21 Rhag 2023
Oeddech chi’n gwybod bod y gyrrwr cyffredin yn y DU yn treulio bron i bedair blynedd o’i oes wrth y llyw, ac wyth mis o hynny yn sownd mewn traffig?! Mae hynny’n amser gallech chi fod yn ei dreulio’n gwneud rhywbeth sy’n bwysicach i chi.
Tro nesaf rydych chi’n teithio i’r gwaith, i’r orsaf drenau neu i’r siopau, cyn gafael yng ngoriadau’r car meddyliwch am eiliad a fyddai beicio’n ffordd well o fynd o A i B. Mae’n ddigon rhwydd ar rwydwaith beicio helaeth Cymru ac mae’n fwy iach i chi ac i’r blaned. Dyma pam.
Y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol - llawn golygfeydd godidog
Mae gan Gymru rai o’r llwybrau beicio harddaf yn y byd. Mae beicio drwy barciau, ar hyd camlesi neu afonydd, neu drwy goetiroedd godidog yn olygfa lawer gwell na syllu ar gefn y car o’ch blaen mewn traffig.
Ddim yn siŵr pa lwybr i’w ddilyn? Tarwch olwg ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, rhwydwaith sy’n ymestyn ar draws Cymru a’r DU o lwybrau cerdded neu deithio ar olwynion, gan fynd â chi i ben eich taith heb gar. Gallwch chi chwilio yn ôl pellter, rhanbarth ac amodau traffig i ddod o hyd i’r llwybr gorau i chi.
Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans
Mae beicio’n eich helpu i gadw’n heini ac i wella eich iechyd
Rydyn ni gyd yn gwybod ei bod hi’n hollbwysig cadw’n heini ac yn iach. Ond weithiau mae’n anodd dod o hyd i’r amser i fod yn egnïol yng nghanol ein ffordd brysur o fyw. Mae’r argymhellion yn dweud y dylai oedolion gymryd rhan mewn 2.5 awr o weithgarwch cymedrol bob wythnos (tua 30 munud bob dydd). Mae ymchwil yn dangos bod cadw’n gorfforol egnïol yn gallu lleihau’r risg o glefydau’r galon a’r system gylchredol cymaint â 35%.
Ffordd hawdd o wneud hyn yw beicio i’r gwaith, neu hyd yn oed dros bellteroedd byrrach lle byddech chi’n defnyddio’r car fel arfer. Mae’n ffordd hawdd o gynnwys ymarfer corff o ddydd i ddydd, gan eich galluogi i fwynhau manteision iechyd ffordd egnïol o fyw.
Canllawiau Gweithgarwch Corfforol y GIG
Mae beicio’n fuddiol i’r corff ac i’r meddwl
Mae ymarfer corff fel beicio yn gallu helpu i leihau lefelau cortisol y corff, sef hormon straen, ac yn cynyddu lefel yr endorffinau (hormonau sy’n gwneud i chi deimlo’n dda). Dengys ymchwil fod beicio’n helpu i leihau straen – mae pobl sy’n teithio ar feic yn llai tebygol o lawer o deimlo dan straen na phobl eraill.
Ffordd gynaliadwy o deithio
Nid dim ond i ni mae beicio’n fuddiol. Mae teithio cynaliadwy, fel beicio, yn golygu llai o siwrneiau car ac yn golygu bod llai o garbon sy’n cynhesu’r blaned yn cael ei allyrru i’r atmosffer. Mae llai o geir ar y lôn hefyd yn lleihau tagfeydd a llygredd aer, ac yn gwneud ein cymunedau’n fwy diogel.
Dal y trên neu’r bws?
Mae gan lawer o’n gorsafoedd fannau storio beiciau diogel, felly gallwch chi feicio, yn lle gyrru, i’ch gorsaf agosaf. Gallwch chi storio eich beic yn ddiogel neu ei gludo ar y trên wrth barhau â’ch taith gyda ni.
Yn fyr, mae beicio’n well i ni ac i’r blaned. Mae’n ffordd ymarferol a rhad o deithio, ac mae’n aml yn gyflymach na gyrru yn ystod y cyfnodau prysuraf.
Felly estynnwch am y beic, gwneud yn siŵr bod digon o aer yn y teiars, a rhoi’r helmed am eich pen. Yn ogystal ag arbed arian ar barcio a phetrol, byddwch chi’n helpu’r blaned sy’n gartref i ni gyd.