01 Chw 2022
Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i roi eu barn ar brosiectau i uwchraddio cysylltiadau teithio rhwng Caerdydd a Chasnewydd ac i wella mynediad i orsaf reilffordd Cyffordd Twnnel Hafren.
Mae'r cynigion yn rhoi argymhellion allweddol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru (SEWTC) ar waith, argymhellion a oruchwylir gan Uned Cyflawni a arweinir gan Uned Gyflawni Burns a arweinir gan Trafnidiaeth Cymru ar y cyd a Llywodraeth Cymru ynghyd ag awdurdodau lleol yng Nghaerdydd, Sir Fynwy a Chasnewydd.
Nod yr uned yw datblygu rhwydwaith trafnidiaeth cynaliadwy ar draws De-ddwyrain Cymru a fydd yn gwneud cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn hawdd i bobl.
Bydd y ddau ymgynghoriad yn agor ar 1 Chwefror ac y parhau tan 11 Mawrth 2022.
Mae ymgynghoriad gorsaf reilffordd Cyffordd Twnnel Hafren, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Fynwy, yn gwahodd adborth ar amrywiaeth o opsiynau sy’n anelu at wella mynediad cerdded, beicio a bysiau i’r rhwydwaith rheilffyrdd a’i gwneud yn haws i bobl deithio – ar gyfer y gwaith neu am resymau hamdden mewn dull sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.
I gael rhagor o wybodaeth ac i weld holiadur yr ymgynghoriad, cliciwch yma.
Mae’r ail ymgynghoriad, mewn cydweithrediad â Chyngor Caerdydd a Chasnewydd, yn gwahodd safbwyntiau ar gynlluniau i wella llwybrau cerdded, beicio a bysiau ar yr A48 rhwng Caerdydd a Chasnewydd yn ogystal â gwelliannau i Lwybr 88 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol gyfochrog i gyfeiriad y De.
Teithiau traffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd yw’r rhai mwyaf cyffredin ar y rhan hon o’r M4, felly bydd creu dewisiadau amgen cynaliadwy yn hytrach na defnyddio'r car preifat yn bwrw ymlaen ag un o argymhellion allweddol yr Arglwydd Burns a SEWTC.
I gael rhagor o wybodaeth ac i weld holiadur yr ymgynghoriad, cliciwch yma.
Yn 2019, ymchwiliodd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Burns, i ffyrdd cynaliadwy o fynd i’r afael â thagfeydd ar yr M4 yn Ne-ddwyrain Cymru. Canfu'r Arglwydd Burns nad oes gan lawer o bobl ddewisiadau trafnidiaeth da yn lle'r draffordd a bod angen opsiynau trafnidiaeth newydd sylweddol. Mae Uned Gyflawni Burns yn goruchwylio’r 58 o argymhellion a gyhoeddwyd gan y comisiwn ym mis Tachwedd 2020, oll yn canolbwyntio ar helpu pobl i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy.
Dywedodd yr Athro Simon Gibson, Cadeirydd Bwrdd Cyflawni Burns a benodwyd i gyflawni argymhellion yr Arglwydd Burns: “Gyda’n gilydd, rydym yn awyddus i greu system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon ar draws De-ddwyrain Cymru sy’n cyfrannu at les cenedlaethau’r dyfodol. Bydd cael adborth gan aelodau'r cyhoedd yn ein helpu i symud ymlaen â chreu'r rhwydwaith ar lawr gwlad. Byddwn yn annog pobl i ymweld â’r ymgynghoriad ar-lein a rhannu eu barn gyda ni.”