hefyd yn gweithio i leihau segura ein trenau disel. Mae angen i'n trenau disel cyfredol segura er mwyn cadw systemau trydanol a niwmatig allweddol i redeg ar gyfer systemau gwresogi, goleuo a brecio. Fodd bynnag, mae segura helaeth yn aneffeithlon ac yn creu sŵn i'r rhai sy'n byw wrth ymyl ein depos a'n gorsafoedd. Ar hyn o bryd rydym yn ymgymryd â chynllun ar draws ein rhwydwaith i leihau segura lle bo hynny'n bosibl, a fydd yn lleihau allyriadau, defnydd tanwydd a sŵn.

Capasiti a newid y modd rydyn yn teithio

Disgwylir i fuddion ein trenau newydd fynd y tu hwnt i wella trenau cyfatebol. Bydd eu cyflwyno yn caniatáu inni wella ein hamserlenni ar gyfer cwsmeriaid, gan ddarparu gwasanaethau cyflymach, amlach a theithiau mwy cyfforddus ar draws rhwydwaith cyfan Cymru a'r Gororau.

Bydd gwasanaethau Metro De Cymru yn cynyddu i bedwar trên yr awr rhwng Caerdydd a blaenau'r cymoedd - Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful a Rhymni - tra bydd gwasanaethau uniongyrchol newydd yn cysylltu Llandudno a Chaerdydd â Lerpwl, a threnau intercity wedi’u hadnewyddu o ansawdd uchel yn rhedeg rhwng De Cymru a Manceinion. Rydym hefyd yn archwilio datblygiad cynlluniau Metro yng Ngogledd Cymru, Bae Abertawe a Gorllewin Cymru a fydd yn trawsnewid gwasanaethau yn y rhanbarthau hynny yn y dyfodol.

Disgwylir i'r gwelliant hwn yn ansawdd ac argaeledd gwasanaethau helpu i gynyddu'r galw am deithio ar reilffordd yng Nghymru a'r gororau. Bydd hyn yn annog pobl i beidio a defnyddio'r car a defnyddio math mwy cynaliadwy o gludiant, gan leihau yr effaith a gaiff cerbydau modur ar yr amgylchedd. Byddai buddsoddiad pellach yn y blynyddoedd i ddod i drydaneiddio mwy o'r rhwydwaith ac ychwanegu gorsafoedd a llwybrau newydd yn helpu i gynyddu'r newid yn y dull teithio.

Trwy ddarparu gwell integreiddio rhwng dulliau trafnidiaeth, megis gwell llwybrau cerdded a beicio i orsafoedd, gwell cyfnewidfeydd â gwasanaethau bysiau a thocynnau aml-ddull teithio sy'n cwmpasu ystod o opsiynau trafnidiaeth, rydym am ei gwneud hi'n haws i bobl wneud y dewis i newid o ddefnyddio'r car i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd hyn yn helpu i leihau ôl troed carbon a chreu byd mwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Class 197 Blaenau Ffestiniog