Skip to main content

December 2023 timetable and service update

19 Gor 2023

Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bethau wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond parhau y mae ein huchelgais i adeiladu rheilffordd sy’n diwallu anghenion y cenedlaethau heddiw ac yfory.

Mae ein rheilffordd yn hollbwysig er mwyn sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw’r ffordd hawsaf i bobl deithio ledled Cymru a’r gororau.

Yn Trafnidiaeth Cymru, rydyn ni’n gweithio’n galed i barhau i gyflwyno ein trenau newydd sbon cyn gynted â phosibl. Rydyn ni’n dal i ddelio â heriau’n gysylltiedig â chyflwyno’r trenau newydd hyn ar rwydwaith Cymru a’r Gororau, a’r newidiadau sydd angen eu gwneud i’r seilwaith rheilffyrdd er mwyn eu gweithredu i wella ein hamserlenni.

Rydyn ni’n gweithio’n galed gyda’n partneriaid yn Network Rail i wireddu'r gwelliannau hyn i’r seilwaith sydd eu hangen er mwyn cyflwyno ein fflyd newydd sbon o drenau a gwella ein hamserlenni. Er mwyn sicrhau rhai o’r gwelliannau, mae angen i uwchraddiadau ddigwydd gyda rhai rhannau o’r seilwaith. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i depos lle rydyn ni'n cadw ein trenau, mannau stopio ar blatfformau, croesfannau rheilffyrdd, amserlenni cynnal a chadw, amseroedd agor blychau signalau a mwy.

Rydyn ni hefyd yn gweithio’n agos gyda CAF, y gwneuthurwr trenau, i wella’r amserlenni ar gyfer cyflenwi ein trenau Class 197 newydd, a fydd yn cael eu defnyddio ledled Cymru a’r Gororau i ddarparu gwasanaethau. Oherwydd nifer o ffactorau, yn gysylltiedig â’r pandemig gan mwyaf, nid yw nifer y trenau roedden ni wedi disgwyl eu derbyn a’u cael yn barod i wasanaethu wedi cyrraedd mewn pryd, felly nid oes gennym y nifer sydd ei angen i wireddu rhai o'r gwelliannau yn ein hamserlenni.

Mae’r heriau hyn yn golygu na fydd rhywfaint o’r hyn roedden ni wedi ymrwymo i’w ychwanegu at ein hamserlenni yn digwydd ym mis Rhagfyr 2023 mwyach.

Rydym yn falch o gadarnhau y bydd y gwasanaeth bob awr o Gaer i Lerpwl, a dynnwyd yn ôl yn ystod Covid-19, yn cael ei adfer o fis Rhagfyr. Dyma un o’r ychydig wasanaethau olaf a gafodd eu dileu yn ystod Covid sydd bellach wedi’u hadfer.

Bydd allbwn yr adolygiad yn cael ei rannu â Llywodraeth Cymru yn yr hydref.

Fel rhan o’r newid hwn ac i gydnabod patrymau teithio newydd ar ôl y pandemig, byddwn hefyd yn adolygu ymrwymiadau tymor hwy i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion cwsmeriaid yn y ffordd orau a’u bod yn addas ar gyfer anghenion cenedlaethau’r dyfodol. Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal dros yr ychydig fisoedd nesaf, a gobeithio y gallwn ni rannu ein cynlluniau gyda chi yn nhymor yr hydref.

Pwrpas hyn yw sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y rhwydwaith, a gwneud yn siŵr bod ein buddsoddiad yn cael yr effaith fwyaf bosibl ar ein targedau er mwyn galluogi mwy o bobl i deithio’n gynaliadwy ledled Cymru a’r Gororau.

Yn y cyfamser, rydyn ni’n dal wedi ymrwymo i gyflwyno trefnau newydd ar draws ein rhwydwaith dros y misoedd nesaf ac i wella ein prydlondeb, ein dibynadwyedd a’n perfformiad.

Nodiadau:

Dyma wasanaethau ychwanegol na fyddwn yn eu cyflwyno yn y newid i’r amserlenni ym mis Rhagfyr 2023:

  • Gwella’r gwasanaeth rhwng Caerdydd a Cheltenham Spa i 1 trên yr awr
  • Y gwasanaeth 1 trên yr awr rhwng Maes Awyr Manceinion a Llandudno yn dargyfeirio i Fangor a’r gwasanaeth 1 trên yr awr rhwng Lerpwl Lime Street a Chaer yn cael ei ymestyn i Landudno