08 Maw 2021
Mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ac rydym yn dathlu rhai o'r menywod gwych ym maes trafnidiaeth. Mae Melanie Lawton wedi rhannu ei phrofiadau o weithio gyda menywod gwych yn ein tîm Rheilffyrdd Cymunedol.
Melanie Lawton ydw i. Fi yw Rheolwr Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru. Heddiw a phob dydd rydw i’n #DewisYrHer.
Yn unigol, rydyn ni i gyd yn gyfrifol am ein meddyliau a’n gweithredoedd ein hunain. Mae fy rôl i a’r tîm Rheilffyrdd Cymunedol ehangach wedi ymrwymo i ymgysylltu â chwsmeriaid a chymunedau. Mae fy ngwaith yn seiliedig ar berthynas gadarnhaol ac ymgysylltu â phobl a chydweithwyr i sicrhau eu bod yn teimlo’n falch o Drafnidiaeth Cymru. Mae ein brand yn gryf, rydyn ni o blaid pobl ac rydyn ni’n gwerthfawrogi gonestrwydd a dilysrwydd.
Rwy’n teimlo’n angerddol am fy ngwaith wrth i ni helpu i drawsnewid bywydau pobl, boed hynny'n feithrin hyder i deithio ar ein rhwydwaith i gefnogi pobl i gael cyfweliad am swydd neu blannu blodau i wneud ein gorsafoedd yn fwy croesawgar. Mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Yn Trafnidiaeth Cymru, rydyn ni'n gwerthfawrogi ein teulu. Er fy mod yn Rheolwr, rydw i hefyd yn fam, yn chwaer, yn ffrind, yn gyd-riant ac yn fentor. Mae’r pandemig hwn wedi herio pob un ohonom. Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod yn ni ein hunain, yn ddilys a gonest, ac wrth i ni symud ar-lein, fe wnaethom wahodd pobl i’n rhith gartrefi, ein mannau diogel. Mae’n deg dweud, gyda chefnogaeth fy nghydweithwyr a fy nheulu rheilffordd, bod gennym ni’r gefnogaeth i’n helpu ni gyda diwrnodau ac wythnosau anodd, yn ogystal â blwyddyn o heriau unigryw a dysgu gartref!
Rwy’n teimlo’n freintiedig fy mod yn amgylchynu fy hun â llawer o fenywod gwych a grymus. Mae Sherry, Mabwysiadwr Gorsafoedd yng ngorsaf Prestatyn – sy’n cael ei galw’n Fonesig Sherry – yn unigolyn rwy’n ei pharchu a’i hedmygu am ei gwaith yn yr orsaf sydd wedi ennill gwobrau a hefyd yn ei chymuned. Mae hi’n fenyw osgeiddig, wedi’i gwisgo’n drwsiadus ac yn brif drefnydd gwirfoddolwyr, ac mae hi’n goruchwylio hyd at 40 o wirfoddolwyr yn yr orsaf.
Nid yw Sherry ar ei phen ei hun yn ein tîm o 200 a mwy o wirfoddolwyr ar draws y rhwydwaith. Mae Christine yn y Waun yn falch o fod yn warcheidwad i orsaf arall sydd wedi ennill gwobrau, ac yng Ngogledd Llanrwst mae Chris yn ysbrydoliaeth greadigol sy’n dod â ‘phobl optimistaidd’ at ei gilydd gan ddod â bywyd a hapusrwydd i'r orsaf drwy osod planhigion, arddangos gwaith celf a threfnu digwyddiadau er budd elusen. Dyma lle y byddwch yn dod o hyd i mi os oes te a chacen ar gael!
Mae’r tîm Rheilffyrdd Cymunedol ehangach yn datblygu llwybr sy’n llawn sgyrsiau cymunedol, ymgysylltiad cadarnhaol ac effaith gymdeithasol sy’n rhoi boddhad. Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol yng Ngogledd Cymru yw Karen. Mae’n gweithio’n agos gyda Sharon, Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Effaith Gymdeithasol yn un o’r sefydliadau sy’n cynnal, sef Creu Menter. Maen nhw’n dîm grymus sy’n arwain y ffordd o ran cydweithio mewn partneriaeth a chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer 2021, gan gynnwys Hwb Cymunedol yng ngorsaf Llandudno, y cyntaf i gael ei gynnal gan Trafnidiaeth Cymru.
Mae Jennifer, Dawn, Zoe ac Evie yn newydd i’n teulu rheilffordd, gan ffurfio Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol newydd yn ystod 2019, sef Cyswllt De Orllewin Cymru, yn 4TheRegion. Mae’r weledigaeth sydd ganddyn nhw ar gyfer eu rhanbarth yn arloesol ac yn codi safonau ym myd Rheilffyrdd Cymunedol. O gynnal digwyddiadau i greu gweledigaeth i gynllunio cyfres o weithgareddau llesiant o’n gorsafoedd, maen nhw’n creu mannau newydd mewn gorsafoedd ac mae Jennifer yn arwain y ffordd drwy helpu pobl sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol i ymuno mewn teithiau hamdden o orsafoedd.
Mae Rebecca ym Mhartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Calon Cymru yn arwain y ffordd drwy fynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo prosiectau cydnerthedd cymunedol a llwybr cerdded Calon Cymru drwy eu sianeli cyfryngau cymdeithasol a’u presenoldeb ar-lein. Mae Sheila yn arwain y ffordd drwy weithio gyda phobl ifanc yng Nghaffi Gobowen a’r gwaith o adfer adeilad yr orsaf yng ngorsaf Gobowen. Mae gan Claire un o reilffyrdd harddaf y byd ac mae’n frwd dros dwristiaeth rheilffyrdd a rheilffordd y Cambrian.
Mae’r flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn un o’r heriau mwyaf y mae ein diwydiant wedi’u hwynebu, ac mae Rhiannon o’r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol wedi bod wrth fy ochr i drwy gydol hynny. Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi dod yn dîm cryf iawn. Rydyn ni wedi gweithio drwy heriau, wedi recriwtio swyddogion newydd ac wedi datblygu rhaglen fentora ar gyfer ein tîm ehangach. Cryfderau allweddol Rhiannon yw canfod, ymgysylltu a dod â mwy o bobl a sefydliadau amrywiol i’n partneriaethau rheilffyrdd cymunedol, gan gefnogi ein grwpiau newydd i gyflawni gwaith arloesol anhygoel.
Mae’r tîm Rheilffyrdd Cymunedol a’n teulu rheilffyrdd ar draws y rhwydwaith yn parhau i geisio herio a gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau. Rydyn ni’n codi’r safon yma yng Nghymru a’r Gororau. Gyda’n gilydd, rydyn ni i gyd yn gyfrifol am ein meddyliau a’n gweithredoedd ein hunain.
Ydych chi eisiau #DewisYrHer?