Skip to main content

5 ways travel can benefit your mental wellbeing

12 Mai 2022

Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ac wrth i ni adael y pandemig Covid-19 y tu cefn i ni, yma yn Trafnidiaeth Cymru rydyn ni eisiau dathlu ein rhyddid i deithio a rhannu rhai o’r manteision y gall teithio, hyd yn oed yn lleol, eu cael ar ein hiechyd meddwl.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod pum cam y gallwn ni i gyd eu cymryd i wella ein lles meddyliol a chorfforol. Dau o’r pum cam hyn yw ‘Cysylltu’ a ‘Bod yn llesol’ – gellir cyflawni’r ddau drwy deithio!

Dyma 5 ffordd y gall teithio fod o fudd i’ch lles meddyliol:

Y Rhwydwaith Cymdeithasol Go Iawn

Fel rydyn ni wedi dysgu dros y ddwy flynedd diwethaf, mae’r gallu i deithio, yn lleol ac yn fyd-eang, yn hollbwysig i iechyd meddwl da. Mae’n rhoi cyfle i ni ymweld â ffrindiau a theulu, hyd yn oed os yw’n daith gyflym i ochr arall y dref i gwrdd â ffrind am baned.

Yn TrC, rydyn ni’n ystyried bod ein rhwydwaith teithio yn Rhwydwaith Cymdeithasol Go Iawn. Mae neidio ar un o’n trenau i gwrdd â ffrind yn llawer mwy atyniadol na galwadau fideo a gweld eich ffrind mewn 2D.

Cynlluniwch eich taith, o gerdded i fynd ar y trên, yma.

Cryfhau perthnasau

Nid yn unig mae teithio yn rhoi’r gallu i ni ymweld â ffrindiau neu deulu, ond mae hefyd yn cryfhau ein perthynas â’n cyd-deithiwr ar yr un pryd. Mae teithio gyda’n gilydd yn gwella cyfeillgarwch ac yn gyfle i rannu diddordebau!

Transport for Wales-3

Rhoi hwb i’ch endorffinau

Mae llawer o bobl yn anghofio bod teithio llesol yn fath o drafnidiaeth! Gallai hyn gynnwys cerdded, beicio, sglefrio neu redeg. Mae’r mathau hyn o deithio o fudd i’n cyflwr meddwl gan fod ymarfer corff yn lleddfu straen yn naturiol; mae hefyd yn lleihau blinder, yn gwella cwsg ac yn cynyddu lefelau egni, yn ogystal â rhyddhau endorffiniaid yn yr ymennydd, sy’n gwella eich hwyliau.

Mae rhagor o wybodaeth am deithio llesol ar gael, yma.

Newid safbwynt

P’un ai a ydych chi’n neidio ar drên i Aberogwr neu’n neidio ar awyren i archwilio diwylliant newydd, gall teithio wneud lles i’n hiechyd meddwl drwy roi safbwynt newydd i ni.

Fe wnaethon ni ddysgu o gyfyngiadau symud Covid-19 bod golygfeydd newydd yn hanfodol i iechyd meddwl da. Mae hyn oherwydd bod teithio yn eich arwain i gwestiynu a herio normau bywyd bob dydd gartref sy’n gallu gwneud newidiadau cadarnhaol yn eich bywyd.

Hunan ofalu

Os ydych chi’n teimlo’n isel neu’n cael trafferth cysylltu â ffrind, ac y byddai’n well gennych fod ar eich pen eich hun, gall mynd am dro i'r parc, i’r traeth neu i’r ardal goetir leol fod yn ffordd syml o wella eich hwyliau. Mae hunan ofalu yn gallu newid sut rydych chi’n teimlo ar unrhyw adeg o’r dydd.

Eisiau rhentu beic? Mae rhagor o wybodaeth am feiciau Ovo ar gael yma.

Defnyddiwch #WythnosYmwybyddiaethIechydMeddwl eleni i gysylltu â ffrind wyneb yn wyneb, neu i fynd ar daith gerdded braf a hamddenol.

Beth bynnag fyddwch chi’n ei wneud, mwynhewch. Gadewch i ni gysylltu â byd natur!

ChirkRailStation2019.04.18-7 (2)