18 Mai 2022
Ydy oedi ar y trenau'n eich bwrw oddi ar eich echel
Peidiwch â phoeni. Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n gallu bod yn rhwystredig pan fydd rhywbeth yn tarfu ar eich taith, felly os oes cynlluniau i gau’r rheilffordd neu os bydd rhywbeth yn tarfu ar eich trên, rydyn ni yma i chi!
Mae sawl ffordd o gael gwybodaeth neu gysylltu â thîm Trafnidiaeth Cymru i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod am y newidiadau diweddaraf i amserlenni'r trenau pan fydd hynny’n fwyaf pwysig.
Mae sawl ffordd o gael gwybod:
Yr orsaf nesaf ydy…
Mae ein gwefan yn cynnwys amrywiaeth o ffyrdd cyflym a hawdd o gael gwybod lle mae eich trên nawr neu weld diweddariadau am waith gwella sydd wedi’i gynllunio, er mwyn i chi allu cynllunio ymlaen llaw.
- Gallwch gael ‘cipolwg’ o’r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer pob un o’n rheilffyrdd ar ein tudalen statws diweddaraf teithio.
- Gallwch weld manylion y gwaith sydd ar y gweill i wella’r cledrau a’r signalau a gwaith Metro.
- Cofiwch lawrlwytho ein ap symudol defnyddiol i gael gwybodaeth fyw am drenau yn eich poced.
Beth sy'n digwydd ar WhatsApp?
Erbyn hyn gallwch anfon neges uniongyrchol at dîm Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru gan ddefnyddio WhatsApp i gael cymorth amser real! Yr unig beth sydd ei angen arnoch chi yw rhif ffôn symudol a’r ap. Mae’r tîm ar gael ar
07790 952507 rhwng:
07:00-20:00 dydd Llun i ddydd Gwener
08:00-20:00 dydd Sadwrn
11:00-20:00 dydd Sul
Beth am ddefnyddio ein Gwiriwr Taith
Mae’r adnodd Gwiriwr Taith yn wasanaeth yng nghledr eich llaw sy’n darparu diweddariadau byw am drenau sydd wedi cael eu hoedi neu eu canslo. Gallwch ddewis cael diweddariadau drwy gyfuniad o negeseuon e-bost a/neu negeseuon testun i gyd-fynd â’ch anghenion.
Mae’r gwasanaeth ar gael yn rhad ac am ddim (ar wahân i gost un neges destun ar y cychwyn i gadarnhau eich rhif ffôn).
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol
Dilynwch ni ar twitter @TfWrail i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw beth sy’n amharu ar y trenau.
Gallwch hefyd ddilyn Trafnidiaeth Cymru ar Facebook a Twitter i weld newidiadau i amserlenni yn y dyfodol, er mwyn cynllunio eich taith ymlaen llaw.
Ffoniwch ni
I gadarnhau unrhyw ddiweddariadau i’r trenau, gallwch hefyd gysylltu â’n tîm ar 03333 211 202 yn ystod yr oriau agor canlynol:
Dydd Llun i Ddydd Sadwrn: 08:00 - 20:00
Dydd Sul: 10:00 - 20:00
Os yw'n well gennych chi siarad gyda ni yn Gymraeg, ffoniwch 03333 211 202 a dewiswch opsiwn 1.
Codir cost cyfraddau lleol ar alwadau i'n rhif o ffonau BT.
Sgwrsio â staff y gorsafoedd
Mae ein goruchwylwyr ac aelodau o dimau'r gorsafoedd bob amser wrth law i roi manylion i chi am unrhyw ddigwyddiadau a all darfu ar eich taith ar y trên. Mae croeso i chi eu holi!
Edrychwch ar ein posteri ar y platfform
Ydy eich technoleg wedi methu? Neu a fyddai’n well gennych chi weld copi caled o’r newyddion diweddaraf? Edrychwch ar ein posteri gwybodaeth yn y gorsafoedd i gael manylion am newidiadau i amseroedd trenau.