03 Rhag 2021
Yn Trafnidiaeth Cymru, rydym ni’n falch o gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog. Fel rhan o’n huchelgais i fod yn un o sefydliadau cynhwysol mwyaf blaenllaw Cymru, rydym yn parhau i roi cefnogaeth i'r rheini sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, fel cyflogwr ac fel darparwr gwasanaeth.
Fe wnaethom ni siarad â Karl Gilmore, ein Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd, am ein gwaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae Karl yn hyrwyddwr brwd dros gymuned y Lluoedd Arfog, ar ôl gwasanaethu yn y Fyddin am dros 14 mlynedd cyn symud i’r diwydiant rheilffyrdd. Mae’n rhan flaenllaw o’r gwaith o helpu cydweithwyr sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, ac o hyrwyddo’r gwaith rydym ni’n ei wneud i greu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Un o’r camau cyntaf i ni eu cymryd i greu cysylltiadau â’r gymuned oedd llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ddechrau 2020.
Mae’r cytundeb yn cydnabod ac yn deall y dylai’r rheini sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog ar hyn o bryd, ac sydd wedi gwneud hynny yn y gorffennol, a’u teuluoedd gael eu trin â thegwch a pharch yn y cymunedau, yr economi a’r gymdeithas pan fyddan nhw’n gwasanaethu â’u bywydau.
Fel rhan o’r adduned, rydym yn sicrhau na fydd unrhyw aelod o gymuned y Lluoedd Arfog yn wynebu unrhyw anfantais wrth i ni recriwtio ac, mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd triniaeth arbennig yn briodol, yn enwedig i bobl sydd wedi cael eu hanafu neu wedi cael profedigaeth.
Roeddwn i’n falch o fod yn rhan o’r broses o lofnodi’r adduned yma i roi cymorth a chyfleoedd i bobl sy’n gwasanaethu, neu sydd wedi gwasanaethu, yn y Lluoedd Arfog. Mae cyfle i gyflogi llu o unigolion medrus, talentog a llawn cymhelliant o gymuned y Lluoedd Arfog, i helpu TrC i drawsnewid trafnidiaeth ledled Cymru. Ers i ni lofnodi’r cyfamod, mae nifer y cyn-filwyr sy’n gweithio i TrC wedi parhau i gynyddu.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o’r Lluoedd Arfog a fydd yn cynnig cyfoeth o brofiadau a sgiliau galwedigaethol, ac rydym yn gweithio gyda’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd ac eraill i helpu cyn-filwyr a gwŷr/gwragedd/partneriaid aelodau o’r Lluoedd Arfog i gael swydd yn TrC a’r diwydiant rheilffyrdd ehangach.
Cerdyn Trên i Gyn-filwyr
Rydym hefyd yn falch o roi cefnogaeth i’n cwsmeriaid sy’n aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog, ac yn ymrwymo i drin y rheini sydd wedi gwasanaethu a’u teuluoedd gyda thegwch a pharch yn y cymunedau, yr economi a’r gymdeithas pan fyddan nhw’n gwasanaethu â’u bywydau.
Ym mis Tachwedd 2020, roeddem wedi cefnogi lansiad y Cerdyn Rheilffordd i Gyn-filwyr. Mae’r cerdyn rheilffordd cenedlaethol yma, sydd ar gael ar draws gwasanaethau rheilffyrdd y DU, yn rhoi traean o ostyngiad i gyn-filwyr oddi ar bris tocyn dosbarth cyntaf a thocyn safonol, yn ogystal â thraean o ostyngiad oddi ar bris tocyn i ail berson a enwir a hyd at bedwar o blant sy’n teithio gyda deiliad y cerdyn.
Mae’r Cerdyn Rheilffordd i Gyn-filwyr ar gael ar ffurf ddigidol neu safonol, a gall unrhyw un yn y Lluoedd Arfog wneud cais drwy ddefnyddio eu cerdyn ID ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn, eu cerdyn ID i Gyn-filwyr neu dystysgrif gwasanaeth/rhyddhau.
Mae’n bosibl gwneud ceisiadau ar-lein yn https://www.veterans-railcard.co.uk, neu drwy’r post. Mae rhagor o fanylion am sut mae gwneud cais ar gael yma: https://www.veterans-railcard.co.uk/where-to-buy/
Cydnabyddiaeth
Yn gynharach eleni, roeddem yn falch iawn o gael cydnabyddiaeth gan y Weinyddiaeth Amddiffyn o’r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud i gynorthwyo cymuned y Lluoedd Arfog.
Ym mis Gorffennaf, daethom yn un o blith dim ond 24 o gyflogwyr yng Nghymru i gael dyfarniad statws Arian gan Gynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn. Roedd yn gydnabyddiaeth o’r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud ers llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog i gynnig rhagor o gyfleoedd ac i greu amgylchedd mwy cynhwysol ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog yn TrC.
Fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar ran TrC, cefais yr anrhydedd o gasglu ein gwobr Arian yng Ngwobrau’r Lluoedd Arfog yng Nghymru a gynhaliwyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Tachwedd, gan rannu’r profiad â sefydliadau o’r un anian. Diolch o galon a llongyfarchiadau i Gymdeithas y Cadetiaid a’r Lluoedd Wrth Gefn (RFCA) yng Nghymru, Brigâd 160 y Milwyr Traed a Phencadlys Cymru, y Llynges Frenhinol a’r Awyrlu Brenhinol am drefnu’r digwyddiad gwych yma, ac i’r cydweithwyr hynny a oedd wedi helpu i ddatblygu ein syniadau a’n polisïau i adlewyrchu ein hymrwymiad.
Datblygu doniau’r dyfodol
Mae arweinyddiaeth gadarn yn hanfodol i unrhyw sefydliad, yn enwedig yn y sector seilwaith. Ym mis Tachwedd, cynhaliodd y Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil (CECA) Her Arweinyddiaeth Cymru, sef digwyddiad arweinyddiaeth a gwaith tîm a gynhaliwyd dros ddau ddiwrnod mewn partneriaeth â’r Lluoedd Arfog a Chyfamod y Lluoedd Arfog yng Ngwersyll Hyfforddi Cwrt y Gollen ger Crucywel.
Mae’r Her Arweinyddiaeth yn bartneriaeth unigryw rhwng CECA Cymru a’r Lluoedd Arfog, sy’n ceisio cynyddu potensial arwain ein haelodau iau a gwella’r cydweithio rhwng ein sectorau. Mae rhoi cyfle i arweinwyr y dyfodol, graddedigion a phrentisiaid TrC gwrdd â rhai o arweinwyr y fyddin ym Mhrydain yn un enghraifft o’r ffyrdd rydym ni’n elwa o’r bartneriaeth yma.
Roeddwn i’n falch dros ben bod chwech o dalentau ifanc TrC, gan gynnwys aelodau o’n cynlluniau graddedigion a phrentisiaethau o bob rhan o’r sefydliad, wedi gwirfoddoli i’n cynrychioli yn y digwyddiad. Rhaid i mi gyfaddef, roeddwn i’n teimlo ychydig bach o eiddigedd wrth eu gweld nhw i gyd yn eu lifrai ac yn cymryd rhan mewn tasgau gorchymyn. Diolch o galon i bawb a fu’n rhan o’r gwaith trefnu, gan gynnwys CECA, Brigâd 160 y Milwyr Traed a Phencadlys Cymru, ac RFCA Cymru, a llongyfarchiadau i arweinwyr y dyfodol am gymryd rhan – gobeithio eich bod chi wedi cael hwyl, ac wedi dysgu llawer o’r digwyddiad.
Creu cyfleoedd
Ym mis Tachwedd, roedd hi’n bleser helpu staff y stondin ar y cyd rhwng Trafnidiaeth Cymru a Balfour Beatty yn Ffair Swyddi Cymru, a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Celtic Manor gan y Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd. Dyma oedd y ffair gyntaf o’r ffeiriau swyddi hyn i gael ei chynnal wyneb yn wyneb yng Nghymru yn 2021, ac roedd yn cael ei chynnal mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, RFCA Cymru a Brigâd 160 y Milwyr Traed a Phencadlys Cymru.
Mae’r digwyddiadau yma’n gyfle amhrisiadwy i bobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog gwrdd â chyflogwyr posibl, ond maen nhw hyd yn oed yn fwy amhrisiadwy i gyflogwyr yng Nghymru er mwyn iddyn nhw weld â’u llygaid eu hunain ansawdd yr unigolion o gymuned y Lluoedd Arfog sy’n chwilio am waith. Diolch i bawb a fu’n rhan o’r gwaith o drefnu’r digwyddiad, ac i bawb a oedd yn bresennol.
Coffáu
Mae mis Tachwedd bob amser yn gyfnod prudd i gymuned y Lluoedd Arfog. Ar fore 11 Tachwedd eleni, cefais yr anrhydedd o gymryd rhan unwaith eto mewn dau ddigwyddiad coffa yng Nghaerdydd.
Y digwyddiad cyntaf oedd Pabïau i Paddington, lle’r oedd Prif Weinidog Cymru ac uwch arweinwyr eraill o’n partneriaid yn y diwydiant rheilffyrdd wedi ymuno â ni i osod torchau ar drên a oedd yn teithio i Lundain ar gyfer y gwasanaeth Coffa. Yr ail ddigwyddiad oedd ein gwasanaeth Coffa blynyddol ger y gofeb ryfel yn adeilad gorsaf Caerdydd Canolog. Ochr yn ochr â hyn, roedd adeilad ein pencadlys ym Mhontypridd hefyd wedi cael ei oleuo’n goch i nodi’r achlysur.
Roeddem yn falch o gefnogi’r digwyddiadau hyn i gofio’r rheini sydd wedi gwneud yr aberth eithaf mewn rhyfeloedd a gwrthdaro ym mhob cwr o’r byd, gan gynnwys y rheini sydd wedi gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth. Maen nhw’n dal i’n hatgoffa o bwysigrwydd heddwch, undod a pharch.