Skip to main content

Wales Rail Industry Gears up for Autumn

17 Medi 2019

Lansiwyd rhaglen arloesi rheilffyrdd benodol yng Nghasnewydd â’r nod o ddatblygu rhai o’r busnesau newydd gorau.

Mae ‘Lab gan Trafnidiaeth Cymru (TrC)’ yn Rhaglen Sbarduno Arloesi 12 wythnos i ddangos y cwmnïau newydd gorau a mwyaf arloesol yng Nghymru.

Bydd rhaglen TrC yn helpu i gynyddu a chyflymu nifer y cwmnïau technolegol newydd a’u cael yn barod ar gyfer gwneud cynigion o fewn 12 wythnos. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy gyfrwng cyfres o weithdai arloesi, dylunio cynnyrch a chynnig gwerth, ochr yn ochr â mentora a hyfforddiant ychwanegol.

Ar ddiwedd y rhaglen 12 wythnos, bydd ymgeiswyr yn cynnig eu datrysiadau busnes i’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau yn Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael contract gwaith a bydd eu datrysiad yn cael ei lansio wedyn ar draws rhwydwaith Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

Dywedodd Barry Lloyd, Pennaeth Profiad Cwsmeriaid: “Rydym yn frwd dros weithio gyda busnesau newydd, dyfeiswyr, entrepreneuriaid ac arloeswyr i’w helpu i fod y gorau y gallan nhw fod a gwneud gwahaniaeth go iawn i’n rheilffordd.

“Felly os oes gennych chi syniad, dyluniad neu gynnyrch y gellir ei addasu er budd y rheilffordd, yna hoffem glywed gennych chi.

“Dyma’r unig raglen rheilffordd arloesi yng Nghymru, felly rydym ar drothwy cyfnod cyffrous iawn yn ein diwydiant am ein bod yn gobeithio gwneud Cymru yn ganolfan ar gyfer rhagoriaeth ym maes rheilffyrdd.”

 

accelerator1b

Boed yn feddalwedd neu galedwedd, os yw’n arloesol a gyda photensial i gael effaith bositif ar Reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru a’u teithwyr, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Mae Grŵp 1 TrC yn lansio ym mis Tachwedd. O ganlyniad, rydym yn chwilio am gwmnïau technoleg newydd creadigol, arloesol a brwd i ymgeisio. Fel rhan o’r rhaglen bydd cyfle i chi fwynhau gweithio o’n labordy arloesi sydd wedi’i chyflwyno’n ddiweddar yng Nghasnewydd.

Bydd ein lleoliad yn rhoi popeth y byddwch chi a’ch tîm ei angen i helpu i ddatblygu a sbarduno eich busnes. Mae'r labordy’n cynnwys technoleg flaenllaw y diwydiant, mannau gwaith a gofod cydweithredu, fel bod yr amgylchedd gwaith yn berffaith i’ch tîm.

Am fwy o wybodaeth am ein Rhaglen Sbarduno, ei manteision ac esboniad o beth mae’n ei olygu, edrychwch ar y dudalen hon.

Os ydych chi eisiau cael gwybod mwy am ‘Lab gan Trafnidiaeth Cymru’ a’r rhesymau y tu ôl i’w chyflwyno, ewch i https://tfwlab.wales

Mae'r recriwtio ar agor nawr ac mae gennych chi tan 28 Hydref i ymgeisio. Mae hwn yn gyfle gwych i sbarduno a thyfu eich busnes, yn ychwanegol at gael eich cyflwyno i’r diwydiant rheilffyrdd cyffrous gwerth biliynau o bunnoedd.

Gallwch wneud cais yn uniongyrchol drwy borthol F6s: https://www.f6s.com/tfwlab/apply