Skip to main content

LIFE-Saving defibrillators have been rolled out at stations the length and breadth of the Transport for Wales network

22 Meh 2023

Ers i’r rhaglen ddechrau ym mis Chwefror 2022, mae bron i 200 bellach ar gael mewn gorsafoedd mawr a bach.

Mae’r blychau melyn wedi cael eu cyflwyno yn Abergwaun, Caergybi, Neston a Chastell-nedd ymysg nifer o leoliadau eraill, ac maen nhw’n chwarae eu rhan allweddol yn cefnogi’r rheilffordd a chymunedau lleol.

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch, Cynaliadwyedd a Risg TrC: “Rydyn ni’n falch o gefnogi’r buddsoddiad hwn yn ein cymunedau a fydd yn rhoi gobaith i’r rheini sydd mewn angen.

“Nid yw rhain ar gyfer defnyddwyr y rheilffyrdd yn unig, maen nhw ar gyfer pawb ac maen nhw wedi’u cofrestru ar y rhwydwaith cenedlaethol.

“Mae’n werth cadw llygad amdanyn nhw wrth i chi deithio o amgylch ein rhwydwaith er mwyn i chi wybod lle maen nhw, ac os ydych chi’n gweld unrhyw ddifrod, rhowch wybod i ni.”

Bydd unrhyw un sy’n ffonio 999 mewn argyfwng yn cael ei gyfeirio at y diffibriliwr cofrestredig agosaf, felly mae’n hollbwysig eu bod yn cael eu cofrestru.

Mae holl ddiffibrilwyr Trafnidiaeth Cymru wedi eu cofrestru ar borth pwrpasol Sefydliad Prydeinig y Galon, o’r enw The Circuit, mewn partneriaeth ag Ambiwlans Sant Ioan, Cyngor Dadebru y DU a Chymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlansys.

Fodd bynnag, pan fydd diffibriliwr yn cael ei ddefnyddio, gall fynd all-lein, a dyna pam ei bod mor hanfodol gwybod pan fydd un wedi cael ei ddefnyddio neu ei fandaleiddio.

Os nad yw eich diffibriliwr wedi’i gofrestru ar The Circuit ni all gwasanaethau ambiwlans ddod o hyd iddo pan fydd ei angen fwyaf.

Felly, os ydych chi’n gwybod am ddiffibriliwr nad yw ar y rhwydwaith, gallwch helpu drwy ei lwytho i fyny i The Circuit mewn ychydig gamau:

https://www.thecircuit.uk/

Llwytho i Lawr